Deiniol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Dywedir fod Deiniol yn byw fel [[meudwy]] ger [[Tyddewi]] cyn symud i'r [[mynachlog|fynachlog]] newydd ym [[Bangor Is-Coed|Mangor Is-Coed]] a sefydlwyd gan ei dad, yn ôl traddodiad. Ceir ffynnon o'r enw Ffynnon Ddeiniol yno. Eto yn ôl traddodiad dywedir mai Deiniol a [[Dyfrig]] a berswadiodd [[Dewi Sant|Ddewi Sant]] i gynnal [[Synod Llanddewibrefi]] yn [[545]].
 
Sefydlodd Deiniol [[eglwys]] ym Mangor yn Arfon neu Fangor Fawr (dinas [[Bangor]] heddiw). Roedd yn [[abad]] ar gymuned o fynachod yno yn ôl pob tebyg a chafodd ei apwyntio'n [[esgob]] cyntaf [[Esgob Bangor|esgobaeth Bangor]] (gan y brenin [[Maelgwn Gwynedd]] yn ôl un ffynhonnell, ond mae hynny'n anhebygol). Cafodd ei gladdu ymhlith yr Ugain Mil o Seintiau ar [[Ynys Enlli]], yn ôl [[Gerallt Gymro]].
 
Yn ogystal â Bangor Fawr, ceir eglwysi cysegredig i Ddeiniol yn y gogledd ym [[Marchwiail]] ger [[Wrecsam]], [[Llanuwchllyn]] a [[Llanfor]] ger [[Y Bala]], a [[Penarlâg]] (Hawarden) yn [[Sir y Fflint]] (lle codwyd [[Llyfrgell Deiniol Sant]] gan [[William Ewart Gladstone|Gladstone]]). Ceir yn ogystal [[Llanddeiniol (Ceredigion)|Landdeiniol]] yng [[Ceredigion|Ngheredigion]], ger [[Llanddewibrefi]]. Ceir ambell enghraifft o'i enw cysylltiedig ag egwlysi yn y de yn ogystal ond perthynai i'r hen [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] yn neilltuol.