Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bwydo o'r fron"

Ychwanegwyd 552 beit ,  6 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
(→‎top: Gwybodlen WD using AWB)
No edit summary
[[Delwedd:Stanisław Wyspiański, Macierzyństwo.jpg|bawd|Stanisław Wyspiański - Mam yn bwydo]]
 
Mae '''bwydo ar y fron''' yn digwydd pan fo mam yn bwydo [[llaeth]] i'w baban o gynnyrch hylifol ei [[bron]]nau. Mae'r babi yn rhoi ei geg o amgylch [[Teth (corff)|teth]] y fam ac yn sugno'r llaeth allan o'r fron. Mae llaeth y fron yn gyffredinol iachach ar gyfer y babi na [[llaeth powdr|llaeth fformiwla]] neu [[Llaeth buwch|laeth buwch]]. Nid yw pob merch yn gallu bwydo ei babi yn ddiogel. Os oes gan fenyw [[clefyd]] neu os yw hi'n cymryd [[cyffur]]iau (boed cyfreithlon neu anghyfreithlon) gall llaeth y bron niweidio'r baban wrth i'r clefyd neu'r cyffur cael ei drosglwyddo o'r fam i'r babi.
 
Mae sawl rheswm dros gymeradwyo bwydo ar y fron. Mae babanod sy'n bwydo ar y fron o dan lai o risg o ddioddef nifer o glefydau wrth i [[imiwnedd caffael]] cael ei drosglwyddo o'r fam i'r baban. Mae bwyd o'r fron yn gwneud bwydo a gofal iechyd yn rhatach. Mewn gwledydd datblygedig ac yn arbennig mewn gwledydd sy'n datblygu, mae bwydo ar y fron heb roi unrhyw ddiodydd eraill i'r babi, yn arwain at lai o farwolaethau o'r [[dolur rhydd]].
 
Mae arbenigwyr yn cytuno mai llaeth y fron yw'r maeth orau i fabi, ond nid yw pawb yn cytuno am ba mor hir y dylai mamau fwydo ar y fron, a pha mor ddiogel yw llaeth powdr masnachol.
 
Creuwyd ymgyrch fyd-eang yn erbyn cwmni [[Nestle]] oedd yn hyrwyddo mamau a chymunedau tlawd iawn i ddefnyddio [[llaeth powdr]] (a gynhyrchir gan Nestle) yn hytrach na bwydo o'r fron sydd am ddim. Er bod y cwmni wedi newid nifer o'i harferion marchnata mae dal amheuaeth ar ei dulliau a moesoldeb gwerthu llaeth powdr i'r fath raddau i wledydd heb sicrwydd o ddŵr glân a lle mae talu am laeth powdr yn wariad sylweddol fel canran incwm y teulu.<ref>https://www.youtube.com/watch?v=zKK_C8A-vxs</ref>
 
==Gweler hefyd==
* [[Llaeth powdr]]
 
{{eginyn iechyd}}