Ivor Richard, Barwn Richard: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 0 sources and tagging 1 as dead.) #IABot (v2.0.8
Add 1 book for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20211122)) #IABot (v2.0.8.2) (GreenC bot
Llinell 12:
Wrth i'r Llywodraeth Lafur newydd ddod i rym yn Mehefin 1974, penodwyd ef yn Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol i'r Cenhedloedd Unedig, lle gwasanaethodd am bum mlynedd. Chwaraeodd Richard ran yn ceisio cymodi'r ddau ochr yng nghwrthdaro y Dwyrain Canol ac yn Rhodesia.<ref>{{Citation|title=Britain and the politics of Rhodesian independence|author=Elaine Windrich|url=https://books.google.com/books?id=ZaYOAAAAQAAJ|page=264}}</ref> Daeth yn ffigwr dadleuol ar ôl i Lysgennad yr U.D.A, Daniel Patrick Moynihan, feirniadu'r Cenhedloedd Unedig am basio cynnig yn datgan bod [[Seioniaeth]] yn ffurf o hiliaeth, a cyhuddodd Richard ef o ymddwyn "fel y Wyatt Earp gwleidyddiaeth ryngwladol"; yn fuan wedi hynny diswyddwyd Moynihan gan [[Henry Kissinger]].
 
Roedd Richard yn gadeirydd Cynhadledd Genefa ar [[Rhodesia]] o 28 Hydref i 14 Rhagfyr 1976. Galwyd y gynhadledd i weithredu cytundeb Henry Kissinger gyda Prif Weinidog [[Ian Smith]] o Rhodesia o'r mis blaenorol i greu llywodraeth dros dro i lywyddu tra bod cyfansoddiad newydd rheol-y-mwyafrif yn cael ei ysgrifennu.<ref>{{Cite book|title=[[The Great Betrayal|Bitter Harvest: Zimbabwe and the Aftermath of Its Independence]]|last=Smith|first=Ian|publisher=[[John Blake (journalist)#John Blake Publishing|John Blake Publishing]]|year=2008|isbn=978-1-84358-548-0|location=London|pages=212–213[https://archive.org/details/bitterharvestzim0000smit/page/212 212]–213|author-link=Ian Smith}}</ref> Ond roedd y gwahanol genedlaetholwyr Affricanaidd o Rhodesia yn gwrthod cydnabod y cytundeb ac ni wnaed unrhyw gynnydd yn ystod chwe wythnos y gynhadledd. Roedd Smith yn ddeifiol yn ei driniaeth o Richard yn ei hunangofiant, gan nodi "diffyg uniondeb a dewrder" Richard o fethu cadw i delerau cytundeb Kissinger.<ref>Smith 2008: 222</ref>
 
Disodlwyd Richard o fewn misoedd pan ddaeth y llywodraeth Geidwadol newydd i rym ym 1979. Fodd bynnag, ym 1980, cafodd ei ddewis gan y Blaid Lafur i gymryd un o'r swyddi ar y Comisiwn Ewropeaidd (gan ddisodli [[Roy Jenkins]]). Roedd yn hysbys mai trydydd dewis y Blaid Lafur oedd ar gyfer y swydd: roedd y cyn-Gweinidog Trysorlys [[Joel Barnett]] wedi gwrthod y gwahoddiad, a roedd y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn, Fred Mulley wedi cael ei atal gan y llywodraeth Geidwadol. Cymerodd Richard gyfrifoldeb am Gyflogaeth, Polisi Cymdeithasol, Addysg a Hyfforddiant.