Seiffr Caesar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Add 1 book for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20211005sim)) #IABot (v2.0.8.1) (GreenC bot
Add 2 books for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20211122)) #IABot (v2.0.8.2) (GreenC bot
Llinell 81:
# mae ymosodwr yn gwybod bod seiffr Caesar yn cael ei ddefnyddio, ond nid yw'n gwybod gwerth y sifft.
 
Yn yr achos cyntaf, gellir torri'r seiffr gan ddefnyddio'r un technegau ag ar gyfer seiffrau amnewid syml cyffredinol, er enghraifft dadansoddi amledd.<ref>{{Cite book|title=Cryptology|url=https://archive.org/details/cryptologyintrod0000beut|last=Beutelspacher|first=Albrecht|author-link=Albrecht Beutelspacher|year=1994|publisher=[[Mathematical Association of America]]|isbn=0-88385-504-6|pages=9–11[https://archive.org/details/cryptologyintrod0000beut/page/9 9]–11}}</ref> Wrth wneud hwn, mae'n debygol y bydd ymosodwr yn sylwi'n gyflym bod yna batrwm rheolaidd ac felly'n diddwytho mai seiffr Caesar a ddefnyddir.
[[Delwedd:English_letter_frequency_(alphabetic).svg|alt=|chwith|bawd|Mae gan ddosraniad llythrennau mewn sampl nodweddiadol o destun Saesneg siâp unigryw a rhagweladwy. Mae seiffr Caesar yn sifftio'r y dosbarthiad hwn, ac mae'n bosibl darganfod y sifft benodol a defnyddir trwy edrych ar y graff amledd.]]
Yn yr ail achos, mae torri'r cynllun hyd yn oed yn fwy syml. Gan mai dim ond nifer gyfyngedig o sifftiau posib (29 yn Gymraeg, 25 yn Saesneg), gellir ceisio pob un yn ei dro mewn ymosodiad ''"brute-force"''.<ref>{{Cite book|title=Cryptology|url=https://archive.org/details/cryptologyintrod0000beut|last=Beutelspacher|first=Albrecht|author-link=Albrecht Beutelspacher|year=1994|publisher=[[Mathematical Association of America]]|isbn=0-88385-504-6|pages=8–9[https://archive.org/details/cryptologyintrod0000beut/page/8 8]–9}}</ref> Un ffordd o wneud hyn yw ysgrifennu darn bach o'r destun-seiffr mewn tabl o'r holl sifftiau posib.<ref>{{Cite journal|last=Leighton|first=Albert C.|date=April 1969|title=Secret Communication among the Greeks and Romans|url=https://archive.org/details/sim_technology-and-culture_1969-04_10_2/page/139|journal=Technology and Culture|volume=10|issue=2|pages=139–154|doi=10.2307/3101474|jstor=3101474}}</ref><ref>{{Cite book|title=Elementary Cryptanalysis: A Mathematical Approach|url=https://archive.org/details/elementarycrypta00sink_982|last=Sinkov|first=Abraham|author-link=Abraham Sinkov|last2=Paul L. Irwin|year=1966|publisher=Mathematical Association of America|isbn=0-88385-622-0|pages=[https://archive.org/details/elementarycrypta00sink_982/page/n21 13]–15}}</ref> Rhoddir enghraifft ar gyfer y destun-seiffr Saesneg "{{mono|EXXEGOEXSRGI}}"; gallwn adnabod y destun-plaen ar unwaith fel sifft o bedwar.
 
Dull ''"brute-force"'' arall yw ceisio cyfateb dosraniadau amledd y llythrennau. Trwy graffio amleddau llythrennau yn y destun-seiffr, a thrwy wybod dosraniad disgwyliedig y llythrennau hynny yn iaith wreiddiol y destun-plaen, gallwn yn weddol hawdd sylwi ar werth y sifft trwy edrych ar ddadleoliad nodweddion penodol y graff. Gelwir hyn yn ''ddadansoddiad amledd''. Er enghraifft, yn yr iaith Saesneg amleddau'r llythrennau {{mono|E}}, {{mono|T}}, yw'r amlaf, ac {{mono|Q}}, {{mono|Z}} yw'r lleiaf aml.<ref>{{Cite book|title=The Code Book|last=Singh|first=Simon|author-link=Simon Singh|year=2000|publisher=Anchor|isbn=0-385-49532-3|pages=[https://archive.org/details/codebook00simo/page/72 72–77]|url=https://archive.org/details/codebook00simo/page/72}}</ref> Gall cyfrifiaduron hefyd wneud hyn trwy fesur pa mor dda y mae'r dosraniad amledd gwirioneddol yn cyd-fynd â'r dosbarthiad disgwyliedig; er enghraifft gan ddefnyddio'r ystadegyn <math>\chi</math>-sgwâr.<ref>{{Cite web|url=http://www.cs.trincoll.edu/~crypto/historical/caesar.html|title=The Caesar Cipher|access-date=2008-07-16|last=Savarese|first=Chris|last2=Brian Hart|date=2002-07-15}}</ref>