Tomen y Mur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle
| suppressfields = cylchfa
| ynganiad = {{wikidata|property|P443}}
| sir = [[Gwynedd]]
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
}}
 
[[Delwedd:TomenyMur.jpg|bawd|chwith|Tomen y Mur]]
[[Delwedd:TomenyMur2.jpg|bawd|chwith]]
Mae '''Tomen y Mur''' neu '''Mur y Castell''' yn safle caer Rufeinig a chastell o'r cyfnod Normanaidd yng [[Gwynedd|Ngwynedd]]; {{gbmapping|SH709384}}.
 
Llinell 11:
 
Credir i'r gaer Rufeinig gael ei hadeiladu o gwmpas [[77]] neu [[78]] OC. yn ystod ymgyrchoedd [[Agricola]] yn y cylch. Yn wreiddiol roedd muriau pridd yn amgylchynu sgwar o tua 1.7 ha.. Yng nghyfnod yr ymerawdwr [[Hadrian]], tua [[120]] OC., ail-adeiladwyd y gaer mewn carreg. Cafwyd hyd i ddeg maen gyda arysgrifau yn cofnodi gwneud y gwaith yma gan wahanol "ganrifoedd" o filwyr; mae un o'r meni hyn yn awr yn nhafarn y Grapes, [[Maentwrog]]. Credir fod y gaer wedi ei gadael erbyn canol yr 2g. Gellir gweld nifer o olion Rhufeinig diddorol yno, gan gynnwys [[amffitheatr]] fechan, baddondy a ''mansio'', gwesty ar gyfer teithwyr. Roedd y gaer ar ffordd Rufeinig [[Sarn Helen]], a gellir gweld olion y ffordd yn y cyffiniau hefyd, gan gynnwys olion y bont lle roedd yn croesi Nant Tyddyn-yr-ynn, ychydig islaw [[Llyn yr Oerfel]], oedd yn cyflenwi dŵr i'r gaer. Rhedai ffordd Rufeinig arall drosodd i [[Pennant-Lliw|Bennant-Lliw]] ac i gaer Rufeinig [[Caer Gai]] ger [[Llyn Tegid]].
 
[[Delwedd:TomenyMur1.jpg|bawd|chwith|Mwnt y castell]]
 
Mae cyfeiriad at Domen y Mur, dan yr enw "Mur y Castell" yn y [[Pedair Cainc y Mabinogi|bedwaredd gainc o'r Mabinogi]], chwedl ''[[Math fab Mathonwy]]''. Mae [[Lleu Llaw Gyffes]] a [[Blodeuwedd]] yn byw yno, wedi i Flodeuwedd gael ei chreu gan y dewin [[Gwydion]] fel gwraig i Lleu.
 
[[Delwedd:TomenyMur.jpg|bawd|chwithdim|Tomen y Mur]]
[[Delwedd:TomenyMur2.jpg|bawd|chwithdim]]
[[Delwedd:TomenyMur1.jpg|bawd|chwithdim|Mwnt y castell]]
 
== Yr Oesoedd Canol ==
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am y castell, [[castell mwnt a beili]] yn yr arddull Normanaidd. Tomen y castell sydd wedi rhoi ei enw i'r safle; mae wedi ei adeiladu o fewn y gaer Rufeinig fel bod muriau'r gaer yn ffurfio'r beili. Credir ei fod yn dyddio o ran olaf yr [[11g]], ac efallai fod ganddo gysylltiad â'r ymladd rhwng y Normaniaid a [[Gruffudd ap Cynan]] am reolaeth ar [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]]. Gwyddir i [[Wiliam II, brenin Lloegr]] fod ar ymgyrch yma yn [[1095]].
 
Mae'r safle yng ngofal [[CADW]] ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr [[heneb]] hon gyda'r rhif SAM unigryw: ME078.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref>
==Llyfryddiaeth==
*Frances Lynch, ''A guide to ancient and historic Wales: Gwynedd'' (HMSO, 1995)
 
==Gweler hefyd==
*[[Caerau Rhufeinig Cymru]]
 
==Llyfryddiaeth==
Mae'r safle yng ngofal [[CADW]] ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr [[heneb]] hon gyda'r rhif SAM unigryw: ME078.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref>
*Frances Lynch, ''A guide to ancient and historic Wales: Gwynedd'' (HMSO, 1995)
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 32 ⟶ 34:
{{Caerau Rhufeinig Cymru}}
 
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith y ganrif 1af]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yr 2il ganrif]]
[[Categori:Caerau Rhufeinig Cymru]]
[[Categori:Cestyll mwnt a beili Cymru]]
[[Categori:Hanes Gwynedd]]
[[Categori:Cestyll Gwynedd]]
[[Categori:Hanes Gwynedd]]
[[Categori:Maentwrog]]
[[Categori:Pedair Cainc y Mabinogi]]
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Gwynedd]]
[[Categori:Trawsfynydd]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith y ganrif 1af]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yr 2il ganrif]]