Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cnocell Magellan"

Ychwanegwyd 606 beit ,  8 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
No edit summary
Tagiau: Manual revert Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) iOS app edit
No edit summary
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) iOS app edit
 
Mae'r gnocell Magellan yn bridio yn ystod gwanwyn yr [[Hemisffer Deheuol]], rhwng [[Hydref]] ac [[Ionawr]]. Mae'r ddau ryw yn cydweithredu wrth gloddio ceudod y nyth mewn boncyff. Mae'r tyllau nythu wedi'u lleoli ar wahanol uchderau yn dibynnu ar ba fath o goeden a ddefnyddir, a nodweddion cynefinoedd lleol. Mae'r ceudod nythu fel rheol rhwng 5 a 15 m (16-49 tr) uwchben y ddaear. Mae benywod yn dodwy o un i bedwar wy, gyda mwyafrif helaeth o nythod yn cynnwys dau wy. Mae'r rhieni sy'n unweddog (ffyddlon i un partner) yn rhannu'r holl dyletswyddau cloddio, deori, amddiffyn tiriogaeth ac amddiffyn yn erbyn ysglyfaethwyr, a magu’r rhai ifanc. Mae oedolion fel arfer yn bridio bob yn ail flwyddyn, nodwedd nad yw wedi'i dogfennu mewn unrhyw rywogaeth cnocell y coed arall. Mae gori yn para am 15 i 17 diwrnod, gyda'r gwryw, mae’n debyg, yn gwneud y gori nosol. Mae'r ieuengaf o'r ddau epil, yn aml, yn marw o newyn. Mae’r cyw yn hedfan ar ôl tua 45 i 50 diwrnod. Ar ôl 2-3 blynedd o gael cefnogaeth eu rhieni yn y flwyddyn gyntaf, ac yna yn eu cynorthwyo, mae'r gnocell Magellan ifanc yn aeddfedu'n rhywiol. Fodd bynnag, nid yw bondiau bridio rhwng yr ifainc yn cael eu sefydlu tan 4 i 5 oed.
==Ecoleg==
 
Gwyddys am nifer o ysglyfaethwyr posib, y rhan fwyaf yn adar ysglyfaethus yn unig. Ymhlith y rhain mae’r [[bwncath gyddfwyn]] ‘’Buteo albigula’’, y [[bwncath amrywiol]] ‘’B. polyosoma]]’’, y [[gwalchdeuliw]] ‘’Accipiter bicolor’’, a’r [[caracara cribog]] ‘’Caracara plancus‘’ (yr olaf yn hela rhai ifanc yn unig). Pan ddônt ar draws yr ysglyfaethwyr hyn y tu allan i’r tymor nythu, mae cnocellod Magellan fel arfer yn ymateb trwy fod yn dawel ac aros yn eu hunfan. Fodd bynnag, yn ystod y tymor nythu mae’r cnocellod hyn yn ymosod yn ffyrnig arnynt.
 
==Statws cadwriaethol==
8,014

golygiad