Joseph Justus Scaliger: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B s
Tagiau: Golygiad cod 2017
cyf
Llinell 2:
[[Ieitheg]]wr ac [[hanesydd]] [[Ffrancod|Ffrengig]] oedd '''Joseph Justus Scaliger''' ([[5 Awst]] [[1540]] – [[21 Ionawr]] [[1609]]) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau arloesol at [[amseryddiaeth]].
 
Ganed ef yn [[Agen]],<ref>{{cite book|title=Hebrew Bible / Old Testament. III: From Modernism to Post-Modernism. Part I: The Nineteenth Century - a Century of Modernism and Historicism|author1=Magne Saebo|author2=Christianus Brekelmans|publisher=Isd|year=1996|page=315|language=en}}</ref> tref ar lan [[Afon Garonne]], yn [[Teyrnas Ffrainc|Nheyrnas Ffrainc]], yn ddegfed plentyn i'r meddyg ac athronydd Eidalaidd [[Julius Caesar Scaliger]], a'i wraig o Ffrances. Derbyniodd elfennau cyntaf ei addysg gan ei dad. Pan yn 11 oed anfonwyd ef, ynghyd â'i ddau frawd, i Goleg [[Bordeaux]], lle y llafuriodd yn bennaf i ddysgu'r iaith [[Lladin|Ladin]]. Torrodd pla allan yn y dref, a dychwelodd yntau adref i Agen. Cymerodd ei dad eilwaith ofal ei addysg, a gorfododd ef i ysgrifennu traethawd Lladin ar ryw fater hanesyddol bob dydd, a thrwy'r ymarferiad hwn daeth y dyn ieuanc yn berffaith gyfarwydd â'r iaith honno. Weithiau, gosodai ei dad ef ar waith i ysgrifennu rhai o'i gyfansoddiadau barddonol ef ei hun, yr hyn a fu yn foddion i greu yn y bachgen hoffter at farddoniaeth; a chyn bod yn 16 oed gwnaeth gais i gyfansoddi [[trasiedi|treisgan]] ar stori'r Brenin [[Oedipus]]. Pan oedd yn 19 oed, bu farw ei dad, ac wedi hynny aeth yntau i [[Paris|Baris]], lle yr ymroddodd i astudio'r iaith [[Groeg (iaith)|Roeg]]. Ar y cyntaf, aeth i wrando ar ddarlithiau'r clasurydd [[Adrianus Turnebus]], ond pan y deallodd y gallai wneuthur mwy o gynnydd wrth astudio wrtho'i hun, cyfyngodd ei hun i'w ystafell, a dechreuodd ddarllen yr [[llenyddiaeth Hen Roeg|awduron Groegaidd]]. Dechreuodd gyda [[Homeros]], ac mewn dwy flynedd, y rhai a dreuliwyd ganddo mewn neilltuaeth fawr, yr oedd wedi darllen ymron yr holl feirdd a rhyddieithwyr Groegaidd enwog. Yna fe drodd ei sylw at ieithoedd dwyreiniol, y rhai hefyd a ddysgwyd ganddo wrtho'i hun: yr [[Hebraeg]], y [[Syrieg]], a'r [[Perseg|Berseg]]. Daeth yn fuan i allu ymffrostio y medrai siarad 13 o ieithoedd, hen a diweddar, a'r fath oedd ei ymroddiad i'w efrydiau y pryd hwn fel nad oedd yn caniatáu iddo'i hun ond ychydig o oriau i gysgu bob nos, a byddai am ddyddiau yn olynol yn eistedd i ddarllen, heb o'r bron gymryd amser i fwyta.
 
Nid oes ond ychydig iawn yn wybyddus am ddigwyddiadau bywyd Scaliger o'r blynyddoedd 1565 hyd 1593, ond iddo fod yn teithio cryn lawer, ac yn ymweld â phrifysgolion Ffrainc, [[yr Almaen]], a'r [[Teyrnas yr Alban|Alban]]. Tybir iddo deithio yn [[yr Eidal]] hefyd. Yn ystod yr amser hwn y gadawodd efe [[Eglwys Rhufain]], ac y daeth i broffesu [[Protestaniaeth]], yr hyn, debygid, oedd y rheswm na chafodd efe un swydd gyhoeddus yn Ffrainc. Ym 1593, gwahoddwyd ef i gymryd cadair ieithyddiaeth ym [[Prifysgol Leiden|Mhrifysgol Leiden]], lle y treuliodd y gweddill o'i oes. Yr oedd efe yn un o'r amryw o ddysgedigion mawrion a ystyrir hyd heddiw yn brif addurniadau Prifysgol Leiden, ac ymhlith ei ddisgyblion yr oedd ei gyfaill [[Hugo Grotius]]. Nid llawer o ddigwyddiadau cyffrous y gwyddys amdanynt mewn cysylltiad â'i fywyd yn [[Holand]]. Yn wir, ymddengys ei fod wedi ei lyncu i fyny gan ei efrydiau, fel nad oedd yn talu ond ychydig iawn o sylw i achosion bywyd cyffredin, a threuliai lawer o ddyddiau yn ei fyfyrgell, heb o'r bron feddwl am gymryd lluniaeth, a dywedir ei fod weithiau yn hynod o dlawd. Cynigiodd amryw bersonau o radd uchel, y rhai a edmygent ei dalent a'i ddysg, ei gynorthwyo yn ei amgylchiadau cyfyng, ond yr oedd yn rhy falch i dderbyn unrhyw rodd. Ni bu erioed yn briod. Ymddengys ei fod yn debyg o ran ei gymeriad i'w dad, oherwydd yr oedd yn hynod falch, ac fel yntau, efe a ymddygai tuag at ei wrthwynebwyr llenyddol gyda dirmyg. Bu farw Scaliger o'r [[dyfrglwyf]] yn Leiden yn 68 oed.<ref>{{cite book | last = Schneiders | first = Marc | title = Celtic studies in the Netherlands : a bibliography | publisher = School of Celtic Studies, Dublin Institute for Advanced Studies | location = Dublin | year = 1992 | isbn = 9781855001565 | page=71|language=en}}</ref>
 
Fel beirniad, saif yn uchel iawn, ac ychydig ydyw nifer y dysgedigion y gellir eu cymharu ag ef. Y mae rhai o'i ysgrifeniadau hyd heddiw yn cynhyrchu syndod ac edmygedd ar gyfrif y ddysgeidiaeth anarferol a amlygir ynddynt, wedi ei uno â synnwyr a chraffter digymar ymron. Er ei fod yn ei feirniadaeth ar eiriau, ac yn ei welliadau a'i ddyfaliadau,, yn fynych yn rhy eofn a mympwyol, eto y mae'r oll a wnaeth yn dwyn argraff ei athrylith fawr, ac nid yn fynych y gwna ei hun yn agored i'r cyhuddiad o anghywirdeb. Y pennaf o weithiau Scaliger ydyw ei '''De Emendatione Temporum'', yr hwn sydd yn cynnwys cyfundrefn o amseryddiaeth wedi ei threfnu ar egwyddorion sefydlog, a enillodd y gwaith hwn iddo y teitl o dad y wyddor o amseryddiaeth. Rhifai ymysg ei gyfeillion ddysgedigion pennaf ei ddydd, megis [[Justus Lipsius|Lipsius]], [[Isaac Casaubon]], Grotius, [[Daniël Heinsius|Heinsius]], [[Claude Dupuy|Claude]] a [[Pierre Dupuy]], [[Claudius Salmasius|Saumaise]], [[Gerardus Vossius|Vossius]], Velser, a [[Pierre Pithou]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Testun Y Gwyddoniadur Cymreig}}