Prifysgol Friedrich Schiller Jena: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cats
Tagiau: Golygiad cod 2017
cyf
Llinell 2:
[[Prifysgol gyhoeddus]] a leolir yn [[Jena]] yn nhalaith [[Thüringen]], [[yr Almaen]], yw '''Prifysgol Friedrich Schiller Jena''' ({{iaith-de|Friedrich-Schiller-Universität Jena}}).
 
Sefydlwyd academi yn Jena ym 1548, a chafodd ei ddyrchafu'n brifysgol ym 1558<ref>{{cite book | last = Hermans | first = FirstName | title = Charters of foundation and early documents of the universities of the Coimbra Group | publisher = Gwasg Prifysgol Leuven | location = Leuven | year = 2005 | isbn = 9789058674746 | page=58 | language=en}}</ref> dan yr enw Prifysgol Holl Sacsonaidd Ddugol (''Herzoglich Sächsische Gesamtuniversität''). Hon oedd prifysgol newydd [[Etholyddiaeth Sachsen]], wedi i'r dalaith honno golli [[Prifysgol Wittenberg]] i Dŷ Witten yn sgil [[Rhyfel Schmalkalden]]. Fe'i gelwid ar lafar yn Brifysgol Jena neu Salana (am ei fod ar lannau [[Afon Saale]]). Daeth y brifysgol i'r amlwg yn rhyngwladol yn y 18g, pryd yr oedd athronwyr o fri, gan gynnwys [[G. W. F. Hegel]], [[Johann Gottlieb Fichte]], a [[Friedrich Schiller]], yn addysgu yno. Enwyd y brifysgol ar ôl Schiller ym 1934.
 
Mae gan y brifysgol adrannau diwinyddiaeth, y gyfraith, meddygaeth, athroniaeth, economeg, mathemateg, cemeg, bioleg, ffiseg a seryddiaeth, seicoleg, addysg, addysg gorfforol, a thechnoleg; ac athrofeydd ieithoedd, astudiaethau clasurol ac hanes meddygaeth a gwyddorau natur, yn ogystal â [[gardd fotaneg]] a [[llysieufa]].<ref>{{cite web|url=https://www.uni-jena.de/en/Schools|title=Faculties|website=University of Jena|language=en|access-date=30 Tachwedd 2021}}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==