Carabiner: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen WD using AWB
Cymrodor (sgwrs | cyfraniadau)
B cywiro treiglad bach, yna ychwanegu am baragleidio
Llinell 4:
Math arbennig o ddolen fetel gyda gât sbring-lwythog sy'n cael ei ddefnyddio i gysylltu cydrannau yn gyflym, yw '''carabiner.'''<ref>{{Cite web|url=http://www.mountaindays.net/content/articles/dictionary.php#karabiner|title=Climbing Dictionary & Glossary|access-date=2006-12-05|website=MountainDays.net|archiveurl=https://web.archive.org/web/20070103112848/http://mountaindays.net/content/articles/dictionary.php#karabiner|archivedate=2007-01-03}}</ref> Mae'n cael ei ddefnyddio gan amlaf mewn systemau diogelwch. Mae'r gair yn ffurf fyrrach o'r gair Almaeneg ''Karabinerhaken'', sy'n golygu "bachyn sbring" a ddefnyddir gan reifflwr cabin i gysylltu eitemau i wregys.<ref>{{Cite web|url=http://www.etymonline.com/index.php?search=Karabiner|title=Online Etymology Dictionary|website=etymonline.com}}</ref>
 
Mae carabiners, a elwir yn aml yn Fodrwyon-D gan filwyr proffesiynol, yn cael eu defnyddio'n helaeth mewn gweithgareddau rhaff fel [[dringo]], coedyddiaeth, ogofa, hwylio, balŵn awyr poeth, paragleidio, achub rhaffau, [[adeiladu]], gwaith rhaff diwydiannol, glanhau ffenestri, achub dŵr gwyn, ac acrobateg. Maent wedi'u gwneud yn bennaf o [[Dur|ddur]] ac [[alwminiwm]]. Mae'r rhai a ddefnyddir mewn chwaraeon yn tueddu i fod yn ysgafnach na'r rhai a ddefnyddir ym myd masnach ac wrth achub gyda rhaffau. Yn aml yn cael eu galw'n glipiau-carabiner neu mini-biners, mae cylchau allweddi carabiner a chlipiau defnydd ysgafn eraill mewn steil a dyluniad tebyg hefyd wedi dod yn boblogaidd. Caiff y rhan fwyaf eu stampio â rhybudd “Ddim ar gyfer Dringo” neu rybudd tebyg oherwydd diffyg o ran profi llwythi a safonau diogelwch mewn gweithgynhyrchu. Er ei fod o safbwynt [[Geirdarddiad|geirdarddiadol,]] mae unrhyw ddolen fetel gyda gât sbring yn carabiner, mae'r defnydd llym yn y gymuned [[Dringo|ddringo]] yn cyfeirio'n benodol at y dyfeisiau hynny a weithgynhyrchir ac a brofwyd ar gyfer cludo llwythi mewn systemau sy'n hanfodol ar gyfer diogelwch fel dringo creigiau a mynyddoedd. [[Delwedd:Benutzung_eines_Karabiners.gif|bawd|Defnyddio carabiner |alt=]]Defnyddir carabiners ar [[Balŵn ysgafnach nag aer|falwnau aer poeth]] i gysylltu'r amlen â'r fasged ac maent wedi'u graddio ar 2.5 tunnell, 3 tunnell neu 4 tunnell.<ref>{{Cite web|url=http://cameronballoons.co.uk/support#hot-air-balloon-maintenance-manual-en|title=Cameron Balloons Maintenance Manual (refer to section 6.6.4)|access-date=2015-03-28}}</ref> Carabiners sydd hefyd yn bachu harnais y sawl sy'n paragleidio at linellau'r gleider.
 
Mae DMM International Ltd, yr unig gwmni sy'n gweithgynhyrchu carabiners yng nghwledyddngwledydd Prydain, wedi'i leoli yn [[Llanberis]], Gwynedd.<ref>{{Cite web|url=https://dmmclimbing.com/About|title=DMM International Ltd|date=|access-date=|website=DMM International Ltd|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==