Gregory Peck: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwybodlen, ffynonellau Tagiau: Golygiad cod 2017 |
B s Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 11:
Ganed ef yn [[La Jolla]], [[Califfornia]], yn fab i fferyllydd o dras [[Americanwyr Seisnig|Seisnig]] a [[Americanwyr Gwyddelig|Gwyddelig]], a'i wraig o dras Seisnig ac [[Americanwyr Albanaidd|Albanaidd]]. Mynychodd Academi Filwrol St John yn [[Los Angeles]] ac Uwchysgol [[San Diego]] cyn iddo astudio am un flwyddyn yng Ngholeg Taleithiol San Diego. Derbyniodd ei radd o [[Prifysgol Califfornia, Berkeley|Brifysgol Califfornia, Berkeley]]. Aeth i [[Dinas Efrog Newydd|Efrog Newydd]] i gychwyn ar ei yrfa actio, ac yno astudiodd yn y Neighborhood Playhouse a gweithiodd yn Radio City Music Hall.Ymddangosodd ar lwyfan [[theatr Broadway|Broadway]] yn gyntaf ym 1942 yn y ddrama ''The Morning Star''. Oherwydd anaf i'r cefn, ni châi ei dderbyn i'r lluoedd arfog yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]].
Ymddangosodd Peck ar y sgrin fawr yn gyntaf fel herwfilwr Sofietaidd yn y ffilm ryfel ''Days of Glory'' (1944). Cafodd ei enwebu am [[Gwobr yr Academi|Wobr yr Academi]] am ei rannau yn ''The Keys of the Kingdom'' (1944) a ''Gentleman's Agreement'' (1947). Yn y 1940au a'r 1950au gweithiodd Peck gyda nifer o gyfarwyddwyr ffilm amlyca'r cyfnod, gan gynnwys [[Alfred Hitchcock]], [[King Vidor]], [[William Wellman]], [[William Wyler]], [[
Ymhlith ei rannau diweddarach mae'r tad yn y ffilm arswyd ''The Omen'' (1976), y Cadfridog [[Douglas MacArthur]] yn y ffilm fywgraffyddol ''MacArthur'' (1977), a [[Josef Mengele]] yn ''The Boys from Brazil'' (1978). Bu farw Gregory Peck yn Los Angeles yn 87 oed.<ref>{{eicon en}} "[https://archive.today/dBidE Gregory Peck, a Star of Quiet Dignity, Dies at 87]", ''[[The New York Times]]'' (12 Mehefin 2003). Archifwyd o'r [https://www.nytimes.com/2003/06/12/obituaries/gregory-peck-a-star-of-quiet-dignity-dies-at-87-2003061292387831326.html dudalen we wreiddiol] drwy gyfrwng archive.today ar 26 Tachwedd 2021.</ref>
|