Pelagius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cywiro teipos Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 18:
Un o ddisgyblion ysbrydol Pelagius oedd yr awdur a adweinir fel [[Y Brython Sisilaidd]]. Ysgrifennodd gyfres o lithiau radicalaidd yn dwyn y teitl ''De Divitis'' ("Ynghylch y Goludog"), llithiau a leisiodd gefnogaeth i'r blaid radicalaidd ymhlith dilynwyr Pelagius. Ceir ynddynt syniadau herfeiddiol iawn, am greu cymdeithas gwbl gyfartal gydag eiddo yn cael ei rhannu gan bawb. Ei ebychiad oedd ''Tolle divitem"'' ("I lawr â'r goludog!").
Mae'r dystiolaeth yn gymysg am ddylanwad Pelagiaeth yn y Brydain ôl-Rufeinig a'r Gymru gynnar. Yn ôl traddodiad, ymwelodd Sant [[Garmon]] (Germanus) a oedd yn Esgob
Cynhaliwyd y gondemniaeth Gymraeg ar Pelagius gan Richard Davies yn 'Epistol at y Cembru' a ragflaena'r cyfieithiad o'r Testament Newydd a wnaethpwyd gan William Salesbury yn 1567; a chan haneswyr fel Humphrey Llwyd; Charles Edwards; a Theophilus Evans sy'n traethu amdano'n estynedig yn Nrych y Prif Oesoedd. Er eu bod yn unfrydig yn gwrthwynebu Pelagiaeth maent yn mynnu mai gŵr dysgedig a galluog oedd Pelagius ei hun.
|