Francisco Goya: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 7:
Arlunydd o [[Sbaen]] oedd '''Francisco José de Goya y Lucientes''' ([[30 Mawrth]] [[1746]] – [[16 Ebrill]] [[1828]]).<ref>{{cite book | last = Gomm | first = Sarah | title = Francisco Goya | publisher = Parkstone International | location = New York | year = 2019 | isbn = 9781783104178 | language=en}}</ref> Ystyrir ef fel yr olaf o'r [[Hen Feistri]], ond hefyd yn ffigwr allweddol yn natblygiad arlunwaith fodern, gan ddylanwadu ar arlunwyr fel [[Édouard Manet|Manet]] a [[Pablo Picasso|Picasso]].
 
Ganed Goya yn [[Fuendetodos, [[Sbaen]], yn Nheyrnas [[Aragón]] yn 1746. Symudodd y teulu i [[Zaragoza]] yn ddiweddarach, ac addysgwyd ef yno. Daeth yn brentis i'r arlunydd José Luján pan oedd yn 14 oed. Yn ddiweddarach, symudodd i ddinas [[Madrid]] lle astudiodd dan [[Anton Raphael Mengs]], ond ffraeodd ag ef a methodd gael mynediad i'r Academi Frenhinol.
 
Teithiodd i [[Rhufain|Rufain]] ac yna dychwelodd i Zaragoza. Astudiodd dan [[Francisco Bayeu y Subías]], a phriododd Josefa, chwaer Bayeu, yn 1774. Dechreuodd ennill sylw fel arlunydd ac ennill comisiynau. Erbyn y [[1790au]] roedd yn ffefryn y teulu brenhinol, ond wedi iddo ddioddef twymyn yn [[1792]], aeth yn fyddar. Treuliodd bum mlynedd yn adfer ei iechyd, gan ddarllen llawer am y [[Chwyldro Ffrengig]]. Cyhoeddodd gasgliad o luniau dan y teitl ''[[Caprichos]]'' yn [[1799]].
 
Pan feddiannwyd Sbaen gan Ffrainc gan ddechrau rhyfel 1808–1814, dechreuodd Goya weithio ar gyfres o brintiau ''[[commons:Category:Los desastres de la guerra|Trychinebau rhyfel (Los desastres de la guerra)]]''. Bu farw Josefa yn 1812. Symudodd i [[Bordeaux]] a [[Paris]] yn [[1824]], gan ddychwelyd i Sbaen yn [[1826]] ac yna mynd i Bordeaux eto, lle bu farw yn 1828 yn 82 oed.
 
{| border=1 align=right cellpadding=4 cellspacing=0 width=220 style="margin: 0 0 1em 1em; background: #f9f9f9; border: 1px #aaaaaa solid; border-collapse: collapse; font-size: 95%;"
Llinell 22:
|}
 
[[Delwedd:Goya.colossus.jpg|chwith|bawd|225px|''Y Colossus'', 1810.]]
 
==Cyfeiriadau==