Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Francisco Goya"

Ychwanegwyd 87 beit ,  11 mis yn ôl
lluniau
No edit summary
Tagiau: 2017 source edit
(lluniau)
Tagiau: 2017 source edit
 
== Ymweliad â'r Eidal ==
Yn 14 oed astudiodd Goya o dan yr arlunydd José Luzán.<ref>Connell (2004), 14</ref> Symudodd i Madrid i astudio gydag [[Anton Raphael Mengs]], peintiwr poblogaidd gyda brenhiniaeth [[Sbaen|Sbaen.]] Aeth Goya a'i feistr benben a'i gilydd, ac roedd ei arholiadau'n anfoddhaol. Cyflwynodd Goya gynigion ar gyfer y <nowiki><i>''Real Academia de Bellas Artes de San Fernando</i></nowiki>'' ym 1763 a 1766 ond gwrthodwyd mynediad iddo i'r byd academaidd.<ref>Hagen & Hagen, 317</ref>
 
[[Rhufain]] oedd prifddinas ddiwylliannol Ewrop a ddaliai holl brototeipiau hynafiaeth glasurol, tra nad oedd gan Sbaen gyfeiriad artistig cydlynol o unrhyw fath, ar y pryd. Ar ôl methu ag ennill ysgoloriaeth, symudodd Goya ar ei draul ei hun i Rufain yn hen draddodiad artistiaid Ewropeaidd, traddodiad a oedd yn ymestyn yn ôl i [[Albrecht Dürer]] a chyn hynny.<ref name="h34">Hughes (2004), 34</ref> Nid oedd yn berson amlwg ar y pryd ac felly mae'r cofnodion yn brin ac yn ansicr. Mae bywgraffwyr cynnar yn crybwyll iddo deithio i Rufain gyda chriw o ymladdwyr teirw, lle bu’n gweithio fel acrobat stryd, neu'n gweithio i ddiplomydd [[Rwsiaid|Rwsiaidd]], neu wedi cwympo mewn cariad â lleian ifanc hardd.<ref name="h37">Hughes (2004), 37</ref> Mae'n bosibl bod Goya wedi cwblhau dau baentiad mytholegol sydd wedi goroesi yn ystod yr ymweliad, ''Aberth i Vesta'' ac ''Aberth i Pan'', y ddau wedi'u dyddio i 1771.<ref>Eitner (1997), 58</ref>
 
== Madrid (1775–1789) ==
[[Delwedd:El_Quitasol_(Goya).jpg|bawd|290px310px| ''Y Parasol'', 1777]]
Cynorthwyodd y briodas ac aelodaeth Francisco Bayeu yn 1765 o’r ''Real Academia de Bellas Artes de San Fernando -'' a chyfarwyddiaeth y gweithiau tapestri o 1777 Goya i ennill comisiwn ar gyfer cyfres o gartwnau tapestri ar gyfer y Ffatri Tapestriau Brenhinol. Dros gyfnod o bum mlynedd dyluniodd tua 42 o batrymau, a defnyddiwyd llawer ohonynt i addurno ac inswleiddio waliau cerrig [[El Escorial]] a'r ''[[Palas Brenhinol El Pardo|Palacio Real del Pardo]]'', preswylfeydd brenhinoedd Sbaen. Er nad oedd dylunio tapestrïau yn uchel ei barch nac yn talu'n dda, mae ei gartwnau'n boblogaidd gan ddefnyddio'r [[Rococo|arddull rococo]], a defnyddiodd Goya nhw i ddod â sylw ehangach iddo'i hun.<ref name="hh7">Hagen & Hagen, 7</ref>
 
== Arlunydd llys ==
Ym 1783, comisiynodd yr Iarll Floridablanca, ffefryn y Brenin Siarl III, Goya i baentio ei bortread. Daeth yn ffrindiau â Luis, hanner brawd y Brenin, a threuliodd ddau haf yn gweithio ar bortreadau o'r ''Infante'' a'i deulu.<ref>Tomlinson (2003), 147</ref> Yn ystod y [[1780au]], tyfodd ei gylch o noddwyr i gynnwys Dug a Duges Osuna, y Brenin a phobl nodedig eraill y deyrnas a baentiodd. Yn 1786, cafodd Goya swydd gyflogedig fel peintiwr i Siarl III.
[[Delwedd:La_familia_del_infante_don_Luis.jpg|chwith|bawd|240x240px290px|Teulu’r ''Infante Don Luis'', 1784. Magnani-Rocca, [[Parma]]]]
 
Penodwyd Goya yn un o arlunwyr llys brenhinol Siarl IV (ym 1789). Y flwyddyn ganlynol daeth yn Baentiwr y Llys Cyntaf, gyda chyflog o 50,000 o 'realau Sbaenaidd' a lwfans o 500 ducat ar gyfer coets i'w gludo. Peintiodd bortreadau o'r brenin a'r frenhines, a Phrif Weinidog Sbaen Manuel de Godoy a llawer o uchelwyr eraill. Mae'r portreadau hyn yn nodedig gan nad oedden nhw'n ffals, nac yn peintio pawb ar eu gorau; mae ei ''Siarl IV o Sbaen a'i Deulu'' yn asesiad arbennig o greulon o'r teulu brenhinol.{{Efn-ua|"Even if one takes into consideration the fact that Spanish portraiture is often realistic to the point of eccentricity, Goya's portrait still remains unique in its drastic description of human bankruptcy". Licht (1979), 68}} Mae dehonglwyr modern yn ystyried y portread yn ddychanol; credir ei fod yn datgelu'r llygredd y tu ôl i reolaeth Siarl IV. Credwyd bod gan wraig y brenin, Louisa y pŵer go iawn, ac felly gosododd Goya hi yng nghanol portread y grŵp. O gefn chwith y paentiad gellir gweld yr arlunydd ei hun yn edrych allan ar y gwyliwr, ac mae'r paentiad y tu ôl i'r teulu yn darlunio [[Lot (Beibl)|Lot]] (o'r Beinbl) a'i ferched, ac felly'n adleisio neges sylfaenol llygredd a dadfeiliad unwaith eto.
 
== Cyfnod canol (1793–1799) ==
[[File:Courtyard with Lunatics by Goya 1794.jpg|bawd|''Iard gyda Phobl Gwallgo'' (''Corral de locos)''; 1794]]
''Mae La Maja Desnuda'' (''La maja desnuda'') wedi cael ei ddisgrifio fel "y ferch noethlymun maint-llawn gyntaf yng nghelf y Gorllewin" heb esgus i ystyr unrhyw alegori neu fytholeg.<ref>Licht (1979), 83</ref> Mae hunaniaeth y ''Majas'' yn ansicr. Y modelau a enwir gan amlaf yw Duges Alba, y credid weithiau bod Goya wedi cael perthynas â hi, a Pepita Tudó, meistres Manuel de Godoy. Nid yw'r naill ddamcaniaeth na'r llall wedi'u gwirio, ac mae'n parhau i fod yr un mor debygol bod y paentiadau'n cynrychioli ffrwyth ei ddychymyg, neu ei ffantasi.<ref>"[http://www.museodelprado.es/en/the-collection/online-gallery/on-line-gallery/obra/the-nude-maja/ The Nude Maja, the Prado]". Retrieved 17 July 2010.</ref>