Evan Davies (cenhadwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
 
==Cefndir==
Ganwyd Davies yn Hengwm, plwyf [[Lledrod]], Ceredigion yn blentyn i William ap Dafydd ap Siôn ap Lystan<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2600321/2889021/23#?xywh=-217%2C468%2C2625%2C1706 Trysorfa y Plant Cyf. XXX Rhif. 356 - Awst 1891; ''Fy Nhad David Jones Bethel'' (cefnder Davies)] adalwyd 5 Mehefin 2020</ref> amaethwr. Addysgwyd ef yn [[Ysgol Neuaddlwyd]] ac Academi’r Gorllewin yng [[Caerwysg|Nghaerwysg]]<ref>[[s:Enwogion Ceredigion/Evan Davies (cenhadwr)|Williams, Benjamin; Enwogion Ceredigion, erthygl Evan Davies (cenhadwr): ar Wicidestun]]</ref>. Yn ystod ei blentyndod symudodd ei rieni i [[Llundain|Lundain]] a magwyd Davies gan aelodau'r teulu yn ardal Lledrod.
==Gyrfa==
Swydd gyntaf Davies oedd fel prentis i ddilledydd. Symudodd wedyn i weithio efo'i dad yn Llundain. Fe'i derbyniwyd yn aelod o gapel Annibynwyr Y Boro yn Little Guilford Street. Ym 1827 symudodd yn ôl i Gymru i weithio ger [[Abertawe]] gan ymuno a chapel Annibynwyr [[Mynydd-bach]], lle dechreuodd bregethu. Wedi cyfnod yn Neuaddlwyd a Chaerwysg yn paratoi am y weinidogaeth ordeiniwyd ef yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr yn [[Great Torrington]], [[Dyfnaint]]. Wedi ychydig flynyddoedd yn Nyfnaint fe'i hordeiniwyd i waith y genhadaeth dramor yng Nghapel Wycliffe, Llundain. Aeth i Penang, yng Nghulfor Malaca. Sefydlodd Davies ysgol breswyl ar gyfer bechgyn Tsieineaidd a'u hyfforddi yn yr iaith [[Saesneg]] yn ogystal â "chyfarwyddyd Ewropeaidd" arall.<ref>[https://archive.org/details/memorialsprotes00wyligoog/page/n102/mode/2up?q= Erthygl ar Evan Davies yn Memorials of Protestant Missionaries to the Chinese: Giving a List of Their Publications gan Alexander Wylie] adalwyd 5 Mehefin 2020</ref> Wedi pedair blynedd yn China torrodd ei iechyd a bu'n rhaid iddo ymadael a'r wlad.<ref>[https://doi.org/10.1093/ref:odnb/7234 Davies, Evan (1805-1864), Congregational minister. Oxford Dictionary of National Biography] adalwyd 5 Mehefin 2020</ref> Wedi cyrraedd yn ôl i Lundain ym 1840 penodwyd Davies yn asiant dros achos y genhadaeth i China, yn codi arian at ei waith. Ym 1842 fe'i penodwyd yn arolygydd Ysgol Genhadol y Bechgyn yn [[Walthamstow]], ac ym 1844 symudodd i [[Richmond upon Thames (Bwrdeistref Llundain)|Richmond]], [[Surrey]],<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2414565/2471318/24#?xywh=-413%2C1619%2C3148%2C2047 Old Wales a monthly magazine of antiquities for Wales and the Borders - NotesCyf 1 rhif 11] adalwyd 5 Mehefin 2020</ref> lle bu'n gwasanaethu fel gweinidog yr eglwys Gynulleidfaol am dair blynedd ar ddeg. Ym 1857 cafodd alwad i fod yn weinidog yn [[Heywood, Manceinion Fwyaf|Heywood]], [[Manceinion]], cyn symud i Dalston, Llundain ym 1863.
Llinell 28:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{wicitestun|Categori:Evan Davies (cenhadwr)|Evan Davies (cenhadwr)}}
 
{{Rheoli awdurdod}}