Cytundeb Waitangi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen WD using AWB
Rescuing 2 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8.5
Llinell 5:
Arwyddwyd '''Cytundeb Waitangi''' ([[Saesneg]]:'''Treaty of Waitangi''', [[Maori (iaith)|Māori]]: '''Tiriti o Waitangi''') ar [[6 Chwefror]] [[1840]] gan gynrychiolwyr Coron Prydain a phenaethiaid [[Maorïaid|Māori]] amrywiol o [[Ynys y Gogledd]], [[Seland Newydd]].
 
Arweiniodd y Cytuniad at sefydlu swydd Llywodraethwr Prydain dros Seland Newydd, cydnabyddiaeth o berchnogaeth y Māori dros eu tiroedd a’u heiddo, ac fe roddwyd i’r Māori hawliau fel deiliaid Prydeinig. Mae fersiynau Saesneg a Māori y Cytundeb yn wahanol yn sylweddol, felly nid oes consensws ynghylch beth yn union y cytunwyd iddynt. O safbwynt Prydain, rhoddodd y Cytundeb sofraniaeth i Brydain dros Seland Newydd a’r hawl i’r Llywodraethwr i lywodraethu'r wlad. Credodd y Māori ar y llaw arall eu bod yn ildio i'r Goron yr hawl i lywodraethu mewn cyfnewid am ddiogelwch, a’u bod yn parhau i fod ag awdurdod i reoli eu materion eu hunain.<ref>{{cite web |url=http://www.waitangi-tribunal.govt.nz/treaty/meaning.asp |title=Meaning of the Treaty |year=2011 |publisher=Waitangi Tribunal |accessdate=12 July 2011 |archive-date=2011-05-14 |archive-url=https://web.archive.org/web/20110514220056/http://www.waitangi-tribunal.govt.nz/treaty/meaning.asp |url-status=dead }}</ref> Ar ôl y llofnodi cychwynnol yn [[Waitangi]], aed â chopïau o'r Cytundeb o gwmpas Seland Newydd a thros y misoedd canlynol fe’i llofnodwyd gan benaethiaid eraill. Roedd cyfanswm o naw copi o'r Cytundeb Waitangi gan gynnwys y gwreiddiol a'i llofnodwyd ar 6 Chwefror 1840.<ref>{{cite web|url=http://www.archives.govt.nz/exhibitions/treaty|title=Treaty of Waitangi – Te Tiriti o Waitangi|publisher=[[Archives New Zealand]]|accessdate=10 August 2011}}</ref> Fe wnaeth tua 530-540 o benaethiaid, o leiaf 13 ohonynt yn fenywod, arwyddo Cytuniad Waitangi.<ref>{{cite web|url=http://www.waitangi-tribunal.govt.nz/treaty/|publisher=Waitangi Tribunal|accessdate=10 August 2011|title=Treaty of Waitangi}}</ref><ref>C. Orange.The Treaty of Waitangi.Bridget Willians .1987.Appendices P 260</ref>
 
Hyd at y 1970au, ystyrir bod y Cytundeb yn gyffredinol wedi gwasanaethu ei bwrpas yn Seland Newydd y 1840au, ac fe'i hanwybyddwyd gan y llysoedd a senedd fel ei gilydd. Fe’i dehonglwyd yn hanes Seland Newydd fel gweithred hael ar y rhan Coron Prydain, a oedd ar y pryd yn ei anterth.<ref>{{cite web|url=http://www.nzhistory.net.nz/politics/treaty/the-treaty-in-practice/the-treaty-debated|title=The Treaty in practice: The Treaty debated|accessdate=10 August 2011|publisher=[[nzhistory.net.nz]]}}</ref> Mae’r Māori wedi edrych tuag at y Cytundeb am ddatrysiadau mewn achosion o gam-drin hawliau, colli tir a thriniaeth anghyfartal gan y wladwriaeth, gyda llwyddiant cymysg. O ddiwedd y 1960au dechreuodd y Māori dynnu sylw at achosion o dorri'r Cytundeb, ac mae hanes diweddar wedi pwysleisio problemau gyda'r cyfieithiad Māori o’r cytundeb.<ref>{{cite web|url=http://www.waitangi-tribunal.govt.nz/treaty/meaning.asp|publisher=Waitangi Tribunal|title=Treaty of Waitangi – Meaning|accessdate=10 August 2011|archive-date=2011-05-14|archive-url=https://web.archive.org/web/20110514220056/http://www.waitangi-tribunal.govt.nz/treaty/meaning.asp|url-status=dead}}</ref> Yn 1975, sefydlwyd Tribiwnlys Waitangi fel comisiwn parhaol gyda’r dasg o ymchwilio i achosion o dorri’'r Cytundeb gan y Goron neu ei gynrychiolwyr ac awgrymu dulliau o wneud iawn am hyn.
 
Heddiw fe’i hystyrir yn gyffredinol fel y ddogfen a sefydlodd Seland Newydd fel cenedl. Er hyn, mae'r Cytundeb yn aml yn destun dadlau brwd, a llawer o anghytuno rhwng y Māori a’r rhai o Seland Newydd nad ydynt o dras Māori. Mae llawer o’r Māori yn teimlo nad yw'r Goron yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y Cytundeb, ac wedi cyflwyno tystiolaeth o hyn o flaen y Tribiwnlys. Mae rhai nad ydynt o dras Māori wedi awgrymu bod y Māori yn camddefnyddio'r Cytundeb er mwyn hawlio "breintiau arbennig".<ref name=orewaspeech>{{cite web|url=http://www.national.org.nz/article.aspx?articleid=1614|title=Orewa Speech -Nationhood|author=Dr [[Donald Brash]]|date=26 March 2004|accessdate=20 March 2011|archive-date=2013-02-09|archive-url=https://web.archive.org/web/20130209164121/http://www.national.org.nz/article.aspx?articleid=1614|url-status=dead}}</ref><ref name="Michael Laws and John Tamihere">{{cite web|url=http://www.radiolive.co.nz/AUDIO-Laws-vs-JT-on-the-Treaty-of-Waitangi/tabid/506/articleID/25775/Default.aspx|title=AUDIO: Laws vs. JT on the Treaty of Waitangi|author=[[Radio Live]]|date=1 February 2012|accessdate=8 February 2012}}</ref> Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes raid i’r Goron weithredu ar argymhellion y Tribiwnlys, ond serch hynny mewn sawl achos, mae’r Goron wedi derbyn ei bod yn torri'r Cytundeb a'i egwyddorion. Hyd yn hyn mae setliadau wedi cynnwys cannoedd o filiynau o ddoleri o iawndal mewn arian parod ac asedau, yn ogystal ag ymddiheuriadau.