Castroaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B llythyren fach yn Sbaeneg Tagiau: Golygiad cod 2017 |
B s Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 4:
Cafwyd y datganiad cyhoeddus cyntaf o wleidyddiaeth Fidel Castro yn ei araith "La historia me absolverá" (1953), a fabwysiadwyd yn faniffesto Mudiad 26 Gorffennaf yn ystod [[Chwyldro Ciwba]] (1953–59), gwrthryfel adain-chwith a gwrth-drefedigaethol yn erbyn yr unben [[Fulgencio Batista]]. Mae'r araith yn pwysleisio [[cenedlaetholdeb]], [[democratiaeth]], a [[cyfiawnder cymdeithasol|chyfiawnder cymdeithasol]], gan gynnwys [[diwygio tir]]. Fodd bynnag, nid yw'r araith yn cyfeirio'n uniongyrchol at [[sosialaeth]].<ref name=Lievesley/> Dan ddylanwad ei gyd-chwyldroadwyr, yn enwedig [[Che Guevara]], daeth Castro yn fwyfwy gyfarwydd â syniadaeth [[Karl Marx]], [[Friedrich Engels]], a [[Vladimir Lenin]].<ref name=HDM>Elliott Johnson, David Walker, a Daniel Gray, ''Historical Dictionary of Marxism'', ail argraffiad (Llundain: Rowman & Littlefield, 2014), tt. 69–70.</ref> Cwympodd llywodraeth Batista ar 1 Ionawr 1959, a daeth Castro ei hun i rym yn Chwefror 1959. Nid oedd Castro yn [[comiwnyddiaeth|gomiwnydd]] i gychwyn, ond mewn araith ym 1961 datganodd ei hun yn Farcsydd–Leninydd.<ref>Roger Scruton, ''The Palgrave Macmillan Dictionary of Political Thought'', 3ydd argraffiad (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2007), t. 81.</ref> Ceir dadl rhwng ysgolheigion a meddylwyr yr adain chwith ynglŷn â phryd yn union trodd Castro yn Farcsydd, a rhai yn honni iddo ond cofleidio'r ideoleg honno er mwyn ennill cefnogaeth [[yr Undeb Sofietaidd]] yn erbyn [[Unol Daleithiau America]] ym 1961.<ref name=Lievesley/>
Testun pwysig arall yn natblygiad Castroaeth yw Ail Ddatganiad La Habana, a gyhoeddwyd yn Chwefror 1962 yn sgil diarddel Ciwba o [[Sefydliad Gwladwriaethau'r Amerig]], sydd yn galw ar wledydd, pleidiau, a mudiadau blaengar i ymuno â'r chwyldro yn erbyn [[trefedigaethrwydd]] a [[ffiwdaliaeth]].<ref name=Lievesley/> Yn debyg i nifer o wledydd comiwnyddol eraill y tu allan i'r [[Bloc Dwyreiniol]], megis [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] a [[Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia]], byddai'r drefn yng Nghiwba yn pwysleisio amodau unigryw y wlad ei hun er mwyn gwireddu'r chwyldro.<ref name=HDM/> Datblygodd felly arweinyddiaeth, [[propaganda]], a dulliau llywodraethu Castro mewn ymateb i hanes gwleidyddol ac economaidd Ciwba, wedi ei lunio yn ôl camau [[materoliaeth hanesyddol|materolaidd-hanesyddol]]: ymelwa ar lafur, datblygiad yr ymwybyddiaeth chwyldroadol dorfol, argyfwng [[imperialaeth]], a brwydr y lluoedd rhyddid. Yn groes i ddelfrydau Marcsiaeth uniongred, nid oedd angen creu [[plaid flaen y gad]] ac nid y [[proletariat]] oedd yr unig [[dosbarth cymdeithasol|ddosbarth]] a gâi ymuno â'r chwyldro. Ystyriwyd
Câi Castroaeth ddylanwad cryf ar [[y Chwith Newydd]] yn y 1960au a'r 1970au. Yng Nghiwba, byddai llywodraeth y Blaid Gomiwnyddol yn rhoi gwedd ffurfiol ar y chwyldro, gan greu cymysgedd anesmwyth o fiwrocratiaeth, gormes wleidyddol, cydffurfiad diwylliannol, lles cymdeithasol, byddino'r bobl, cefnogaeth i chwyldroadau eraill (megis [[Rhyfel Cartref Angola]]), hyrwyddo undod yn America Ladin, ac arweinyddiaeth garismataidd.<ref name=Lievesley>Geraldine Lievesley, "[https://www.oxfordreference.com/view/10.1093/oi/authority.20110803095554392 Castroism]" yn ''The Concise Oxford Dictionary of Politics'', 3ydd argraffiad, golygwyd gan Iain McLean ac Alisatir McMillan (Rhydychen: Oxford University Press, 2009).</ref>
|