71,334
golygiad
B (nodyn Llenyddiaeth Hen Saesneg) Tagiau: 2017 source edit |
(ehangu cyflwyniad) Tagiau: 2017 source edit |
||
{{Llenyddiaeth Hen Saesneg}}
[[Llenyddiaeth]] a ysgrifennir yn [[Hen Saesneg]], y ffurf ar yr iaith [[Saesneg]] a fodolai yn y cyfnod o
O'r holl farddoniaeth yn yr Hen Saesneg, dim ond 30,000 o linellau sydd yn goroesi, wedi eu cadw ym mron i gyd mewn pedair llawysgrif, sef Llyfr Caerwysg, Llawysgrif Junius, Llyfr Vercelli, a llawysgrif Beowulf. Penillion cyflythrennol yw'r brif arddull ym marddoniaeth Hen Saesneg, ac un o'i nodweddion yw dull trosiadol y ''kenning'' neu ddyfaliad. Y gerdd hiraf a mwyaf nodedig yn Hen Saesneg yw ''[[Beowulf]]'', arwrgerdd genedlaethol y Saeson, a gyfansoddwyd yn yr 8g ar sail hen fytholeg y Germaniaid. Cerdd grefyddol fer gan y bardd [[Cristnogaeth|Cristnogol]] [[Cædmon]], a flodeuai yn ail hanner y 7g, ydy'r esiampl hynaf o waith llenyddol yn yr iaith Saesneg. Mae rhyddiaith Hen Saesneg yn cynnwys testunau cyfreithiol, traethodau meddygol, lên grefyddol a [[didactig]], a chyfieithiadau o'r [[Lladin]] ac ieithoedd eraill. Mae'r croniclau a gweithiau hanesyddol a lled-hanesyddol tebyg, yn enwedig [[y Cronicl Eingl-Seisnig]], yn dystiolaeth bwysig o'r Oesoedd Canol Cynnar yn Lloegr.
Gwelir gwahanol gyfnodau o ymchwil i lenyddiaeth Hen Saesneg yn yr oes fodern. Yn y 19g a dechrau'r 20g, anterth yr [[ieitheg]]wyr, canolbwyntiai ysgolheigion ar wreiddiau Germanaidd yr Eingl-Sacsoniaid. Yn ddiweddarach, tynnwyd sylw at rinweddau llenyddol yr amryw destunau. gan fynd i'r afael â llenyddiaeth Hen Saesneg o safbwynt y beirniad yn hytrach na'r hanesydd. Mewn ymchwil cyfoes, rhoddir y pwyslais ar [[paleograffeg|baleograffeg]], sef astudiaeth y llawysgrifau eu hunain. Mae ysgolheigion yn trin a thrafod sawl pwnc yn y maes gan gynnwys canfod dyddiad, tarddiad, ac awduraeth testunau, a'r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Hen Saesneg ac ieithoedd eraill Ewrop yn yr Oesoedd Canol.
== Barddoniaeth ==
[[Delwedd:Beowulf Cotton MS Vitellius A XV f. 132r.jpg|bawd|chwith|Tudalen flaen ''Beowulf'', arwrgerdd genedlaethol y Saeson.]]
Gellir olrhain [[barddoniaeth Saesneg Lloegr]] yn ôl i gerddi Cædmon a Cynewulf yn y 7g.
Nid oes ffynonellau gwreiddiol o farddoniaeth yr
Dethlir buddugoliaethau a dewrder brenhinoedd a rhyfelwyr mewn
== Rhyddiaith ==
Trosiadau o destunau
== Gweler hefyd ==
* [[Llenyddiaeth Normaneg Lloegr]]
== Darllen pellach ==
|