Llenyddiaeth Hen Saesneg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 8:
== Barddoniaeth ==
[[Delwedd:Beowulf Cotton MS Vitellius A XV f. 132r.jpg|bawd|chwith|Tudalen flaen ''Beowulf'', arwrgerdd genedlaethol y Saeson.]]
Nid oes ffynonellau gwreiddiol o farddoniaeth yr Eingl-Sacsoniaid, o oresgyniadau'r 5g hyd at eu cristioneiddio yn y 7g, yn goroesi. Gellir olrhain [[barddoniaeth Saesneg Lloegr]] yn ôl i "Emyn Cædmon", yr enw a roddir ar gerdd grefyddol fer a briodolir i'r mynach Cædmon (blodeuai 658–680) o [[Northymbria]] yn ôl yr ''[[Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum]]'', hanes yn Lladin o'r 8g gan yr Hybarch [[Beda]]. Dyma'r enghraifft hynaf o lenyddiaeth yn yr iaith Saesneg, a'r esiampl gyntaf o farddoniaeth dduwiolfrydig Gristnogol yn llenyddiaeth y Saeson. O ail hanner y 7g hefyd, mae'n bosib, dyddia'r [[mawlgan|fawlgan]] ''Widsith'', gan awdur anhysbys. Llyfr Caerwysg, o ddiwedd y 10g, yw unig ffynhonnell ''Widsith'', ac er i ambell hanesydd dybio iddi gael ei chyfansoddi tua'r cyfnod hwnnw, mae'n cynnwys nodweddion a chyfeiriadau unigryw sydd yn debycach o lawer i draddodiad Germanaidd y Cyfandir, gan awgrymu ei bod yn seiliedig ar farddoniaeth gynharaf yr Eingl-Sacsoniaid os nad yn esiampl wirioneddol ohoni. Dethlir buddugoliaethau a dewrder brenhinoedd a rhyfelwyr mewn barddoniaeth arwrol yr Eingl-Sacsoniaid. Yr arwrgerdd hiraf ac enwocaf o'r cyfnod yw ''Beowulf'', sy'n traddodi campau'r prif gymeriad a'i frwydr yn erbyn yr anghenfil Grendel. Cyfuniad o straeon [[paganiaeth|paganaidd]] [[Gogledd Ewrop]] a themâu Cristnogol yw ''Beowulf'', sy'n dyddio o'r 8g.
Gellir olrhain [[barddoniaeth Saesneg Lloegr]] yn ôl i gerddi Cædmon a Cynewulf yn y 7g.
Nid oes ffynonellau gwreiddiol o farddoniaeth yr Eingl-Sacsoniaid, o oresgyniadau'r 5g hyd at eu cristioneiddio yn y 7g, yn goroesi. Dyddia'r cerddi cynharaf yn yr Hen Saesneg o ail hanner y 7g, a dyma'r [[mawlgan|fawlgan]] ''Widstith'' ac ''Emyn Cædmon''. Penillion cyflythrennol yw'r rhain, a gwaith y mynach Cædmon o [[Northymbria]] yw'r enghraifft gyntaf o farddoniaeth dduwiolfrydig Gristnogol yn llenyddiaeth y Saeson. Mae'n debyg taw ''The Dream of the Rood'' yw'r gerdd ddefosiynol wychaf yn nhraddodiad yr Eingl-Sacsoniaid.
 
Rhennir barddoniaeth Hen Saesneg gan rai ysgolheigion yn ddau draddodiad: y farddoniaeth frodorol neu gyntefig, a'r barddoniaeth Gristnogol neu lenyddol. Mae'r traddodiad brodorol yn amlygu gwreiddiau Cyfandirol yr Eingl-Sacsoniaid, gan dynnu ar fytholeg baganaidd, llên gwerin Germanaidd, ac hanes traddodiadol yr amryw lwythau a oresgynnai Prydain yn y 5g. Mewn llawysgrifau diweddarach y ceir olion y farddoniaeth hon, ond mae'n sicr yr oeddynt yn tarddu o gorff llenyddol hanesyddol, o bosib [[llên lafar|traddodiad llafar]], a oedd yn dyddio'n ôl i ddyfodiad yr Eingl-Sacsoniaid. Er iddynt yn eu hanfod ragflaenu cristioneiddio'r Eingl-Sacsoniaid, a chael eu hystyried yn draddodiad ar wahân i lên Gristnogol, byddai cyfeiriadau a themâu Cristnogol yn lliwio'r adysgrifiadau a rhyngysgrifeniadau a gyflawnwyd gan sgrifellwyr diweddarach. ''Beowulf'', wrth gwrs, yw'r gerdd fwyaf yn y traddodiad brodorol, ac ymhlith yr esiamplau eraill o farddoniaeth gyntefig Eingl-Sacsonaidd mae ''Widsith'', yr [[galargan|alargan]] arwrol ''Deor'', a phytiau poblogaidd ar fydr megis swynion a dychmygion.
Dethlir buddugoliaethau a dewrder brenhinoedd a rhyfelwyr mewn arwrgerddi'r Eingl-Sacsoniaid. Yr arwrgerdd hiraf ac enwocaf o'r cyfnod yw ''Beowulf'', sy'n traddodi campau'r prif gymeriad a'i frwydr yn erbyn yr anghenfil Grendel. Cyfuniad o straeon paganaidd Gogledd Ewrop a themâu Cristnogol yw ''Beowulf'', sy'n dyddio o'r 8g.
 
Mae barddoniaeth y traddodiad Cristnogol yn cynnwys cerddi a briodolir, boed yn gywir neu ar gam, i ddau fardd yn bennaf, sef Cædmon a [[Cynewulf]]. Mae'r rhain yn debyg i'r traddodiad brodorol o ran arddull a thechneg, ond yn ymdrin â phynciau cwbl Gristnogol. Mae'n debyg taw "Emyn Cædmon" yw'r unig waith sydd yn goroesi gan y bardd hwnnw, ond yn hanesyddol priodolwyd iddo hefyd drosiadau o straeon y Beibl – o lyfrau [[Llyfr Genesis|Genesis]], [[Llyfr Exodus|Exodus]], [[Llyfr Daniel|Daniel]], a [[Llyfr Jwdith|Jwdith]]. Priodolir i Cynewulf, a flodeuai yn y 9g mae'n debyg, bedair cerdd a gofnodwyd mewn llawysgrifau yn niwedd y 10g: ''Elene'' a ''The Fates of the Apostles'' yn Llyfr Vercelli, a ''Christ II'' a ''Juliana'' yn Llyfr Caerwysg.Mae'n debyg taw ''The Dream of the Rood'' yw'r gerdd ddefosiynol wychaf yn nhraddodiad yr Eingl-Sacsoniaid. Yn hanesyddol cafodd yr honno ei phriodoli i Cynewulf hefyd, ond bellach ni chydnabyddir unrhyw dystiolaeth dros hynny.
 
== Rhyddiaith ==