Lleng Arabaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dileu gwybodlen nad yw'r nodoli ar cywici
Misoedd cyfeiriadaeth using AWB
Llinell 5:
[[File:Cecil Beaton Photographs- General CBM2449.jpg|thumb|aelod o'r Lleng Arabaidd, Irac, 1942]]
[[File:Legionnaires guards gladiators.jpg|thumb|right|Y Lleng Arabaidd yn Irac yn ystod Rhyfel Eingl-Irac, 1941]]
Yn dilyn goruchfygu [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] yn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] dyfarnwyd, ar sail [[Cynhadledd San Remo]] ac yna [[Cytundeb Sèvres]] y byddai Prydain yn cael meddiant ar diriogaeth a enwyd yn Palesteina a Trawsiorddonen. Rhoddwyd Mandad i Brydain gan [[Cynghrair y Cenhedloedd|Gynghrair y Cenhedloedd]] i reoli'r tiriogaeth hyn nes eu bod yn "barod" i gael annibyniaeth. Gwelwyr hyn yn am yn [[Palesteina (Mandad)|Mandad Palesteina]] a Trawsiorddonen - hynny yw, y tir i'r dwyrain i'r [[Afon Iorddonen|afon Iorddonen]].
 
Sefydlwyd y Lleng Arabaidd (Arab Legion) yn 1921 gan y Capten Frederick Gerard Peake fel llu milwrol a alwyd i sicrhau rheolaeth Brydeinig dros llwythau Trawsiorddonen.<ref>Pollack, Kenneth, ''Arabs at War'', [[Council on Foreign Relations]]/University of Nebraska Press, 2002, p.267</ref> Roedd y llu yno i cadw rheolaeth ar y llwythi ac i gadw'r ffordd hanfodol rhwng [[Jeriwsalem]] a phrifddinas newydd Trawsiorddonen, [[Amman]] yn glir. Yn wreiddiol, dim ond 150 o ddynion oedd y Lleng, llawer ohonynt yn patrolio'r strydoedd wedi eu tynnu o gymuned disapora Chechen oedd yn byw yn [[Gwlad Iorddonen]] yn dilyn eu herlid a ffoi rhag [[Ymerodraeth Rwsia]] yn yr 19g.<ref>{{cite web|author=Pike, John |url= http://www.globalsecurity.org/military/library/news/2000/01/chechen98/261.htm |title=The Chechen Chronicles '98 |publisher=Globalsecurity.org |date= |accessdate=2014-05-13}}</ref> Lleolwyd y Lleng yn nhref [[Zarqa]] o le yr hannodd 80% o'i milwyr.
 
O 1939 i 1956, daeth [[John Bagot Glubb]], a adwaenid yn well fel ''Glubb Pasha'' (ei lys-enw rhyfel Arabaidd oedd "Abū Hunayk" sef 'gên gam'), yn gomander y Lleng a drawsnewidiodd yn un o fyddinoedd gorau'r [[Dwyrain Canol]].
 
Yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], cymerodd y Lleng ran yn y rhyfel a gynhaliodd Prydain Fawr yn erbyn lluoedd yr Echel a'u cynghreiriaid yn theatr ryfel y Dwyrain Canol. Bu'r Lleng yn brwydro yn ymgyrch filwrol Syria-Libanus a rhyfel Eingl-Irac yn 1941: dau buddugoliaethau perthynol pendant.
Llinell 15:
==Rhyfel Annibniaeth Israel==
[[File:Etzion Tal Prisoners.jpg|thumb|Y cadfridog Lleng Arabaidd, Abdullah el Tell (dde pellaf) gyda'r Capten Hikmat Mihyar (chwith pella) gyda charcharorion a cipiwyd wedi goresgyn Gush Etzion]]
Y Lleng oedd yr uned filwrol fwyaf llwyddiannus ymhlith y lluoedd Arabaidd yn ystod y rhyfel Arabaidd-Israel yn 1948, lle roedd ganddi ychydig dros 6,000 o ddynion yn brwydro. Symudwyd y Lleng i ddechrau o diriogaeth Trawsiorddonen, a oedd wedi dod yn rhydd o fandad Prydain a'i chydnabod fel gwlad annibynnol gan y [[Cenhedloedd Unedig]] yn 1946. Erbyn diwedd y rhyfel yn erbyn yr Israeliaid yn 1949 roedd gan y Lleng 10,000 o filwyr.
 
Gyda dechrau'r gelyniaeth dychwelodd y Lleng i Balesteina eto. Roedd yna embaras sylweddol i Llywodraeth Prydain oherwydd y ffaith bod swyddogion Prydain a oedd wedi cael eu cyflogi yn rhengoedd y Lleng bellach wedi ailddechrau gwasanaeth yn fyddin reolaidd Prydain, gan gynnwys rheolwr brigâd, wedi an-ufuddhau gorchmynion Prydeinig gan ddychwelyd i'r Trawsiorddonen i ymladd gyda'r Arabiaid ac yn erbyn yr Iddewon. Arweiniodd hyn at olygfa ryfedd y swyddogion a adawodd eu hunedau yn dychwelyd ar draws y ffin i Trawsiorddonen mwyn ymuno â'r Lleng Arabaidd. Yn ddieithriad dychwelodd yr holl swyddogion Lleng Arabaidd blaenorol i'w hunedau. Gofynnodd aelod o Senedd Llundain yn ofer am garcharu Glubb Pasha am wasanaethu mewn fyddin dramor heb awdurdodiad y [[Siôr VI, brenin y Deyrnas Unedig|Brenin Siôr VI]] o Loegr.