Croatia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 22:
Wedi'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]] ffurfwyd [[Iwgoslafia]] yn 1918, a bu Croatia dan awdurdod [[Beograd]] am y tro cyntaf. Rhoes yr [[Ail Ryfel Byd]] rym i'r [[Ustase]], (mudiad [[ffasgiaeth|ffasgaidd]] lleol) o dan y [[Natsïaeth|Natsïaid]], ac wedi'r rhyfel cafwyd rheolaeth dan [[Josip Broz Tito|Tito]] a'r [[Comiwnyddiaeth|Comiwnyddion]] am 45 mlynedd.
Yn 1991, ar ôl naw ganrif dan reolaeth ei chymdogion, daeth Croatia yn wlad annibynnol eto. Croesawyd y genedl newydd gan bedair blynedd o ryfel, cyflafanau, a dros chwarter miliwn o ffoaduriaid.
Mae Croatia erbyn heddiw yn aelod o'r [[Cenhedloedd Unedig]], [[Cyngor Ewrop]], [[NATO]], [[Sefydliad Masnach y Byd]] (WTO), a'r [[Undeb Ewropeaidd]].
|