Llygaid siglog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Add 1 book for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20210222)) #IABot (v2.0.8) (GreenC bot
→‎top: Misoedd cyfeiriadaeth using AWB
Llinell 3:
<span>Eitemau plastig bychain sy'n cael eu defnyddio i ddynwared llygaid ar waith crefft yw </span>'''llygaid siglog'''. Mae llygaid siglog fel arfer wedi'u gwneud o blastig neu gerdyn gwyn sydd wedi'i orchuddio â chragen glir o blastig caled ag ynddi ddisg blastig, ddu. Mae'r cyfuniad o gylch du ar gylch gwyn mwy yn debyg i sglera a channwyll llygad. Gall y ddisg ddu fewnol symud yn rhydd o fewn i'r gragen glir, ac mae hynny'n gwneud i'r llygad edrych fel petai'n symud pan mae'n cael ei gogwyddo neu ei hysgwyd.
 
Daw'r cregyn plastig mewn sawl maint, o 3/16 modfedd (4.8mm) i dros 24 modfedd (610mm) mewn diamedr a cheir sawl lliw gan gynnwys: pinc, glas, melyn, coch a gwyrdd. Mae'r llygaid siglog yn cael eu defnyddio mewn amryw o wahanol fathau o brosiectau [[celf a chrefft]] ac yn gallu cael eu glynu i lawer o wahanol wrthrychau er mwyn gwneud iddynt edrych yn ddoniol. Mae hynny'n personoli'r gwrthrych, ac yn aml yn creu digrifwch.
 
Defnyddiwyd y term Saesneg am lygaid siglog, sef 'googly eyes', i gyfeirio at fath o ddoli ar ddechrau'r 20g. Mae ymchwilwyr wedi awgrymu bod y term yn tarddu o'r Almaeneg "Guck Augen" sy'n golygu llygaid yn edrych i un ochr.<ref>{{Cite book|title=Collectible Dolls (Warman's Companion)|url=https://archive.org/details/collectibledolls0000herl|last=Herlocher|first=Dawn|publisher=Krause Publ|year=2008|isbn=089689701X|pages=[https://archive.org/details/collectibledolls0000herl/page/121 121]}}</ref>