Sam Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎Gyrfa: Misoedd cyfeiriadaeth using AWB
Llinell 13:
Yn 1935 hysbysebwyd swydd Cyfarwyddwr Rhaglenni'r BBC yng Nghymru. Dyma'r gwaith yr oedd Sam ei hun yn ei wneud ond er siom iddo, ni chafodd y swydd. Cafodd 'wobr gysur' o fod yn bennaeth ar orsaf radio gwbl newydd wedi ei leoli ym [[Bangor|Mangor]]. Teitl swyddogol y swydd oedd Cynrychiolydd y BBC yng Ngogledd Cymru. Dechreuodd ar ei swydd fel Pennaeth y BBC ym Mangor ar 1 Tachwedd 1935. Aeth ati ar unwaith i ddarganfod perfformwyr, cyfansoddwyr, sgriptwyr, actorion a cherddorion yn y gogledd.<ref>Hafina Clwyd, ''[[Rhywbeth Bob Dydd]]'' (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)</ref>
 
Torrodd yr Ail Ryfel Byd ar draws ei gynlluniau. Am gyfnod byr, o Fedi 1939 hyd Ionawr 1940 fe'i hanfonwyd i Lundain i gyfieithu bwletinau i'r Gymraeg. Erbyn diwedd yr haf 1940, gyda'r perygl o fomio yn Llundain, penderfynwyd symud Adran Adloniant y BBC i Fangor. Cyrhaeddodd tros bedwar cant o brif adlonwyr Prydain i ddarlledu o ddiogelwch cymharol gogledd Cymru a buont yno hyd Awst 1943.
 
Dysgodd Sam lawer iawn gan y Llundeinwyr am natur adloniant ond yn hytrach na'i efelychu aeth ati i greu adloniant Cymraeg ar y radio oedd yn berthnasol i ddiwylliant Cymraeg.
Llinell 19:
Sam Jones oedd yn gyfrifol am ddwy o raglenni mwyaf poblogaidd y BBC erioed, ac a oedd yn dal i gael eu darlledu yn 2016: [[Noson Lawen]] a [[Talwrn y Beirdd|Thalwrn y Beirdd]]. Gwelodd bwysigrwydd defnyddio pobl gyffredin yn hytrach nag actorion profesiynol yn y ddwy raglen hyn. yn ôl R Alun Jones, ''"Cyfrinach Sam Jones oedd cael pobl y Gogledd i weld gorsaf Bangor fel rhywbeth oedd yn perthyn iddyn nhw. Doedd hynny ddim yn bosib mewn cymunedau fel Abertawe a Chaerdydd."''<ref>[http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/34595060 Gwefan y BBC;] adalwyd 13 Medi 2016.</ref>
 
Erbyn diwedd ei yrfa roedd teledu fel cyfrwng yn cynyddu yn ei boblogrwydd. Er hynny, dyn radio oedd Sam Jones. Ymddeolodd Sam o'r BBC ar 30 Tachwedd 1963.
 
==Anrhydeddau==