Eleazar Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen wd
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 4:
 
==Cefndir==
Ganwyd ym [[Pwllheli|Mhwllheli]], [[Sir Gaernarfon]]. Yn 1853 aeth i swyddfa clerc yr ustusiaid, a dringodd i'r safle o brif gynorthwywr i glerc ynad cyflog y ddinas; daliodd y swydd hyd ei ymddiswyddiad yn 1894. Gwnaed ef yn ustus heddwch yn 1895. Ysgrifennodd i'r cylchgronau ''Y Drysorfa'', ''Y Traethodydd'', a'r ''Geninen'', ac yn wythnosol i'r ''Amserau'' dan yr enw "Meddyliwr". Astudiodd seryddiaeth a chyfieithodd ddwy gyfrol Dr. Dick ar y gyfundrefn heulog yn Gymraeg, ac âi o gwmpas i ddarlithio ar seryddiaeth. Ef a ysgrifennodd gofiant Henry Richard ("Apostol Heddwch") a'r nofel Gymraeg ''Owen Rees'', sydd yn darlunio bywyd Cymreig yn Lerpwl. Ef oedd arloeswr cyfundrefn y [[tonic sol-ffa]] yng Nghymru, a theithiodd ar hyd a lled Cymru i'w hegluro ac i sefydlu dosbarthiadau cerddorol. Cyhoeddodd ''Bywyd a Gwaith Henry Richard AS'', ''Llawlyfr Caniadaeth'', ''Llawlyfr y Tonic Solffa'', ''Llawlyfr i ddarllen yr Hen Nodiant'', a ''Hymnau a Thonau''. Bu'n flaenor ac yn arweinydd y canu yng nghapel Netherfield Road, ac ef (gyda John Edwards) a arweiniodd y gymanfa ganu gyntaf yn Lerpwl yn 1880. Ef a gyfansoddodd yr emyn poblogaidd "O na bawn yn fwy tebyg i Iesu Grist yn byw". Bu farw 6 Ebrill 1912, a chladdwyd ef ym mynwent Anfield, Lerpwl.
 
==Ffynonellau==
{{wicitestun|Categori:Eleazar Roberts|Eleazar Roberts}}
*''Y Cerddor'', Awst 1896 a Mai 1912
*J. Hughes Morris, ''Hanes Methodistiaeth Liverpool'' (Lerpwl, 1929-1932)