Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Capel Gellimanwydd"

Ychwanegwyd 115 beit ,  3 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
No edit summary
{{Gwybodlen lle|gwlad={{banergwlad|Cymru}}}}
 
'''Capel Gellimanwydd''', neu'r "Christian" fel mae llawer yn ei alw, yw [[capel]] hynaf tref [[Rhydaman]]. Mae'n perthyn i'r [[Annibynwyr Cymraeg]].
 
Mae gwreiddiau Gellimanwydd yn Y Betws ac yn mynd nôl i'r Argoed Fawr. Mae'r Argoed wedi bod yn dŷ tafarn, gwesty, fferm a tŷ anedd, ond ei bwysigrwydd mewn hanes yw'r ffaith mai dyma'r man cyfarfod cyntaf i'w ddefnyddio fel capel yn hytrach nag eglwys. Daeth yn eglur yn fuan bod y bwthyn yn rhy fach i'r cristnogion oedd yn cwrdd yno a symudodd un grŵp o bobl i adeilad ar Fferm Carregaman-Uchaf, sydd bellach yn 63 High Street. Gosodwyd sylfeini cyntaf Christian Temple. Yna, yn dilyn rhodd gan Mr Hugh Davies o fferm Carregaman-uchaf, adeiladwyd y capel yn High Street. Cafodd ei ail-adeiladu ym [[1836]] a'i ymestyn i'w gyflwr presennol yn [[1865]]. Adabyddwyd Gellimanwydd fel Cross Inn Chapel, dyna'r enw ar y pentrefan bach oedd ar y groesffordd sydd heddiw yn nhref Rhydaman.
 
==Llyfryddiaeth==
*Owen, D. Huw, ''[[Capeli Cymru (llyfr)|Capeli Cymru]]'' (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.167–8
 
==Dolen allanol==