Chwilio a dinistrio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
Nid oedd [[rhyfela confensiynol|tactegau confensiynol]] yr Americanwyr yn addas wrth ymladd [[rhyfel herwfilwrol]] mewn [[jyngl]]oedd Fietnam. Er eu pwyslais ar ennill rhagoriaeth o ran [[mudoledd milwrol|mudoledd]], dechreuwyd tua 90% o'r holl ysgarmesau a brwydrau gan luoedd comiwnyddol, nid lluoedd yr Unol Daleithiau. Oherwydd diffyg ymdrech gan yr Americanwyr a lluoedd De Fietnam i ddiogelu a chadw tiriogaeth ar ôl brwydrau, bu'r Fiet Cong yn aml yn dychwelyd yn syth i ardaloedd wedi i'r Americanwyr gadael.<ref name=H90/>
 
Roedd effaith chwilio a dinistrio ar gymdeithas De Fietnam yn ddinistriol ac yn wrth-gynhyrchiol i amcan yr Americanwyr o ennill "[[calonnau a meddyliau]]'r" boblogaeth. Difrodwyd pentrefi a ffyrdd gan rym tanio a chliriwyd coedwigoedd a thir amaethyddol gan [[diddeilydd|ddiddeilyddion]]. Lladdwyd hanner miliwn o sifiliaid, ac anafwyd un miliwn. Dadleolwyd eraill o'r cefn gwlad a bu rhairaid iddynt symud i'r dinasoedd gorlawn. Oherwydd y difrod i gnydau a bywyd amaethyddol, bu rhairaid i Dde Fietnam mewnforio [[reis]] ym 1967. Dioddef wnaeth enw llywodraeth De Fietnam yn llygaid ei phobl.<ref name=H90/>
 
Ynghyd â'r rhyfel awyrennol yn erbyn Gogledd Fietnam trwy [[Ymgyrch Rolling Thunder]], chwilio a dinistrio oedd yn ffurfio strategaeth ddeuddaint yr Americanwyr yn Fietnam.<ref>Hess (2009), t. 84.</ref>