Wicipedia:Y Caffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 56:
 
Heddiw crëwyd dwy erthygl newydd gan [[Defnyddiwr:JeanGree|JeanGree]], sef [[Castell Chaban]] a [[Castell Fenelon]]. Mae angen ychydig o waith arnyn nhw, ac roeddwn yn paratoi i wneud hynny. Ond mae yna broblem. Yn fy marn i, dylai fod gan yr erthyglau hyn y teitlau "Château de Chaban" a "Château de Fénelon". Mae gan y gair Ffrangeg ''château'' ystyr ehangach na'r "castell": mae'n cynnwys adeiladau y byddem ni'n eu galw'n balasau, plastai neu winllannoedd hyd yn oed. Mae gennym ni nifer o erthyglau sydd ag enwau o'r math hwn eisoes, e.g. [[Château de Castelnaud]]. Ond mae gennym ni bethau fel [[Castell Chinon]] hefyd. Rwy'n awgrymu defnyddio'r fformat " "Château de X" amdanyn nhw i gyd. (Y dewis arall fyddai defnyddio "Castell X" bob tro.) A oes gwrthwynebiadau? --[[Defnyddiwr:Craigysgafn|Craigysgafn]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Craigysgafn|sgwrs]]) 21:14, 25 Ionawr 2022 (UTC)
 
:Cyfieithiadau peirianyddol ydy'r ddwy erthygl o'r rhagarweiniad Ffrangeg i'r erthyglau ar y ddwy Château. Mae 'na arfer (rheol o bosib), ein bod yn defnyddio enwau llefydd yn yr iaith frodorol oni bai bod enw Cymraeg cyffredin i'r lle: Llundain, Efrog Newydd, San Steffan, Côr y Cewri ac ati, felly '''''Château''''' sy'n gywir o ran ein harfer ni. Erthyglau eithaf ber yn y gwreiddiol efo orielau o luniau, digon diddorol i'w cynnwys yma. Mae angen gwybodaeth o'r ddwy iaith, wrth gwrs, i gyfieithu erthyglau. Os nad wyt ti am eu cyfieithu neu'u haddasu, rwy'n ddigon bodlon i grafu pen yn ôl i CSE gradd 2, 1974 i'w gwella. [[Defnyddiwr:AlwynapHuw|AlwynapHuw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:AlwynapHuw|sgwrs]]) 02:10, 26 Ionawr 2022 (UTC)