Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 15:
== Safle Y Parade ==
 
Oherwydd y drwg deimlad lleol a thŵf parhaus yr ysgol bu'n rhaid symud o'r safle yn [[Mynachdy (ardal o Gaerdydd)|Mynachdy]], [[Gabalfa]]. Yn 1975 agorodd yr ysgol yn hen adeilad fawr Cardiff High School for Girls ar y Parade yng nghanol dinas Caerdydd, lleoliad Coleg Caerdydd a'r Fro bellach.
 
Oherwydd nad oedd cae chwarae gan yr ysgol bu'n rhaid cynnal gwersi chwareon ar gaeau Blackweir oddi ar Ffordd y Gogledd a cynhaliwyd Mabolgambau'r Ysgol yn Stadiwm Maendy.
Llinell 23:
Daeth Bryntaf i ben yn haf fel yr unig ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd yn 1980 pan agorwyd [[Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd]] yn [[yr Eglwys Newydd]] ac yna yn 1981 [[Ysgol y Wern]] ac [[Ysgol Coed-y-Gof]] (gyda Tom Evans yn brifathro arni). Parhaodd dros 100 o blant i dderbyn eu haddysg ar yr hen safle yn yr ysgol dan yr enw newydd Ysgol y Rhodfa (yn ôl Michael Jones). Ond ceir peth trafodaeth am yr enw. Yn ôl llun gan Iwan Evans<ref>[https://twitter.com/IwanEv/status/676121441692164096 Llun gan @IwanEv ar Twitter]</ref> o'i ddosbarth Blwyddyn 1 yn 1982-93, nodir ar y bwrdd o flaen y plant yr enw 'Ysgol Gymraeg Bryntaf'. Efallai i'r enw Ysgol y Rhodfa gael ei harddel yn swyddogol ond mai Bryntaf oedd yr enw poblogaidd.
 
Roedd y rhieni'r plant oedd yn parhau i gael eu haddysg Gymraeg ar safle Ysgol y Rhodfa (Bryntaf) anhapus gyda'r sefyllfa. Er gwaethau diffyg cefnogaeth gan MRMr G.O. Pearce, Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Sir [[De Morgannwg]] i ganfod ysgol Gymraeg arall, nodwyd bod niferoedd ysgol Saesneg Pen-yr-Heol yn cwympo a gellid symud y plant cyfrwng Cymraeg yno, er gwaetha'r ffaith bod y lleoliad yn bell o gartrefi mwyafrif helaeth y plant.
 
== Prifathrawon ac Athrawon Bryntaf ==