Meddygaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad cod 2017
ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017 Dolenni gwahaniaethu
Llinell 1:
{{Pethau|suppressfields=|fetchwikidata=ALL}}
[[Delwedd:Rod of asclepius.png|de|bawd|Rhoden Asclepius, symbol traddodiadol meddygaeth.]]
Y gangen o [[gwyddor iechyd|wyddor iechyd]] sy'n ymdrin â chynnal [[iechyd]] [[bod dynol|dynol]] a thriniaeth [[clefyd]]au ac [[anaf]]iadau yw '''meddygaeth'''.
 
'''Meddygaeth''' yw'r [[gwyddor iechyd|wyddor iechyd]] a'r arfer o ofalu am glaf, y diagnosis a'r prognosis, [[Meddygaeth ataliol|atal salwch]], triniaeth, lliniaru poen eu hanaf, eu [[Clefyd|hafiechyd]], a hybu [[meddygaeth ataliol]] a iechyd cyffredinol pobl. Mae meddygaeth yn cwmpasu amrywiaeth o arferion [[gofal iechyd]] a ddatblygwyd i gynnal ac adfer [[iechyd]] trwy [[Meddygaeth ataliol|atal]] a thrin [[Clefyd|salwch]]. Daw'r canlynol o fewn ei orchwyl: cymhwyso gwyddorau biofeddygol, ymchwil biofeddygol, [[geneteg]], a thechnoleg feddygol i [[Diagnosis meddygol|ddiagnosio]], trin, ac atal anafiadau a chlefydau. Ceisir gwneud hyn drwy [[Meddyginiaeth|fferyllaeth]] neu [[Llawfeddygaeth|lawdriniaeth]], ond hefyd trwy therapi mor amrywiol â [[seicotherapi]], sblintiau a thyniant allanol, dyfeisiau meddygol, bioleg, ac [[radiotherapi]] ayb.<ref>{{Cite web|url=http://dictionary.reference.com/browse/medicine|title=Dictionary, medicine|access-date=2 Dec 2013|archivedate=4 March 2016|archiveurl=https://web.archive.org/web/20160304154538/http://dictionary.reference.com/browse/medicine}}</ref><ref>{{Cite book|last=Firth|first=John|title=Oxford textbook of medicine|chapter=Science in medicine: when, how, and what|publisher=Oxford University Press|location=Oxford|year=2020|isbn=978-0198746690}}</ref><ref>{{Cite journal|title=The practice of clinical medicine as an art and as a science|journal=Med Humanit|volume=26|issue=1|pages=18–22|date=June 2000|pmid=12484313|doi=10.1136/mh.26.1.18|url=}}</ref>
==Gweler hefyd==
[[Delwedd:Rod of asclepius.png|chwith|bawd|Rhoden Asclepius, symbol traddodiadol meddygaeth.]]
*''[[Er Lles Llawer - Meddygon Esgyrn Môn]]'' gan J. Richard Williams; Gwasg Carreg Gwalch 2014
 
Mae meddygaeth wedi cael ei hymarfer ers y cyfnod cynhanesyddol, ac yn ystod y rhan fwyaf ohono roedd yn gelfyddyd a oedd yn aml â chysylltiadau â chredoau [[Crefydd|crefyddol]] ac [[Athroniaeth|athronyddol]] y diwylliant lleol. Er enghraifft, byddai'r [[gŵr hysbys]] yn defnyddio [[Perlysieuyn|perlysiau]] ac yn [[Gweddi|gweddïo]] am iachâd, neu byddai athronydd a [[meddyg]] hynafol yn gwaedu'r claf heb unrhyw dystiolaeth fod hynny'n ei wella! Yn ystod y canrifoedd diwethaf, ers dyfodiad [[gwyddoniaeth]] fodern, mae'r rhan fwyaf o feddyginiaeth wedi dod yn gyfuniad o [[Celf|gelf]] a [[gwyddoniaeth]] (sylfaenol a [[Gwyddoniaeth gymhwysol|chymhwysol]], o dan ymbarél '''gwyddoniaeth feddygol'''). Er bod techneg pwytho ar gyfer [[Pwyth llawfeddygol|pwythau]] yn gelfyddyd a ddysgir trwy ymarfer, mae'r wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd ar y lefel [[Bioleg cell|cellog]] a moleciwlaidd yn y meinweoedd sy'n cael eu pwytho yn deillio o wyddoniaeth.
{{eginyn meddygaeth}}
 
Gelwir ffurfiau hynafol o feddyginiaeth bellach yn feddyginiaeth draddodiadol neu'n feddyginiaeth ''werin'', sy'n parhau i gael ei defnyddio'n gyffredin yn absenoldeb meddygaeth wyddonol, ac felly fe'i gelwir yn [[Meddygaeth amgen|feddyginiaeth amgen]]. [[Duwies]] [[Celtiaid|Geltaidd]] oedd 'Morwyn Llyn y Fan Fach' yn wreiddiol, cyn i'r stori droi'n stori Dylwyth Teg. Yn y chwedl cytunodd llanc lleol, mab gweddw o Flaen Sawdde (ger [[Llanddeusant]]) i briodi merch brydferth a godai o'r llyn ar yr amod na fyddai yn ei tharo dair gwaith. Gwnaeth hynny'n hawdd gan mor brydferth oedd y ferch, a buon nhw'n hapus iawn am flynyddoedd gan godi tŷ yn Esgair Llaethdy, ger [[Myddfai]], a magu teulu yno. Roedd gan y ferch wartheg arbennig iawn ac anifeiliad eraill. Ond dros amser fe wnaeth y gŵr daro ei wraig dair gwaith, a bu rhaid iddi fynd yn ôl i'r llyn yn ôl yr addewid gan ddwyn y gwartheg gyda hi. Ond daeth y fam yn ôl o bryd i'w gilydd i helpu a hyfforddi ei meibion, ac yn neilltuol un o'r enw [[Rhiwallon]] (mewn rhai fersiynau Rhiwallon yw enw'r llanc sy'n priodi'r ferch hud a lledrith). Ymhen y rhawd aeth Rhiwallon a'r meibion eraill i lys [[Rhys Gryg]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]] lle daethant yn feddygon enwog a adwaenir heddiw fel [[Meddygon Myddfai]]. Erys nifer o'i fformiwlau meddygol yn y [[Llawysgrif|llawysgrifau]].
 
== Geirdarddiad ==
Mae'r gair "meddygaeth" yn deillio o'r [[Lladin]] ''medicus'', sy'n golygu "meddyg". Mae'n bosib mai gwreiddyn y gair Lladin yw ''[[medd]]''.
 
== Ymarfer clinigol ==
[[Delwedd:The_Doctor_Luke_Fildes_crop.jpg|alt=Oil painting of medicine in the age of colonialism|bawd| ''Y Meddyg'' gan yr arlunydd Syr Luke Fildes (1891)]]
Mae argaeledd meddygol ac ymarfer clinigol yn amrywio ar draws y byd oherwydd gwahaniaethau rhanbarthol mewn cyfoeth (a'i brinder), diwylliant a thechnoleg. Datblygodd meddygaeth wyddonol fodern yn fawr yn y [[Y Gorllewin|byd Gorllewinol]], ond mewn gwledydd sy'n datblygu fel rhannau o Affrica neu Asia, gall y boblogaeth ddibynnu'n drymach ar feddyginiaeth draddodiadol gyda thystiolaeth gyfyngedig ac effeithiolrwydd heb ei asesu, a dim hyfforddiant ffurfiol gofynnol ar gyfer ymarferwyr.<ref>{{Cite journal|last=WHO Dept. of Essential Drugs and Medicines Policy|year=2002|title=Traditional medicine: growing needs and potential|publisher=[[World Health Organization]]}}</ref>
 
Ac felly hefyd yn y byd datblygedig: ni ddefnyddir meddygaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn gyffredinol mewn ymarfer clinigol; er enghraifft, canfu arolwg o adolygiadau llenyddiaeth yn 2007 fod tua 49% o'r gwaith heb ddigon o dystiolaeth i gefnogi'r claf.<ref>{{Cite journal|title=Mapping the Cochrane evidence for decision making in health care|journal=Journal of Evaluation in Clinical Practice|volume=13|issue=4|pages=689–92|date=August 2007|pmid=17683315|doi=10.1111/j.1365-2753.2007.00886.x}}</ref> Er enghraiff ceir cant a mil o ffisigau a thabledi amrywiol ar gyfer anwyd, ond ychydig o dystiolaeth sydd fod unrhyw un o'r rhain yn ei wella.
 
Mewn ymarfer clinigol modern, mae [[Meddyg|meddygon]] a chynorthwywyr meddygol yn asesu cleifion yn bersonol er mwyn gwneud [[Diagnosis meddygol|diagnosis]], rhagfynegi, trin ac atal afiechyd gan ddefnyddio barn 'glinigol'. Mae'r berthynas rhwng y meddyg a'r claf fel arfer yn dechrau gydag archwiliad o hanes meddygol a chofnod ysgrifenedig, meddygol y claf, ac yna cyfweliad meddygol<ref name="Coulehan_2005">{{Cite book|title=The Medical Interview: Mastering Skills for Clinical Practice|edition=5th|publisher=F. A. Davis|year=2005|isbn=978-0-8036-1246-4|oclc=232304023}}</ref> ac yna archwiliad corfforol. Defnyddir dyfeisiau meddygol diagnostig sylfaenol (ee [[stethosgop]], golau) fel arfer. Ar ôl cyfweld am [[Arwydd meddygol|symptomau]] ac archwiliad corfforol am [[Arwydd meddygol|arwyddion]] gall y meddyg ddod i ganlyniad, ac archebu [[Prawf meddygol|profion meddygol]] (ee [[Prawf gwaed|profion gwaed]]), cymryd [[biopsi]], neu bresgreibio [[Meddyginiaeth|cyffuriau fferyllol]] neu therapïau eraill.
 
Mae dulliau diagnosis gwahaniaethol yn helpu i ddiystyru amodau ar sail y wybodaeth a ddarperir. Yn ystod y cyfarfod, mae hysbysu'r claf yn iawn o'r holl ffeithiau perthnasol yn rhan bwysig o'r berthynas a datblygu ymddiriedaeth. Yna caiff y cyfarfyddiad meddygol ei ddogfennu yn y cofnod meddygol, sy'n ddogfen gyfreithiol mewn llawer o wledydd.<ref name="AHIMA2005">
{{Cite journal|title=Update: guidelines for defining the legal health record for-disclosure purposes|journal=Journal of AHIMA|volume=76|issue=8|pages=64A–64G|date=September 2005|pmid=16245584|url=http://library.ahima.org/xpedio/groups/public/documents/ahima/bok1_027921.hcsp?dDocName=bok1_027921|archive-url=https://web.archive.org/web/20080309002938/http://library.ahima.org/xpedio/groups/public/documents/ahima/bok1_027921.hcsp?dDocName=bok1_027921|archive-date=9 March 2008}}</ref> Gall apwyntiadau dilynol fod yn fyrrach ond gan ddilyn yr un weithdrefn gyffredinol, ac mae arbenigwyr yn dilyn proses debyg. Gall y diagnosis a'r driniaeth gymryd dim ond ychydig funudau neu ychydig fisoedd yn dibynnu ar gymhlethdod y mater.
 
Yn yr archwiliad corfforol, mae'r meddyg yn archwilio'r claf am [[Arwydd meddygol|arwyddion]] o'r afiechyd, sy'n wrthrychol ac yn weladwy, yn wahanol i symptomau a wirfoddolir gan y claf ac nad ydynt o reidrwydd yn wrthrychol. Mae darparwr gofal iechyd yn defnyddio'r llygad, y clyw, cyffwrdd, ac weithiau'n arogl (ee, mewn haint, wremia, cetoasidosis diabetig). Mae pedwar cam gweithredu yn sail i archwiliad corfforol:
 
# archwilio,
# teinlo crychguriad y galon,
# taro gyda morthwyl bychan, neu'r bysedd i bennu nodweddion cyseiniant (''resonance''), a
# gwrando
 
Mae'r archwiliad clinigol hwn yn cynnwys astudio:<ref>{{Cite web|title=Clinical examination|url=https://medical-dictionary.thefreedictionary.com/Clinical+examination#:~:text=including%20some%20tests.-,The%20examination,and%20blood%20pressure%E2%80%94are%20recorded.|website=TheFreeDictionary.com|access-date=18 January 2021|archivedate=4 February 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210204001630/https://medical-dictionary.thefreedictionary.com/Clinical+examination#:~:text=including%20some%20tests.-,The%20examination,and%20blood%20pressure%E2%80%94are%20recorded.}}</ref>
 
* Arwyddion hanfodol gan gynnwys taldra, pwysau, tymheredd y corff, [[pwysedd gwaed]], [[Pwls (meddygol)|curiad]] y galon, cyfradd resbiradaeth, a dirlawnder ocsigen haemoglobin<ref>{{Cite web|title=Clinical examination|url=https://medical-dictionary.thefreedictionary.com/Clinical+examination#:~:text=including%20some%20tests.-,The%20examination,and%20blood%20pressure%E2%80%94are%20recorded.|website=TheFreeDictionary.com|access-date=18 January 2021|archivedate=4 February 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210204001630/https://medical-dictionary.thefreedictionary.com/Clinical+examination#:~:text=including%20some%20tests.-,The%20examination,and%20blood%20pressure%E2%80%94are%20recorded.}}</ref>
* Ymddangosiad cyffredinol y claf a dangosyddion penodol o'r afiechyd (lefelau maeth, presenoldeb clefyd melyn, gwelwedd (pa mor llwyd yw'r claf) neu wynder a bywiogrwydd y llygad)
* Lliw a llyfnder y croen
* Y pen, [[llygad]], [[clust]], trwyn a gwddf <ref>{{Cite web|title=Clinical examination|url=https://medical-dictionary.thefreedictionary.com/Clinical+examination#:~:text=including%20some%20tests.-,The%20examination,and%20blood%20pressure%E2%80%94are%20recorded.|website=TheFreeDictionary.com|access-date=18 January 2021|archivedate=4 February 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210204001630/https://medical-dictionary.thefreedictionary.com/Clinical+examination#:~:text=including%20some%20tests.-,The%20examination,and%20blood%20pressure%E2%80%94are%20recorded.}}</ref>
* Y system gylchredol ([[System gylchredol|Cardiofasgwlaidd]]: [[calon]] a [[Gwaedlestr|phibellau gwaed]])
* [[System resbiradu|Anadu]] (y llwybrau anadlu mawr a'r [[ysgyfaint]]) <ref>{{Cite web|title=Clinical examination|url=https://medical-dictionary.thefreedictionary.com/Clinical+examination#:~:text=including%20some%20tests.-,The%20examination,and%20blood%20pressure%E2%80%94are%20recorded.|website=TheFreeDictionary.com|access-date=18 January 2021|archivedate=4 February 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210204001630/https://medical-dictionary.thefreedictionary.com/Clinical+examination#:~:text=including%20some%20tests.-,The%20examination,and%20blood%20pressure%E2%80%94are%20recorded.}}</ref>
* [[Abdomen|Y bol]] a'r pen ôl (y [[rectwm]])
* Y [[pidyn]] a'r [[Gwain|wain]] (a beichiogrwydd os yw'r claf yn feichiog neu os gallai fod yn feichiog)
* [[System gyhyrysgerbydol|Cyhyrysgerbydol]] (gan gynnwys asgwrn cefn a'r eithafion)
* Niwrolegol (ymwybyddiaeth, ymennydd, y golwg, nerfau cranial, llinyn asgwrn y cefn a nerfau ymylol)
* Seiciatrig (cyfeiriadedd, [[iechyd meddwl]], hwyliau, tystiolaeth o ganfyddiad neu feddwl annormal).
 
Mae'r archwiliad yn debygol o ganolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb a amlygwyd yn yr hanes meddygol ac efallai na fydd yn cynnwys popeth a restrir uchod.
 
Gall y cynllun triniaeth gynnwys profion labordy meddygol ychwanegol ac astudiaethau delweddu meddygol, dechrau therapi, cyfeirio at arbenigwr, neu gadw llygad manwl. Efallai y claf ei gynghori i wneud apwyntiad arall. Yn dibynnu ar y cynllun yswiriant iechyd a'r system gofal a reolir, efallai y bydd rhwystrau'n codi, rhwystrau rhag cyrchu gwasanaethau drud.<ref>{{Cite journal|title=Measuring the "managedness" and covered benefits of health plans|journal=Health Services Research|volume=35|issue=3|pages=707–34|date=August 2000|pmid=10966092|pmc=1089144}}</ref>
 
Mae'r broses o wneud penderfyniadau meddygol (MDM) yn cynnwys dadansoddi a chyfosod yr holl ddata uchod i lunio rhestr o ddiagnosisau posibl (y diagnosisau gwahaniaethol), ynghyd â syniad o'r hyn sydd angen ei wneud i gael diagnosis diffiniol a fyddai'n esbonio problem y claf.
 
== Sefydliadau ==
[[Delwedd:Pellegrinaio_Santa_Maria_della_Scala_n5.jpg|alt=Color fresco of an ancient hospital setting|bawd| Ysbyty Santa Maria della Scala, ffresgo gan Domenico di Bartolo, 1441–1442]]
Yn gyffredinol, cynhelir meddygaeth gyfoes o fewn systemau gofal iechyd. Mae fframweithiau cyfreithiol, credydu ac ariannu yn cael eu sefydlu gan lywodraethau unigol, ac yn cael eu hategu weithiau gan sefydliadau rhyngwladol, megis eglwysi. Mae nodweddion unrhyw system gofal iechyd benodol yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y darperir gofal meddygol.
 
 
Mewn trefi a phentrefi megis [[Ysbyty Ifan]], un o ysbytai [[Marchogion yr Ysbyty|Marchogion yr Ysbyty,]] a sefydlwyd yno tua'r flwyddyn [[1190]] gan Ifan ap Rhys o Drebrys, yn ôl traddodiad; does dim olion o'r safle i'w gweld heddiw. Yn yr Oesoedd Canol safai Ysbyty Ifan ar ffordd bwysig a gysylltai [[Llŷn]] ac [[Eryri]] i'r gorllewin ac ardaloedd y Gororau i'r dwyrain. Cafodd yr Ysbyty nawdd gan [[Llywelyn Fawr]] a [[Llywelyn Ein Llyw Olaf]] ac yn y [[13g]] roedd gan y sefydliad enw da am ei letygarwch. Roedd gan yr ysbyty (hosbis), a godwyd ar gyfer teithwyr a phererinion i [[Ynys Enlli]], hefyd yr hawl i fod yn [[noddfa]] ac yn ddiweddarach arweiniodd hynny at sawl [[herwr]] yn cuddio yno am ei fywyd.<ref>W. Ogwen Williams, "A note on the history of Ysbyty Ifan", ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', cyf. 15 (1954).</ref>
 
O'r hen amser, mae pwyslais Cristnogol ar elusennau ymarferol wedi arwain at ddatblygiad [[nyrsio]] ac ysbytai systematig ac mae'r [[Yr Eglwys Gatholig Rufeinig|Eglwys Gatholig]] heddiw yn parhau i fod y darparwr anllywodraethol o wasanaethau meddygol mwya'r byd. Mae gwledydd diwydiannol uwch (ac eithrio'r [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]])<ref name="IOM">{{Cite web|url=http://www.iom.edu/Reports/2004/Insuring-Americas-Health-Principles-and-Recommendations.aspx|title=Insuring America's Health: Principles and Recommendations|publisher=Institute of Medicine at the National Academies of Science|date=14 Jan 2004|archiveurl=https://web.archive.org/web/20091019103757/http://www.iom.edu/Reports/2004/Insuring-Americas-Health-Principles-and-Recommendations.aspx|archivedate=19 October 2009}}</ref><ref name="ccuhc">{{Cite web|url=http://cthealth.server101.com/the_case_for_universal_health_care_in_the_united_states.htm|title=The Case For Single Payer, Universal Health Care for the United States|publisher=Cthealth.server101.com|access-date=4 May 2009|archiveurl=https://web.archive.org/web/20180423105127/http://cthealth.server101.com/the_case_for_universal_health_care_in_the_united_states.htm|archivedate=23 April 2018}}</ref> a llawer o wledydd sy'n datblygu'n darparu gwasanaethau meddygol trwy system o ofal iechyd cyffredinol sy'n anelu at warantu gofal i bawb. Bwriad hyn yw sicrhau bod y boblogaeth gyfan yn cael gofal meddygol ar sail angen yn hytrach na'r gallu i dalu. Gall hyn fod trwy bractis meddygol preifat neu gan ysbytai a chlinigau sy'n eiddo i'r wladwriaeth (y [[GIG Cymru|GIG]] yng Nghymru), neu gan elusennau, gan amlaf neu drwy gyfuniad o'r tri.
 
Mae tryloywder gwybodaeth yn ffactor arall sy'n diffinio system gyflenwi. Mae mynediad at wybodaeth am gyflyrau, triniaethau, ansawdd, a phrisiau yn effeithio'n fawr ar y dewis gan gleifion/defnyddwyr ac, felly, ar gymhellion gweithwyr meddygol proffesiynol. Tra bod system gofal iechyd yr UD wedi ei beirniadu'n hallt oherwydd diffyg didwylledd a thryloywder,<ref>{{Cite journal|first=Martin|last=Sipkoff|title=Transparency called key to uniting cost control, quality improvement|journal=Managed Care|date=January 2004|volume=13|issue=1|pages=38–42|pmid=14763279|url=http://www.managedcaremag.com/archives/0401/0401.forum.html|access-date=16 April 2006|archive-date=17 February 2004|archive-url=https://web.archive.org/web/20040217160421/http://www.managedcaremag.com/archives/0401/0401.forum.html}}</ref> gallai deddfwriaeth newydd annog mwy o fod yn agored. Mae tensiwn rhwng yr angen am dryloywder ar y naill law a materion fel cyfrinachedd cleifion a’r posibilrwydd o ymelwa ar wybodaeth er budd masnachol neu wleidyddol ar y llaw arall.
 
=== Cyflwyno ===
Dosberthir darpariaeth gofal meddygol yn dri chategori: gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol.<ref>{{Cite web|title=Primary, Secondary and Tertiary HealthCare – Arthapedia|url=http://www.arthapedia.in/index.php%3Ftitle%3DPrimary,_Secondary_and_Tertiary_HealthCare|website=www.arthapedia.in|access-date=19 January 2021|archivedate=28 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210128011946/http://www.arthapedia.in/index.php%3Ftitle=Primary,_Secondary_and_Tertiary_HealthCare}}</ref>
[[Delwedd:Nurses_at_Butawin_Urban_Clinic,_PNG_(10711159465).jpg|alt=photograph of three nurses|bawd| Nyrsys yn Kokopo, [[Papua Gini Newydd]]]]
Darperir gwasanaethau meddygol <u>gofal sylfaenol</u> gan [[Meddyg|feddygon]], cynorthwywyr meddygol, ymarferwyr nyrsio, neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill sydd â chysylltiad cyntaf â chlaf sy'n mofyn triniaeth neu ofal meddygol.<ref>{{Cite web|title=Types of health care providers: MedlinePlus Medical Encyclopedia|url=https://medlineplus.gov/ency/article/001933.htm|website=medlineplus.gov|access-date=19 January 2021|language=en|archivedate=23 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210123051332/https://medlineplus.gov/ency/article/001933.htm}}</ref> Mae'r rhain yn digwydd mewn swyddfeydd meddygon, clinigau, cartrefi nyrsio, ysgolion, ymweliadau cartref, a lleoedd eraill yn agos at gleifion. Gall y darparwr gofal sylfaenol drin tua 90% o ymweliadau meddygol. Mae'r rhain yn cynnwys trin salwch acíwt a chronig, [[Meddygaeth ataliol|gofal ataliol]] ac addysg iechyd i bob oed a'r ddau ryw.
 
Darperir gwasanaethau meddygol <u>gofal eilaidd</u> gan arbenigwyr meddygol yn eu swyddfeydd neu glinigau neu mewn ysbytai cymunedol lleol ar gyfer claf a atgyfeiriwyd gan ddarparwr gofal sylfaenol a roddodd ddiagnosis neu driniaeth i'r claf gyntaf.<ref>{{Cite web|title=Secondary Health Care|url=https://internationalmedicalcorps.org.uk/what-we-do/all-emergencies/secondary-health-care#:~:text=Secondary%20Health%20Care%20is%20the,most%20often%20provided%20in%20hospitals.|website=International Medical Corps|access-date=19 January 2021|language=en|archivedate=17 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210117030041/https://internationalmedicalcorps.org.uk/what-we-do/all-emergencies/secondary-health-care#:~:text=Secondary%20Health%20Care%20is%20the,most%20often%20provided%20in%20hospitals.}}</ref> Gwneir atgyfeiriadau (''referrals'') ar gyfer y cleifion hynny yr oedd angen arbenigedd neu weithdrefnau. Mae'r rhain yn cynnwys gofal dydd a gwasanaethau [[Claf|cleifion mewnol]], [[Adran achosion brys|adrannau brys]], [[Meddyginiaeth gofal dwys|meddygaeth gofal dwys]], gwasanaethau llawfeddygaeth, [[Ffisiotherapi|therapi corfforol]], esgor a danfon, unedau endosgopi, labordy diagnostig a gwasanaethau delweddu meddygol, canolfannau hosbis, ac ati. Gall rhai darparwyr gofal sylfaenol hefyd ofalu am gleifion mewn ysbytai a geni babanod mewn lleoliad gofal eilaidd.
 
Darperir gwasanaethau meddygol <u>gofal trydyddol</u> gan ysbytai arbenigol neu ganolfannau rhanbarthol sydd â chyfleusterau diagnostig a thriniaeth nad ydynt ar gael yn gyffredinol mewn ysbytai lleol. Mae'r rhain yn cynnwys canolfannau trawma, canolfannau trin llosgiadau, gwasanaethau uned newydd-anedig uwch, [[Trawsblannu organau|trawsblaniadau organau]], beichiogrwydd risg uchel, [[oncoleg]] [[radiotherapi]], ac ati.
 
Mae gofal meddygol modern yn dibynnu ar wybodaeth sy'n dal i gael ei darparu mewn llawer o leoliadau gofal iechyd ar gofnodion papur, ond yn gynyddol y dyddiau hyn trwy ddulliau electronig .
 
=== Gwyddorau sylfaenol ===
 
* ''[[Anatomeg]]'' yw'r astudiaeth o adeiledd ffisegol [[Organeb byw|organebau]].
* ''[[Biocemeg]]'' yw'r astudiaeth o'r cemeg sy'n digwydd mewn [[organebau byw]], yn enwedig strwythur a swyddogaeth eu cydrannau [[cemegol]].
* ''[[Biomecaneg]]'' yw'r astudiaeth o strwythur a swyddogaeth systemau biolegol trwy ddulliau [[Mecaneg]].
* ''Bioystadegau'' yw cymhwyso ystadegau i feysydd biolegol yn yr ystyr ehangaf. Mae gwybodaeth am fio-ystadegau yn hanfodol wrth gynllunio, gwerthuso a dehongli ymchwil feddygol. Mae hefyd yn sylfaenol i epidemioleg a meddygaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
* Mae ''bioffiseg'' yn wyddor ryngddisgyblaethol sy'n defnyddio dulliau [[ffiseg]] a [[Cemeg ffisegol|chemeg ffisegol]] i astudio systemau biolegol.
* [[Bioleg cell]] (neu ''Sytoleg)'' yw'r astudiaeth ficrosgopig o [[Cell (bioleg)|gelloedd]] unigol.
 
[[Delwedd:Albert_Edelfelt_-_Louis_Pasteur_-_1885.jpg|bawd| ''[[Louis Pasteur]]'', fel y'i portreadwyd yn ei labordy, 1885 gan Albert Edelfelt]]
 
* ''[[Embryoleg]]'' yw'r astudiaeth o ddatblygiad cynnar organebau.
* ''[[endocrinoleg|Endocrinoleg]]'' yw'r astudiaeth o hormonau a'u heffaith ar draws corff anifeiliaid.
* Astudiaeth o ddemograffeg prosesau clefyd yw ''epidemioleg'', ac mae'n cynnwys astudiaeth o epidemigau.
* ''[[Geneteg]]'' yw'r astudiaeth o enynnau, a'u rôl mewn [[Etifeddeg|etifeddiaeth fiolegol]] .
* Astudiaeth o strwythurau [[Meinwe|meinweoedd biolegol]] trwy ficrosgopeg ysgafn, microsgopeg [[Meicrosgop electron|electron]] ac imiwn-histocemeg yw ''[[histoleg]]''.
* ''[[Imiwnoleg]]'' yw'r astudiaeth o'r [[system imiwnedd]].
* ''Ffiseg feddygol'' yw'r astudiaeth o gymhwysiad egwyddorion ffiseg mewn meddygaeth.
* ''[[Microfioleg|Microbioleg]]'' yw'r astudiaeth o [[Meicro-organeb|ficro]] -organebau, gan gynnwys protosoa, [[bacteria]], [[Ffwng|ffyngau]] a [[Firws|firysau]] .
* Astudiaeth o seiliau moleciwlaidd y broses o ddyblygu, trawsgrifio a chyfieithu deunydd genetig yw ''[[Bioleg foleciwlaidd|bioleg]]'' foleciwlaidd.
* Mae ''[[gwyddoniaeth y nerfau|niwrowyddoniaeth]]'' yn cynnwys y disgyblaethau gwyddonol hynny sy'n gysylltiedig ag astudio'r [[system nerfol]]. Prif ffocws niwrowyddoniaeth yw [[Bywydeg|bioleg]] a ffisioleg yr ymennydd dynol a [[Llinyn yr asgwrn cefn|llinyn asgwrn y cefn]]. Mae rhai arbenigeddau clinigol cysylltiedig yn cynnwys [[niwroleg]], niwrolawdriniaeth a [[seiciatreg]].
* ''Mae gwyddor maeth'' (ffocws damcaniaethol) a ''[[diategydd|dieteteg]]'' (ffocws ymarferol) yn astudiaeth o'r berthynas rhwng bwyd a diod ac iechyd a chlefydau, yn enwedig wrth benderfynu ar y diet gorau posibl. Mae therapi maeth meddygol yn cael ei wneud gan ddietegwyr ac fe'i rhagnodir ar gyfer [[diabetes]], [[Clefyd cardiofasgwlar|clefydau cardiofasgwlaidd]], [[Afiechyd meddwl|anhwylderau]] pwysau a bwyta, [[alergeddau]], [[diffyg maeth]], a chlefydau neoplastig.
* Astudiaeth o afiechyd yw ''[[Patholeg|patholeg fel gwyddor]]'' - ei achosion, ei gwrs, ei ddilyniant a'i ddatrysiad.
* ''[[Ffarmacoleg]]'' yw'r astudiaeth o gyffuriau a'u gweithredoedd.
* ''[[Gynecoleg|Gynaecoleg]]'' yw'r astudiaeth o system atgenhedlu benywaidd.
* ''Ffotobioleg'' yw'r astudiaeth o'r rhyngweithiadau rhwng ymbelydredd anïoneiddio ac organebau byw.
* ''[[Ffisioleg]]'' yw'r astudiaeth o weithrediad arferol y corff a'r mecanweithiau rheoleiddio sylfaenol.
* ''Radiobioleg'' yw'r astudiaeth o'r rhyngweithiadau rhwng ymbelydredd ïoneiddio ac organebau byw.
* Astudiaeth o effeithiau peryglus cyffuriau a [[Gwenwyn|gwenwynau]] yw ''[[tocsicoleg]]''.
 
=== Arbenigeddau ===
Yn ystyr ehangaf "meddygaeth", mae yna lawer o wahanol arbenigeddau. Yn y DU, mae gan y rhan fwyaf o arbenigeddau eu corff neu goleg eu hunain, sydd â'i arholiad mynediad ei hun. Mae datblygiad arbenigedd yn aml yn cael ei yrru gan dechnoleg newydd (fel datblygu anestheteg effeithiol) neu ffyrdd o weithio (fel adrannau brys); mae'r arbenigedd newydd yn arwain at ffurfio un corff o feddygon a'r bri o weinyddu a gweithredu eu hymchwiliadau eu hunain.
 
O fewn cylchoedd meddygol, mae arbenigeddau fel arfer yn ffitio i un o ddau gategori eang: "Meddygaeth" a "Llawfeddygaeth". Mewn "meddygaeth" mae angen hyfforddiant rhagarweiniol mewn Meddygaeth Fewnol ar y rhan fwyaf o'r is-arbenigeddau.
 
Mae "llawfeddygaeth" yn cyfeirio at ymarfer meddygaeth lawdriniaethol, ac mae angen hyfforddiant rhagarweiniol mewn Llawfeddygaeth Gyffredinol ar y rhan fwyaf o is-arbenigeddau yn y maes hwn. Ar hyn o bryd, nid yw rhai arbenigeddau meddygaeth yn ffitio'n hawdd i'r naill neu'r llall o'r categorïau hyn, megis [[radioleg]], [[patholeg]], neu [[Aestheteg|anesthesia]].
 
==== Arbenigedd llawfeddygol ====
[[Delwedd:Surgeons_at_Work.jpg|bawd| Llawfeddygon mewn ystafell lawdriniaeth]]
Mae '''llawfeddygaeth''' yn arbenigedd meddygol hynafol sy'n defnyddio technegau llaw ac offerynnol gweithredol ar glaf i ymchwilio neu drin cyflwr [[Patholeg|patholegol]] fel [[Clefyd|afiechyd]] neu anaf, i helpu i wella gweithrediad neu olwg y corff neu i atgyweirio mannau sydd wedi rhwygo'n ddiangen (er enghraifft, drwm clust tyllog). Rhaid i lawfeddygon hefyd reoli ymgeiswyr llawfeddygol cyn-llawdriniaethol, ôl-lawdriniaethol ac yn aml, ar wardiau ysbytai. Mae gan lawfeddygaeth lawer o is-arbenigeddau, gan gynnwys ''llawfeddygaeth gyffredinol,<ref>{{Cite web|title=What are the surgical specialties?|url=https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C|website=American College of Surgeons|access-date=18 January 2021|language=en|archivedate=22 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210122184813/https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C}}</ref> llawdriniaeth offthalmig,<ref>{{Cite web|title=What are the surgical specialties?|url=https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C|website=American College of Surgeons|access-date=18 January 2021|language=en|archivedate=22 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210122184813/https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C}}</ref> [[llawdriniaeth gardiofasgwlaidd]], llawfeddygaeth y colon a'r rhefr,<ref>{{Cite web|title=What are the surgical specialties?|url=https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C|website=American College of Surgeons|access-date=18 January 2021|language=en|archivedate=22 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210122184813/https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C}}</ref> niwrolawdriniaeth,<ref>{{Cite web|title=What are the surgical specialties?|url=https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C|website=American College of Surgeons|access-date=18 January 2021|language=en|archivedate=22 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210122184813/https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C}}</ref> llawfeddygaeth y geg a'r wyneb,<ref>{{Cite web|title=What are the surgical specialties?|url=https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C|website=American College of Surgeons|access-date=18 January 2021|language=en|archivedate=22 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210122184813/https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C}}</ref> llawdriniaeth oncoleg,<ref>{{Cite web|title=What are the surgical specialties?|url=https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C|website=American College of Surgeons|access-date=18 January 2021|language=en|archivedate=22 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210122184813/https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C}}</ref> [[Orthopaedeg|llawdriniaeth orthopedig]],<ref>{{Cite web|title=What are the surgical specialties?|url=https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C|website=American College of Surgeons|access-date=18 January 2021|language=en|archivedate=22 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210122184813/https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C}}</ref> otolaryngology,<ref>{{Cite web|title=What are the surgical specialties?|url=https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C|website=American College of Surgeons|access-date=18 January 2021|language=en|archivedate=22 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210122184813/https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C}}</ref> llawdriniaeth blastig,<ref>{{Cite web|title=What are the surgical specialties?|url=https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C|website=American College of Surgeons|access-date=18 January 2021|language=en|archivedate=22 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210122184813/https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C}}</ref> [[Trawsblannu organau|llawdriniaeth trawsblannu]], llawdriniaeth trawma,<ref>{{Cite web|title=What are the surgical specialties?|url=https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C|website=American College of Surgeons|access-date=18 January 2021|language=en|archivedate=22 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210122184813/https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C}}</ref> [[wroleg]],<ref>{{Cite web|title=What are the surgical specialties?|url=https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C|website=American College of Surgeons|access-date=18 January 2021|language=en|archivedate=22 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210122184813/https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C}}</ref> llawdriniaeth fasgwlaidd,<ref>{{Cite web|title=What are the surgical specialties?|url=https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C|website=American College of Surgeons|access-date=18 January 2021|language=en|archivedate=22 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210122184813/https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C}}</ref> a llawdriniaeth bediatrig''.<ref>{{Cite web|title=What are the surgical specialties?|url=https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C|website=American College of Surgeons|access-date=18 January 2021|language=en|archivedate=22 January 2021|archiveurl=https://web.archive.org/web/20210122184813/https://www.facs.org/education/resources/medical-students/faq/specialties#:~:text=The%20American%20College%20of%20Surgeons,surgery%2C%20otorhinolaryngology%2C%20pediatric%20surgery%2C}}</ref>
 
Mewn rhai canolfannau, mae anesthesioleg yn rhan o raniad llawdriniaeth (am resymau hanesyddol a logistaidd), er nad yw'n ddisgyblaeth lawfeddygol. Gall arbenigeddau meddygol eraill ddefnyddio gweithdrefnau llawfeddygol, megis offthalmoleg a [[dermatoleg]], ond ni chânt eu hystyried yn is-arbenigeddau llawfeddygol fel y cyfryw.
 
Mae hyfforddiant llawfeddygol yn yr Unol Daleithiau yn gofyn am o leiaf bum mlynedd o breswyliad ar ôl ysgol feddygol. Mae is-arbenigeddau llawdriniaeth yn aml yn gofyn am saith mlynedd neu fwy. Yn ogystal, gall cymrodoriaethau bara un i dair blynedd ychwanegol. Oherwydd y gall cymrodoriaethau ôl-breswyliaeth fod yn gystadleuol, mae llawer o hyfforddeion yn neilltuo dwy flynedd ychwanegol i ymchwilio. Felly mewn rhai achosion ni fydd hyfforddiant llawfeddygol yn gorffen am fwy na degawd ar ôl ysgol feddygol. Ar ben hynny, gall hyfforddiant llawfeddygol fod yn anodd iawn ac yn cymryd llawer o amser.
 
== Addysg a rheolaethau cyfreithiol ==
[[Delwedd:Medical_students_learning_about_stitches_(2760577402).jpg|bawd| Myfyrwyr meddygol yn dysgu am bwythau]]
Mae addysg a hyfforddiant meddygol yn amrywio ledled y byd. Fel arfer mae'n cynnwys addysg lefel mynediad mewn ysgol feddygol prifysgol, ac yna cyfnod o ymarfer dan oruchwyliaeth neu interniaeth, neu breswyliad. Gellir dilyn hyn gan hyfforddiant galwedigaethol ôl-raddedig. Mae amrywiaeth o ddulliau addysgu wedi'u defnyddio mewn addysg feddygol, sy'n dal i fod yn ffocws ymchwil gweithredol. Yng Nghanada ac Unol Daleithiau America, rhaid cwblhau gradd Doethur mewn Meddygaeth, MD, neu radd Doethur mewn Meddygaeth Osteopathig, a dalfyrrir yn aml fel DO ac sy'n unigryw i'r Unol Daleithiau.
 
== Moeseg feddygol ==
{{Prif|Medical ethics}}
[[Delwedd:HippocraticOath.jpg|bawd| Llawysgrif [[Yr Ymerodraeth Fysantaidd|Fysantaidd]] o'r [[Llw Hipocrataidd|Llw Hippocrataidd]] o'r 12g]]
Mae moeseg feddygol yn system o egwyddorion moesol sy'n cymhwyso gwerthoedd a dyfarniadau llysoedd a llywodraeth i ymarfer meddygaeth. Fel disgyblaeth ysgolheigaidd, mae moeseg feddygol yn cwmpasu ei chymhwysiad ymarferol mewn lleoliadau clinigol yn ogystal â gwaith ar ei hanes, athroniaeth, diwinyddiaeth a chymdeithaseg. Chwech o’r gwerthoedd sy’n berthnasol yn aml i drafodaethau moeseg feddygol yw:
 
* [[ymreolaeth]] – mae gan y claf yr hawl i wrthod neu ddewis ei driniaeth. (''Voluntas aegroti suprema lex'' .)
* cymwynasgarwch – dylai ymarferwr weithredu er lles gorau’r claf. (''Salus aegroti suprema lex'' .)
* cyfiawnder – yn ymwneud â dosbarthu adnoddau iechyd prin, a phenderfyniad pwy sy’n cael pa driniaeth (tegwch a chydraddoldeb).
* di-malefience - "yn gyntaf, peidiwch â gwneud unrhyw niwed" (''primum non-nocere'').
* parch at bersonau – mae gan y claf (a’r sawl sy’n trin y claf) yr hawl i gael eu trin ag urddas.
* [[Gwirionedd|geirwiredd]] a gonestrwydd – mae’r cysyniad o gydsyniad gwybodus (informed consent) wedi cynyddu mewn pwysigrwydd ers digwyddiadau hanesyddol Treialon y Meddygon o dreialon Nuremberg, arbrawf siffilis Tuskegee, ac eraill.
 
Nid yw gwerthoedd o'r fath yn rhoi atebion ynghylch sut i drin sefyllfa benodol, ond maent yn darparu fframwaith defnyddiol ar gyfer deall gwrthdaro. Pan fo gwerthoedd moesol yn gwrthdaro, gall y canlyniad fod yn anodd i'r unigolyn, ac yn argyfwng moesegol. Weithiau, nid oes ateb da i gyfyng-gyngor mewn moeseg feddygol, ac o bryd i'w gilydd, mae gwerthoedd y gymuned feddygol (hy yr ysbyty a'i staff) yn gwrthdaro â gwerthoedd y claf unigol, y teulu, neu'r gymuned anfeddygolehangach. Gall gwrthdaro godi hefyd rhwng darparwyr gofal iechyd, neu ymhlith aelodau'r teulu. Er enghraifft, mae rhai yn dadlau bod egwyddorion ymreolaeth a chymwynasgarwch yn gwrthdaro pan fydd cleifion yn gwrthod [[Trallwysiad gwaed|trallwysiadau gwaed]]; ac ni phwysleisiwyd ar yr arferiad o ddweud y gwir cyn yr oes HIV mewn rhai gwledydd Ewropeaidd.
[[Delwedd:Imhotep-Louvre.JPG|chwith|bawd| Cerflun o'r hen feddyg Eifftaidd [[Imhotep]], y meddyg cyntaf o'r hynafiaeth sy'n hysbys wrth ei enw]]
 
=== Byd hynafol ===
Fel y nodwyd ar y dechrau, wrth gyfeirio at [[Llyn y Fan Fach|Forwyn Llyn y Fan]], roedd meddygaeth gynhanesyddol yn ymgorffori planhigion ([[Llysiau rhinweddol|l]][[Llysiau rhinweddol|lysiau rhinweddol]]), rhannau o anifeiliaid, a mwynau arbennig. Mewn llawer o achosion defnyddid y rhain yn ddefodol fel sylweddau hud gan offeiriaid, [[Siamanaeth|siamaniaid]], neu feddygon, fel [[Meddygon Myddfai]]. Mae systemau ysbrydol adnabyddus yn cynnwys [[eneidyddiaeth]] (y syniad bod gan wrthrychau difywyd ysbryd), [[ysbrydegaeth]] (apêl at dduwiau neu gymundeb ag ysbrydion hynafiaid); [[Siamanaeth|siamaniaeth]] (breinio unigolyn â phwerau cyfriniol); a [[Darogan|dewiniaeth]] (cael y gwir drwy hud). Mae maes anthropoleg feddygol yn archwilio'r ffyrdd y mae diwylliant a chymdeithas wedi'u trefnu o amgylch neu'n cael eu heffeithio gan faterion iechyd, gofal iechyd a materion cysylltiedig.
 
Mae cofnodion cynnar ar feddyginiaeth wedi'u darganfod o feddyginiaeth hynafol yr Aifft, Meddygaeth Babylonaidd, meddygaeth Ayurvedic (yn [[Isgyfandir India|is-gyfandir India]]), meddygaeth Tsieineaidd glasurol, meddygaeth Geltaidd, meddygaeth Groeg hynafol a meddygaeth Rufeinig.
 
Yn yr Aifft, Imhotep ([[3g CC]]) yw'r meddyg cyntaf mewn hanes sy'n hysbys wrth ei enw. Y testun meddygol hynaf o'r Aifft yw ''[[Papyrws Gynaecolegol Kahun]]'' o tua 2000 BCE, sy'n disgrifio clefydau gynaecolegol. Mae ''Papyrws Edwin Smith'' sy'n dyddio'n ôl i 1600 BCE yn waith cynnar ar lawdriniaeth, tra bod ''Papyrus Eber'' sy'n dyddio'n ôl i 1500 BCE yn debyg i werslyfr ar feddygaeth. <ref name="Acker">{{Cite book|last=Ackerknecht|first=Erwin|title=A Short History of Medicine|url=https://archive.org/details/shorthistoryofme00acke|year=1982|publisher=JHU Press|isbn=978-0-8018-2726-6|page=[https://archive.org/details/shorthistoryofme00acke/page/22 22]}}</ref>
 
Yn Tsieina, mae tystiolaeth archeolegol o feddyginiaeth mewn Tsieinëeg yn dyddio'n ôl i [[Brenhinllin Shang|Frenhinllin Shang]] [[Oes yr Efydd|yr Oes Efydd]], yn seiliedig ar hadau ar gyfer llysieuaeth ac offer y tybir eu bod wedi'u defnyddio ar gyfer llawdriniaeth.<ref>{{Cite journal|last=Hong|first=Francis|title=History of Medicine in China|journal=McGill Journal of Medicine|year=2004|volume=8|issue=1|page=7984|url=http://www.medicine.mcgill.ca/MJM/issues/v08n01/crossroads/hong.pdf|archive-url=https://web.archive.org/web/20131201231218/http://www.medicine.mcgill.ca/MJM/issues/v08n01/crossroads/hong.pdf|archive-date=1 December 2013}}</ref> Mae'r ''Huangdi Neijing'', epilydd meddygaeth Tsieineaidd, yn destun meddygol a ysgrifennwyd yn dechrau yn yr [[2g CC]] ac a luniwyd yn y [[3g]].<ref name="Unsc">{{Cite book|last=Unschuld|first=Pual|title=Huang Di Nei Jing: Nature, Knowledge, Imagery in an Ancient Chinese Medical Text|url=https://books.google.com/books?id=N2ZdrPCbpNIC&pg=PR9|year=2003|publisher=University of California Press|isbn=978-0-520-92849-7|page=ix|access-date=14 November 2015}}</ref>
 
Yn India, disgrifiodd y llawfeddyg Sushruta nifer o lawdriniaethau, gan gynnwys y ffurfiau cynharaf o lawdriniaeth blastig.<ref name="Singh">{{Cite journal|year=2003|title=We need to think and act|journal=Indian Journal of Plastic Surgery|url=http://www.ijps.org/text.asp?2003/36/1/53/5785|volume=36|issue=1|pages=53–54|access-date=9 August 2021|archive-date=29 September 2018|archive-url=https://web.archive.org/web/20180929111240/http://www.ijps.org/text.asp?2003%2F36%2F1%2F53%2F5785}}</ref> <ref name="Longfellow">{{Cite journal|title=History of plastic surgery in India|journal=Journal of Postgraduate Medicine|volume=48|issue=1|pages=76–8|year=2002|pmid=12082339}}</ref> Daw cofnodion cynharaf ysbytai pwrpasol o Mihintale yn [[Sri Lanca|Sri Lanka]] lle mae tystiolaeth o gyfleusterau triniaeth feddygol pwrpasol i gleifion.<ref>{{Cite journal|title=Rohal Kramaya Lovata Dhayadha Kale Sri Lankikayo.|journal=Vidhusara Science Magazine|date=November 1993|pages=5}}</ref><ref>{{Cite web|title=Resource mobilization in Sri Lanka's health sector|website=Harvard School of Public Health & Health Policy Programme, Institute of Policy Studies|date=9 February 1997|url=http://www.hsph.harvard.edu/ihsg/publications/pdf/No-42.PDF|page=19|access-date=16 July 2009|archivedate=29 October 2001|archiveurl=https://web.archive.org/web/20011029204848/http://www.hsph.harvard.edu/ihsg/publications/pdf/No-42.PDF}}</ref>
 
==Cyfeiriaau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}}
 
{{Rheoli awdurdod}}
[[Categori:Meddygaeth| ]]