Tver: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle|gwlad={{banergwlad|Rwsia}}}}
 
Dinas yng nghanolbarth Rwsia Ewropeaidd yw '''Tver''' ([[Rwsieg]] ''Тверь'' / ''Tver<nowiki>'</nowiki>''), canolfan weinyddol [[Oblast Tver|''oblast'' Tver]]. Mae'n borthladd ar ran uchaf [[Afon Volga]], lle mae [[Afon Tvertsa]] yn ymuno â hi. Fe'i lleolir 167&nbsp;km i'r gogledd-orllewin i [[MoscowMoscfa]], a 485&nbsp;km i'r de-ddwyrain i [[St Petersburg]] ar brif ffyrdd a'r rheilffordd rhwng y ddwy. Sylfaenwyd tywysogaeth rymus yn y ddinas yn yr Oesoedd Canol. Ailenwyd y ddinas fel '''Kalinin''' (ar ôl y chwyldroadwr [[Mikhail Kalinin]]) ym [[1931]], ond dychwelodd i'w henw gwreiddiol ym [[1990]]. Ei phoblogaeth yw 408,903 (Cyfrifiad 2002).
 
== Hanes ==
Mae Tver yn ddinas hanesyddol. Yn y [[13g]] a dechrau'r [[14g]], fe dyfodd fel canolfan fasnachol, a daeth [[tywysogaeth Tver]] i fod ymysg tywysogaethau grymusaf yr ardal. Difethwyd rhannau helaeth o'r ddinas mewn gwrthryfel yn erbyn rheolaeth y [[Mongoliaid]] ym [[1327]], a dechreuodd ei dylanwad leihau o hyn ymlaen. Un o ddinesyddion enwocaf Tver oedd [[Afanasy Nikitin]], marsiandwr o'r ddinas a fordwyodd i [[India]] a de-ddwyrain Asia o [[1466]] hyd [[1477]] ac a ysgrifennodd ddisgrifiad o'i daith. Meddiannwyd y ddinas gan luoedd tywysogaeth fawr MoscowMoscfa o dan [[Ifan III, Tywysog Mawr MoscowMoscfa|Ifan III]] ym [[1485]]. Collodd ei hannibyniaeth o hyn ymlaen, gan ddod yn rhan o wladwriaeth ganolog Rwsia oedd yn ffurfio o gwmpas MoscowMoscfa.
 
[[Categori:Dinasoedd a threfi Oblast Tver]]