Bryn Euryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 13:
== Dosbarthiad ==
[[Delwedd:View of Colwyn Bay from Bryn Euryn. - geograph.org.uk - 1757228.jpg|bawd|chwith|Yr olygfa o [[Bae Colwyn|Fae Colwyn]] o'r copa
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn [[Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu|rhestri arbennig]] yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n [[HuMP]]. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.<ref>[http://www.hills-database.co.uk/downloads.html “Database of British and Irish hills”]</ref> Uchder y copa o lefel y môr ydy 131 metr (430 [[troedfedd|tr]]). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 8 Mehefin 2009.
== Y fryngaer ==
Codwyd caer ar ben y bryn yn [[Oes yr Haearn]]. Does dim tystiolaeth archaeolegol iddi gael ei defnyddio yng [[cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|nghyfnod y Rhufeiniaid]], ond ymddengys i'r hen gaer gael ei hatgyweirio ar ddechrau'r cyfnod ôl-Rufeinig, mor gynnar â'r 5g efallai, a chael ei defnyddio fel amddiffynfa.<ref>Helen Burnham, ''Clwyd and Powys'', cyfres ''Ancient and Historic Wales'' (HMSO, 1995), tud. 53</ref> Mae traddodiad<ref>Thomas Pennant, ''Teithiau yng Nghymru'', tud. 444.</ref> yn ei chysylltu â'r Brenin [[Maelgwn Gwynedd]] (tua 480-547) a atgyfnerthodd [[Castell Degannwy|Gaer Ddegannwy]], rhai milltiroedd i'r gorllewin, ar ddechrau'r 6g.
|