Ankst: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Llinell 13:
<!--Wedi tynnu logo "AnkstMusic".. mae hon yn erthygl am "Ankst" - hen label sydd wedi darfod ers talwm. Roedd y logo yn perthyn i "AnkstMusic" cwmni gwahannol sydd wrthi y dyddiau yma. Wedi rhoi cyfeiriadau i'w dalen Wicipedia ac i'w gwefanau ar y gwaelod mewn 'Dolenni allanol'-->
 
Roedd '''Ankst''' yn label recordio annibynnol [[Cymraeg]]. Sefydlwyd yn [[1988]] ym [[Prifysgol Cymru Aberystwyth|Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth]] gan [[Alun Llwyd]], [[Gruffudd Jones]] ac [[Emyr Glyn Williams]]. Sefydlwyd i ryddhau recordiau bandiau oedd angen labeli i hyrwyddo eu cerddoriaeth. Rhoddwyd yr enw Ankst ar y label gan Richard Wyn Jones sydd bellach yn ddarlithydd mewn gwleidyddiaeth. Wedi rhyddhau sawl caset ar raddfa fechan, symudodd y label i [[Caerdydd|Gaerdydd]] a daeth yn bwysicach ym myd [[cerddoriaeth]]. Bu yn gyfrifol am lwyddiant sawl band [[Cymraeg]] gan gynnwys [[Llwybr Llaethog (band)|Llwybr Llaethog]], [[Super Furry Animals]] a [[Gorky's Zygotic Mynci]]. Rhyddhawyd ep's gan [[Topper]] a Melys ar y label.
 
Rhwng 1988 a [[1997]], rhyddhaodd tua 80 o recordiau cyn iddo ymrannu yn ddau gwmni, sef 'Rheoli Ankst Management Ltd.' (oedd yn cael ei redeg gan Alun Llwyd a Gruffudd Jones ac oedd yn gyfrifol am edrych ar ôl [[Super Furry Animals]], [[Gorky's Zygotic Mynci]], [[The Longcut]], ac am gyfnod, [[Cerys Matthews]]) ac [[Ankstmusik]], y label. Bellach mae Alun Llwyd yn rhedeg cwmni Turnstile, sydd yn gwmni rheoli a label recordio. Mae hefyd yn rhedeg Epa, sydd yn gwmni cyhoeddi caneuon. Mae Emyr Glyn Williams yn rhedeg label [[Ankstmusik]].