Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwydion fab Dôn"

Ychwanegwyd 109 beit ,  6 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
No edit summary
No edit summary
 
Cymeriad yn y bedwaredd o [[Pedair Cainc y Mabinogi|Bedair Cainc y Mabinogi]], chwedl ''[[Math fab Mathonwy]]'' yw '''Gwydion fab Dôn'''. Gellir ystyried mai Gwydion, yn hytrach na Math, yw'r prif gymeriad yn y stori. Mae ei fam, [[Dôn]], yn [[Dduwies]] [[Celtiaid|Geltaidd]] sy'n chwaer i Math fab Mathonwy ac a uniaethir â'r dduwies Geltaidd [[Danu]]/[[Anu]] yn y traddodiad Gwyddelig. '"Caer Wydion'" yw'r enw Cymraeg traddodiadol am y [[Llwybr Llaethog yn awyr y nos|Llwybr Llaethog]].
 
==Rhan Gwydion yn chwedl ''Math fab Mathonwy''==
 
==Traddodiadau eraill==
Ceir nifer o gyfeiriadau at Wydion yng ngherddi Cymraeg yr Oesoedd Canol, yn enwedig yng ngwaith [[Beirdd yr Uchelwyr]]. Mae'r dystiolaeth hyn yn dangos fod y chwedl a geir yn y Mabinogi yn adnabyddus ac mae'n awgrymu hefyd y bu cylch ehangach o chwedlau amdano ar un adeg. Fe'i enwir sawl gwaith yn y cerddi a gysylltir â hanes y [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]]. Yn y gerdd hynafol ''Cad Goddau'', yn [[Llyfr Taliesin]], dywedir y bu Gwydion yn bresennol yn y frwydr (symbolaidd?) honno ac iddo ef a Lleu rithio coed a blodau trwy hud. Cyfeiria cerdd arall yn Llyfr Taliesin at frwydr rhwng Gwydion a rhyw elyn anhysbys yn [[Nant Ffrancon]]. Yn y gerdd ''Echrys Ynys'' (Llyfr Taliesin), gelwir [[Eryri]] yn 'wlad Gwydion'.<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'', gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, 1991), tt. 401-022.</ref>
 
Mae un o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]] yn cyfeirio at 'Hud Math fab Mathonwy (a ddysgodd i Wydion fab Dôn)' fel un o 'Dair Prif Hud [[Ynys Prydain]]'. Mewn triawd arall mae Gwydion yn un 'Dri Eur Gryd Ynys Prydain', cyfeiriad at hanes ei ymweliad â Chaer Arianrhod gyda Lleu Llaw Gyffes.<ref>''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1991)gol. Bromwich, trioedd 28, 67.</ref>
 
Yn [[Englynion y Beddau]] dywedir fod bedd Gwydion i'w gael ym [[Dinas Dinlle|Morfa Dinlleu]] (ger [[Caernarfon]]).<ref>''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1991)gol. Bromwich, tudt. 402.</ref> Ceir Bryn Gwydion ger [[Clynnog Fawr]], [[Gwynedd]] ac mae Caer Wydion yn enw traddodiadol am y [[Llwybr Llaethog yn awyr y nos|Llwybr Llaethog]].
 
==Cyfeiriadau==
 
==Llyfryddiaeth==
*W. J. Gruffydd, ''Math Vab Mathonwy: an Inquiry into the Origins and Development of the Fourth Branch of the Mabinogi with the Text and a Translation'' (Caerdydd, 1928). Y testun yn yr orgraff wreiddiol gyda chyfieithiad Saesneg cyfochrog, ynghyd ag astudiaeth fanwl a nodiadau helaeth.
* Ifans, Dafydd &a Rhiannon Ifans, ''Y Mabinogion'' (Gomer 1980). ISBN 1-85902-260-X (Sylwer fod y dyfyniadau uchod yn dod o'r diweddariad hwn yn hytrach na thestun gwreiddiol y ''Pedair Cainc''.)
*Ifor Williams (gol.), ''Pedeir Keinc y Mabinogi'', gol. Ifor Williams (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad diweddarach)
 
[[Categori:Pedair Cainc y Mabinogi]]
[[Categori:Mytholeg Gymreig]]
[[Categori:Pedair Cainc y Mabinogi]]