Llyfr Coch Hergest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[File:Red Book of Hergest - Jesus College MS 111.djvu|bawd|Y [[Commons:File:Red Book of Hergest - Jesus College MS 111.djvu|gyfrol gyfan ar Comin Wicimedia]]]]
 
[[Llawysgrif]] hynafol yn yr iaith [[Cymraeg|Gymraeg]], a ysgrifennwyd tua [[1382]]-[[1410]], yw '''Llyfr Coch Hergest'''. Mae’n un o brif ffynonellau ar gyfer chwedlau'r [[Mabinogi]] a cheir ynddi ogystalhefyd sawl testun [[rhyddiaith Cymraeg Canol]] arall ac adran bwysig o gerddi. Mae'r gwaith wedi'i osod yn drefnus iawn ac yn cynnwys [[Rhyddiaith]], [[barddoniaeth]], gweithiau brodorol, addasiadau o ieithoedd eraill a chyfieithiadau.<ref>''Gwyddoniadur Cymru''; Gwasg y Brifysgol; 2008; tud.577</ref>
 
Cyfeiriwyd ati fel 'y crynhoad llawysgrif sengl cyfoethocaf o lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol' (Lewis 1971: 481), 'llyfrgell mewn un gyfrol', ac 'y trymaf o'r llyfrau canoloesol yn Gymraeg o bell ffordd, y mwyaf yn ei ddimensiynau ... a'r mwyaf trwchus' Huws (2000: 82).<ref>[http://www.rhyddiaithganoloesol.caerdydd.ac.uk/cy/tei-header.php?ms=Jesus111 rhyddiaithganoloesol.caerdydd.ac.uk;] Rhyddiaith Gymraeg 1300 - 1425 Prifysgol Caerdydd; adalwyd 20 Gorffennaf 2021.</ref>
Llinell 9:
Roedd ''[[Llyfr Gwyn Hergest]]'' yn llawysgrif a sgwennwyd yn rhannol gan [[Lewis Glyn Cothi]], ond yn 1810 cafodd ei ddinistrio mewn tân.
 
Roedd ym meddiant y brudiwr a noddwr [[Hopcyn ap Tomas]] o [[Ynysforgan]] ac [[Ynysdawe]] ar ddechrau'r [[15g]]. Gwyddys ei fod yn berchen ar [[Llyfr Coch Hergest|Lyfr Coch Hergest]] gan fod cofnodion ynddo amdano gan y copïydd proffesiynol Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuellt, ac mae'n bosibl mai ar gyfer Hopcyn ap Tomas ab Einion o [[Ynysforgan]] yng [[Cwm Tawe|Nghwm Tawe]] y lluniwyd y llawysgrif. Ymddengys ei fod wedi gwneud cryn dipyn o waith i Hopcyn a cheir dim llai na phum [[awdl]] i Hopcyn yn y Llyfr Coch yn ogystal aâ gwaith gan: [[Llywelyn Goch ap Meurig Hen]], [[Dafydd y Coed]], [[Madog Dwygraig]], [[Meurig ab Iorwerth]] ac [[Ieuan Llwyd ab y Gargam]]. Yn ogystal a hyn, ceir awdl gan [[Y Proll]] i'w fab Tomas ap Hopcyn, yntau'n noddwr beirdd o fri.<ref>"R. Iestyn Daniel 2002"</ref>
 
Daw’r enw am ei bod wedi ei rwymo mewn lledr coch, a’i gysylltiad gyda Phlas [[Hergest (plas)|Hergest]] yn [[Swydd Henffordd]]. Ymddengys iddo ddod i feddiant John Vaughan o [[Llys Tre-tŵr|Dre-tŵr]] yn 1465 ac iddo fynd oddi yno i Hergest. Bu ym meddiant y teulu hyd ddechrau'r [[17g]] a dyna pam y cafodd yr enw. Fe roddwyd y llyfr gan y Parch. Thomas Wilkins i [[Coleg Yr Iesu, Rhydychen|Goleg Yr Iesu, Rhydychen]] yn [[1701]], ac mae ar gadw yn [[Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen]], ac wedi'i ddigideiddio ar drwydded agored.