Frank Lloyd Wright: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
 
[[Pensaer]] Americanaidd oedd '''Frank Lloyd Wright''' ([[8 Mehefin]] [[1867]] – [[9 Ebrill]] [[1959]]).
 
[[UDA|Americanwr]] o [[Wisconsin]] ydoedd, ond gŵr a'i wreiddiau'n ddwfn yng [[Cymru|Nghymru]]. Bu'n bensaer dros 500 o brosiectau gorffenedig, yn awdur dros 20 o lyfrau pensaernïol a chynllunydd dodrefn mwyaf yr 20g. Yn 1991 fe gyhoeddodd Cymdeithas Penseiri America mai ef oedd "the greatest American architect of all time".<ref>http://www.businessweek.com/bwdaily/dnflash/jul2004/nf20040728_3153_db078.htm</ref>
 
Ar ôl dod yn bensaer galwodd nifer o'i adeiladau yn "[[Taliesin]]" (yn ogystal aâ'i [[Taliesin (stiwdio)|gartref ei hun]]).<ref>[http://www.franklloydwright.org/fllwf_web_091104/taliesin.html Taliesin o wefan Sefydliad Frank Lloyd Wright]</ref><ref>{{Cite web |url=http://www.taliesinpreservation.org/aboutus/faq.htm#TPI_FLLW_FDN |title=Taliesin ar wefan Taliesin Preservation Inc. |access-date=2010-03-01 |archive-date=2010-03-29 |archive-url=https://web.archive.org/web/20100329192003/http://www.taliesinpreservation.org/aboutus/faq.htm#TPI_FLLW_FDN |url-status=dead }}</ref>
 
O'r cartref cyntaf gafodd ei gynllunio ganddo hyd at ei farwolaeth, creodd syniadau chwyldroadol megis pensaernïaeth organig (chwedl Fallingwater), a oedd yn pwysleisio y dylai'r adeilad ffitio i mewn yn naturiol i'r ardal mae ynddo. Creodd fathau gwahanol o eglwysi, swyddfeydd, ysgolion, gwestai ayb - yn ogystal aâ thu fewn i'r adeiladau hyn: y dodrefn a'r ffenestri er enghraifft. Sgwennodd dros ugain o lyfrau'n ymwneud â phensaernïaeth yn ystod ei oes ac roedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn drwy America ac Ewrop. Roedd yn berson lliwgar hefyd ac roedd ei fywyd yn llenwi papurau'r oes: methiant dwy briodas a'r tân erchyll a gynnwyd yn fwriadol yn 1914 gan ddifrodi'r [[Taliesin (stiwdio)|Taliesin Studio]] - a lladd 7 o bobl.
 
Defnyddiodd gynllun agored yn aml, sy'n dangos ei fod yn ymateb i'r newidiadau cymdeithasol yn America; roedd y gegin er enghraifft yn aml bron yn un a'r ystafell fwyta - er mwyn i'r wraig gadw llygad ar y plant neu'r ymwelwyr tra'n coginio. Cafodd ei ddynwared gan lawer o bensaeri a'i ddilynodd - ac yn eu plith mae [[Mies van der Rohe]]. Ef oedd arweinydd y symudiad a elwir y 'Prairie School movement of architecture' (gyda Robie House a Westcott House yn esiamplau clasurol), a datblygodd y syniad o'r cartref Usonaidd ('Usonian') (gweler ei Rosenbaum House).