Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llychlynwyr yng Ngalisia"

B
dim crynodeb golygu
(Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8)
BNo edit summary
 
Mae'r cofnod cyntaf o ymosodiadau'r Llychlwynwyr i'w ganfod yn yr ''Annales Bertiniani'', yn Awst 844 pan hwyliodd eu cychod i fyny aber [[Afon Garonne]] (sydd heddiw yn [[Ffrainc]]) ac i Galisia gan ddod i'r lan yn ardal Farum Brecantium. Rheibiwyd sawl pentref ac eglwys ar y ffordd, mae'n debyg. Yna, wedi brwydr fawr aethant ymlaen i'r dref a elwir heddiw yn [[Lisbon]]. Ychydig wedi hynny, ceir chwedl am yr Esgob Gonzalo Bretoña a welodd gychod y Llychlynwyr yn dod yn nes, ac a weddiodd i'r nef am gymorth. Boddwyd y rhan fwyaf o'r cychod gan storm enfawr, yn ôl yr hanes.
 
Dros y canrifoedd, dioddefodd yr ardal yn enbyd gan ymosodiadau Sgandinafaidd, a cheir sawl gwyl a cherflun i gofio'r cysylltiad hwn yn ogystal aâ hen greiriau. Yr wyl fwyaf yw honno yn [[Catoira]] a gynhelir ar y Sul cyntaf yn Awst.<ref>[http://www.donquijote.org/culture/spain/society/holidays/viking-festival-galicia www.donquijote.org;] adalwyd 16 Mehefin 2015</ref> Credir hefyd i nifer ohonynt aros yn yr ardal, gan briodi i mewn i'r teuluoedd Celtaidd, brodorol.<ref>[http://www.abdn.ac.uk/news/7184/ Prifysgol Aberdeen] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20160304205747/http://www.abdn.ac.uk/news/7184/ |date=2016-03-04 }}; adalwyd 16 Mehefin 2015</ref>
 
Un o'u cyrchfannau oedd ''Jakobsland'', a adnabyddir heddiw fel [[Santiago de Compostela]], a oedd, yn ôl y sôn yn llifeirio o aur ac arian. Gelwir Catoira hyd heddiw yn 'yr allwedd i Galisia', ac er mwyn cyrraedd Eglwys Gadeiriol Santiago, roedd yn rhaid pasio caer gref Catoira. Gefeilliwyd Catoira gyda Frederikssund, [[Denmarc]] er mwyn cadarnhau'r cysylltiad Sgandinafaidd.