Las Palmas de Gran Canaria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Delwedd:Las palmas gran canaria parque san telmo 2005.jpg|bawd|250px|Parque San Telmo, Las Palmas]]
 
'''Las Palmas de Gran Canaria''', a adwaenir yn aml fel '''Las Palmas''' yw dinas fwyaf [[yr Ynysoedd Dedwydd]] a'r nawfed dinas yn [[Sbaen]] o ran poblogaeth. Saif yng ngogledd-ddwyrain ynys [[Gran Canaria]]. Hi yw prifddinas yr ynys a phrifddinas talaith Las Palmas, yn ogystal aâ bod yn brifddinas Cymuned Ymreolaethol yr Ynysoedd Dedwydd ar y cyd gyda [[Santa Cruz de Tenerife]]. Roedd y boblogaeth yn 377,203 yn [[2007]].
 
Dyddia sefydliad y ddinas i [[1478]], pan ddechreuodd [[Juan Rejón]] ar goncwest Gran Canaria i Goron Sbaen. Galwodd [[Christopher Columbus]] yna yn Awst [[1492]] i drwsio ei longau, ar ei ffordd i ddarganfod y Byd Newydd.