Mudiadau cymdeithasol LHDT: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 9:
Ysgrifenna'r cymdeithasegwraig Mary Bernstein: "Bryd hynny, roedd nodau'r mudiad lesbiaid a hoywon yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) herio'r ddelwedd o wryweidd-dra benyweidd-dra, [[homoffobia]], a'r syniad o deulu niwclear heterorywiol ([[heteronormadedd]]). Roedd eu nodau gwleidyddol yn cynnwys newid y gyfraith a pholisïau er mwyn derbyn hawliau newydd, budd-daliadau ac amddifyniad rhag niwed."<ref>Bernstein, Mary (2002). "Identities and Politics: Toward a Historical Understanding of the Lesbian and Gay Movement". ''Social Science History'' 26:3 (fall 2002). Cyfieithiad o'r dyfyniad</ref> Pwysleisia Bernstein fod ymgyrchwyr yn ceisio y ddau fath o nod yn y meysydd sifil a gwleidyddol.
 
Fel gyda mudiadau cymdeithasol eraill, ceir gwrthdaro o fewn a rhwng mudiadau LHDT, yn enwedig ynglynynglŷn â strategaethau ar gyfer newid. Ceir trafodaethau ynglynynglŷn ag i ba raddau y mae lesbiaid, dynion hoyw, pobl ddeurywiol, trawsrywiol a rhyngrywiol yn wynebu'r un problemau ac am yr angen i gyd-weithio. Yn aml yn ystod y 1970au, 80au a'r 90au, ceisiodd arweinyddion y mudiad lesbiaid a hoywon guddio lesbiaid gwrywaidd, dynion hoyw benywaidd, pobl trawsrywiol a deurywiol rhag y cyhoedd, gan greu rhaniadau mewnol o fewn cymunedau LHDT.
 
Yn aml, mae mudiadau LHDT wedi mabwysiadu math o wleidyddiaeth hunaniaeth sy'n ystyried pobl hoyw, deurywiol a/neu bobl trawsrywiol fel dosbarth penodol o bobl. Mae'r rheiny sy'n defnyddio'r math yma o syniad yn anelu at nodau gwleidyddol rhyddfrydol fel rhyddid a chyfle cyfartal, gan anelu at wleidyddiaeth y brif ffrwd fel y wneir gan grwpiau eraill yn y gymdeithas. Wrth ddadlau fod [[cyfeiriadedd rhywiol]] a [[hunaniaeth rywiol]] yn rhan annatod o unigolyn ac na ellir ei newid, gwrthwynebir unrhyw ymgais i newid dynion hoyw, lesbiaid a phobl deurywiol yn heterorywiol ("[[therapi trawsnewid]]") gan y gymuned LHDT. Yn aml, seilir y therapi hyn ar gredoau crefyddol sy'n ystyried fod gweithgarwch dynion hoyw, lesbiaid a phobl deurywiol yn anfoesol.