Titus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Erthygl newydd using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
Titus oedd mab hynaf yr ymerawdwr [[Vespasian]], a bu'n rhannu grym gydag ef am gyfnod. Ar farwolaeth ei dad daeth Titus yn ymerawdwr. Cyn i'w dad ddod yn ymerawdwr bu'n ymladd yn erbyn [[Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain|gwrthryfel yr Iddewon]] yn nhalaith [[Judea]], a phan ddaeth Vespasian yn ymerawdwr a dychwelyd i Rufain gadawyd Titus i ddelio a'r gwrthryfel. Llwyddodd i gymeryd dinas [[Jerusalem]] ar ôl ei gwarachae am bum mis. Mae Bwa Titus yn Rhufain yn coffau ei fuddugoliaeth.
 
Yn ystod yr ymladd yn Judea syrthiodd Titus mewn cariad a [[Berenice]], merch y brenin [[Herod Agripa I]]. Aeth a hi gydag ef i Rufain, ond oherwydd nad oedd poblogaeth Rhufain yn hapus ynglynynglŷn aâ'r berthynas bu rhaid iddi roi'r gorau i'r syniad o'i phriodi. Eu perthynas yw thema'r ddrama "Titus a Berenice" gan [[Pierre Corneille]] a "Berenice" gan [[Jean Racine]].
 
Daeth Titus yn boblogaidd iawn yn ystod ei deyrnasiad oherwydd ei haelioni. Ef oedd yn gyfrifol am orffen y gwaith ar y [[Colisewm]], a gychwynwyd gan ei dad. Dilynwyd ef gan ei frawd [[Domitian]].