Mwyalchen y mynydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 97:
 
==Cysylltiadau a phobl==
Ni ellir bod yn bendant ynglynynglŷn ag i ba raddau oedd ein cyndeidiau yn ymwybodol o'r fwyalchen fynydd fel rhywogaeth ar wahân i'r fwyalchen gyffredin. Nid oedd yr aderyn naill na'n cystadlu â nhw nac yn cael ei hela, ei ddofi na'i anwesu ganddynt, yng Nghymru o leiaf. Gan mai enw cyfansawdd lled ddiweddar yw Mwyalchen y mynydd (hynny yw, nid mwy na math o fwyalchen cyffredin ''T. merula'' ydyw, os hynny) ni ellir dadlau yn gryf ar sail yr enw bod ein hynafiaid Cymraeg eu hiaith wedi cymryd sylw arbennig o'r fwyalchen fynydd yn eu bywyd pob dydd. Noda Dewi Lewis (gw. Enwau amgen, uchod) (ymysg nifer o enwau cyfansawdd eraill sy'n cysylltu yn ôl i ''Turdus merula'') yr enw syml 'Merwys' am ''Turdus torquatus'' ond mae [[Geiriadur Prifysgol Cymru]] yn cynnig tair rhywogaeth fel ystyr y gair hwn: mwyalchen, ''Turdus merula'', mwyalchen y mynydd, ''Turdus torquatus'' a Bronwen y dŵr, ''Cinclus cinclus''. Felly digon gwan oedd ymwybyddiaeth pobl drwy'r oesoedd o'r aderyn hwn. Serch hynny, anodd yw credu nad oedd y gân unigryw, y dorch wen a'r cynefin mynyddig yn tynnu sylw gwladwyr yr ucheldir dros yr oesoedd i ryw raddau.
 
Wedi dweud hynny, ar y cyfandir, mewn rhannau o'r Almaen heddiw, mae yna draddodiad hir o hela mwyeilch o wahanol fathau, yn cynnwys mwyalchod mynydd, i'w bwyta<ref>Cocker, M. (2013): ''Birds and People''. Jonathan Cape</ref>