Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Diana, Tywysoges Cymru"

Ychwanegwyd 1 beit ,  5 mis yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(→‎top: Nodyn:Person using AWB)
BNo edit summary
== Bywyd cynnar ==
Roedd Diana yn ferch ieuengaf i Spencer, [[Is-iarll]] Althorp, sef [[John Spencer, 8fed Iarll Spencer|8fed Iarll Spencer]] yn ddiweddarach, a'i wraig cyntaf, [[Frances Shand Kydd|Frances, Is-iarlless Althorp]] (yr Anrhydeddus Frances Burke Roche gynt, a Frances Shand Kydd yn ddiweddarach). Ganwyd yn Park House, [[Sandringham, Norfolk|Sandringham]] yn [[Norfolk]] ar 1 Gorffennaf 1961 am 6.45 y prynhawn. Bedyddwyd yn Egwlys St. Mary Magdalene gan y gwir barchedig [[Percy Herbert (esgob)|Percy Herbert]] (rheithor yr eglwys a chyn [[Esgob Norwich]] a [[Esgob Blackburn|Blackburn]]); roedd ei rhieni bedydd yn cynnwys [[John Floyd]] (cadeirydd [[Christie's]]). Hi oedd trydydd plentyn y cwpl, roedd ei brodydd a'i chwiorydd oedd y [[Bonesig Sarah McCorquodale|Fonesig Sarah Spencer]] (ganwyd 1955), y [[Jane Fellowes, Barwnes Fellowes|Fonesig Jane Spencer]] (ganwyd 1957), yr Anrhydeddus John Spencer (bu farw 12 Ionawr 1960), a'r [[Charles Spencer, 9fed Iarll Spencer|Anrhydeddus Charles Spencer]] (ganwyd 1964). Yn dilyn ysgariad chwerw eu rhieni ym 1969 (ynglŷn aâ helynt y Fonesig Althorp gyda [[Peter Shand Kydd]]), cymerodd mam Diana hi a'i brawd ifengaf i fyw mewn fflat yn [[Knightsbridge]], [[Llundain]], ble mynychodd Diana ysgol leol. Y Nadolig hwnnw, fe aeth y plant i gyd i ddathlu gyda'u tad, ond gwrthodof ef i'w gadael i ddychwelyd i Lundain wedyn. Fe erlynodd y Fonesig Althorp er mwyn cael gwarchodaeth o'i phlant, ond fe gynorthwywyd y llys i wobrwyo'r warchodaeth i'r tad gan dystiolaeth mam y Fonesig Althorp yn ei herbyn.
 
Ym 1976 priododd yr Arglwydd Spencer [[Raine, Iarlles Spencer|Raine, Iarlles Dartmouth]], unig ferch y nofelydd rhamantus [[Barbara Cartland]], ar ôl iddo achosi ysgariad yr Iarll a'r Iarlles Dartmouth. Bu Diana yn teithio ar hyd y wlad yn ystod y cyfnod hwn, gan fyw rhwng cartrefi ei rhieni, gyda'i thad yn sedd y teulu Spencer yn [[Swydd Northampton]], a gyda'i mam a oedd wedi symud i fyw i Ynys [[Seil]], oddi ar ardfordir gorllewinol yr Alban. Yn wahanol i'w brodyr a'i chwioryddid, nid oedd Diana yn cyd-dynnu gyda'i llysfam.