Hippocrates: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Golygu cyffredinol (manion), replaced: mae nhw → maen nhw using AWB
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
 
[[Meddygaeth|Meddyg]] o [[Groeg yr Henfyd|Roegwr]] oedd '''Hippocrates''' ([[Groeg]]: Iπποκράτης, 'Ippokrátēs) (?c.[[460 CC]] - [[377 CC]] neu [[359 CC]]), a aned ar ynys [[Kos]]. Fel mae [[Herodotus]] yn cael ei alw'n "Dad Hanes", gelwir Hippocrates yntau'n "Dad Meddygaeth". Hyd heddiw mae meddygon yn tyngu "Llw Hippocrataidd" wrth ymuno a'u galwedigaeth.
 
Roedd yn enwog iawn yn yr Henfyd fel ffisegydd ond ychydig sy'n hysbys amdano. Roedd yn feddyg proffesiynol a dderbynai dal am ei wasanaeth. mae'n bosibl ei fod wedi cael ei hyfforddi yn yr ''[[asklepeion]]'' yn Kos, a oedd yn adanbyddus iawn yn yr amser hwnnw. Ysgrifennai ar feddygaeth ond er bod casgliad o 72 o [[Traethawd|draethodau]] ar feddygaeth a [[llawfeddygaeth]] yn cael eu tadogi arno maen nhw bron i gyd yn waith a ysgrifenwydysgrifennwyd gan ei ddisgyblion neu ei olynwyr yn ystod y ddau gan mlynedd ar ôl ei farwolaeth.
 
Ceisiai Hippocrates wahaniaethu rhwng meddygaeth [[Gwyddoniaeth|wyddonol]] a'r feddygaeth draddodiadol a fodolai yng [[Gwlad Groeg|Ngwlad Groeg]] a gwledydd eraill, ac felly gosododd sylfeini meddygaeth fodern. Serch hynny credai fod pedwar "hiwmor" neu hylif yn bodoli yn y [[corff]] - sef [[gwaed]], [[fflem]], llysnafedd felen a llysnafedd ddu - ac yn effeithio ar ei [[iechyd]], damcaniaeth a fu'n sail i feddygaeth yn ysgolion meddygol [[Ewrop]] a'r [[Arabiaid|byd Arabaidd]] tan y cyfnod modern.
fu'n sail i feddygaeth yn ysgolion meddygol [[Ewrop]] a'r [[Arabiaid|byd Arabaidd]] tan y cyfnod modern.
 
O waith Hippocrates y daw'r ymadrodd Lladin adnabyddus ''[[Ars longa, vita brevis]]''.