Llenyddiaeth Gymraeg yr 16eg ganrif: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= }}
 
{{Llenyddiaeth Gymraeg}}
Yn '''llenyddiaeth Gymraeg yr 16g''' gwelir meddylfryd y Cymry diwylliedig, gan gynnwys eu llenorion, yn symud o'r Oesoedd Canol i'r cyfnod diweddar. Dyma'r ganrif a gynhyrchodd feirdd mawr fel [[Tudur Aled]] a [[Gruffudd Hiraethog]] a'r cyfieithiad cyntaf o'r [[Beibl]] cyfan i'r Gymraeg. Roedd ail hanner y ganrif yn arbennig yn gyfnod pan flodeuai [[dysg]] a chyhoeddwyd [[geiriadur]]on, astudiaethau ar [[rhethreg|rethreg]] a llyfrau [[gramadeg]]. Daeth y [[canu rhydd]] poblogaidd i'r amlwg yn ogystal â dirywio fu hanes y traddodiad barddol, er na chollodd y [[canu caeth]] ei blwyf yn gyfangwbl.
Llinell 22 ⟶ 21:
Cyhoeddwyd ''[[Yn y lhyvyr hwnn]]'' gan Syr [[John Price]] yn [[1546]], y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei argraffu. Dilynwyd hynny yn 1547 gan ''[[Oll Synnwyr Pen Kembero ygyd]]'' [[William Salesbury]]. Yn [[1567]] cyhoeddoedd William Salebury y [[Testament Newydd]] yn Gymraeg a chyfieithiad o'r [[Llyfr Gweddi Gyffredin]].
 
Ond ''[[Y Drych Cristianogawl]]'', gwaith y Gwrth-Ddiwygwyr, oedd y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru, a hynny yn y dirgel. [[Gruffydd Robert]] oedd yr awdwr, ac ef hefyd a ysgrifenoddysgrifennodd y ''[[Dosbarth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg]]'' yn [[1567]]. Mae awduron reciwsaidd eraill yn cynnwys [[Morys Clynnog]], awdur ''Athravaeth Gristnogavl'', a [[Rhosier Smyth]], cyfieithydd ''Gorsedd y Byd''.
 
==Llyfryddiaeth==