Bardd a hanesydd [[Cymry|Cymreig]] oedd '''David Watkin Jones''' ([[14 Chwefror]] [[1832]] – [[25 Ebrill]] [[1905]]), sy'n fwy adnabyddus wrth ei [[enw barddol]] '''Dafydd Morganwg''' (''sic'' gyda un 'n'). Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y gwerslyfr poblogaidd ar brydyddiaeth Gymraeg, ''[[Yr Ysgol Farddol]]''.
Llinell 6 ⟶ 7:
==Gwaith llenyddol==
YsgrifenoddYsgrifennodd gyfrol ar hanes [[Teyrnas Morgannwg|Morgannwg]] (1874), ond ei brif waith oedd ''[[Yr Ysgol Farddol]]'', a gyhoeddodd yn 1869.<ref name="ReferenceA"/> Bwriadwyd y llyfr i fod yn ganllaw safonol i ddeall a chyfansoddi barddoniaeth Gymraeg ar y [[mesurau caeth]]. Mae ar ffurf 'holi ac ateb' rhwng disgybl ('Ifor') ac athro ('Arthur'). Bu'n llyfr poglogaidd gan redeg i bedwar argraffiad yn oes yr awdur ei hun. Nid yw'n llyfr safonol erbyn heddiw, fodd bynnag. Un o'i ddiffygion yw'r ffaith fod yr awdur yn derbyn ffugiadau [[Iolo Morganwg]] ac yn rhoi pwyslais mawr ar "Ddosbarth Morgannwg" fel y'i ceir yn y gyfrol ''[[Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain]]'' gan Iolo. Er hynny, cymeradwyd y llyfr gan rai o feirdd amlycaf y 19eg ganrif, yn cynnwys [[Richard Davies (Mynyddog)|Mynyddog]] a [[Hwfa Môn]].<ref>''Yr Ysgol Farddol'' (4ydd argraffiad, 1904), tt. xiv-xvi.</ref>