Agricola: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Erthygl newydd using AWB
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedl dinasyddiaeth | dateformat = dmy }}
 
::''Gweler hefyd [[Agricola (gwahaniaethu)]].''
 
Milwr a gwladweinydd o [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeiniad]] oedd '''Gnaeus Julius Agricola''' neu '''Agricola''' ([[13 Mehefin]] [[40]] - [[23 Awst]] [[93]] O.C.), a aned yn nhref [[Forum Julii]] yn nhalaith [[Gallia Narbonensis]] ([[Fréjus]] heddiw, ym [[Profens|Mhrofens]], de [[Ffrainc]]). YsgrifenoddYsgrifennodd ei fab-yng-nghyfraith [[Tacitus]] fywgraffiad canmoliaethus ar Agricola, y ''[[De vita Iulii Agricolae]]'' (neu'r ''Agricola''). Dyma brif ffynhonnell ein gwybodaeth amdano, ynghyd â'r ''[[Croniclau (Tacitus)|Annales]]'' (llyfr arall gan Tacitus).
 
Gwasanaethodd ym [[Y Brydain Rufeinig|Mhrydain]], [[Asia (talaith Rufeinig)|Asia]] ac [[Aquitania]] gan ennill bri iddo'i hun. Cafodd ei ethol yn [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] yn [[77]] O.C.OC a dychwelodd i Brydain fel [[Rhestr Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain|llywodraethwr]] ar y dalaith newydd yn 77 neu [[78]], yn olynydd i [[Sextus Julius Frontinus]]. Agricola oedd yn bennaf cyfrifol am osod awdurdod Rhufain ar y [[Brythoniaid|llwythau Celtaidd ym Mhrydain]] a oedd yn dal i wrthsefyll y trefedigaethwyr Rhufeinig. Ychydig cyn iddo gyrraedd Prydain fel llywodraethwr yr oedd yr [[Ordoficiaid]] yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Cymru wedi codi mewn gwrthryfel ac wedi llwyr ddinistrio corff o ŵyr meirch. Arweiniodd Agricola ymgyrch yn eu herbyn yn syth ar ôl cyrraedd Prydain, a'u llwyr orchfygu. Yn ôl Tactitus, lladdodd bob copa gwalltog o'r llwyth, ond o ystyried natur tiriogaeth y llwyth yma prin y byddai hynny'n bosibl.
 
Yn [[80]] ac [[81]] ymestynnodd reolaeth Rhufain i dde'r [[Alban]] a gorchfygodd byddin [[Calgacus]] ym [[Brwydr Mons Graupius|Mrwydr Mons Graupius]]. Ar ôl y fuddugoliaeth honno hwyliodd â'i lynges fechan oddi amgylch arfordir gogleddol Prydain, gan brofi am y tro cyntaf ei bod yn ynys. Ond enynnodd llwyddiant Agricola genfigen [[Domitian]]us a chafodd ei alw yn ôl i [[Rhufain|Rufain]] yn [[84]].
Llinell 13 ⟶ 14:
{{Authority control}}
 
[[Categori:Milwyr Ymerodraeth Rhufain|Agricola]]
[[Categori:Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain]]
[[Categori:Genedigaethau 40|Agricola]]
[[Categori:Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain]]
[[Categori:Marwolaethau 93|Agricola]]
[[Categori:Milwyr Ymerodraeth Rhufain|Agricola]]