Ceris y Pwll: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 22:
Y mae Bran ap Bile, brenin y Brythoniaid wedi mynd i'r [[Iwerddon]] ar ymweliad a'r Llys Gwyddelig ac wedi gadael gofal dros Fôn i ddau o'i feibion Caswallon a Caradog. Yn absenoldeb Bran mae Caswallon yn penderfynu dyrchafu ei hun yn frenin Môn gan ladd Caradog, ei frawd. Mae Gwyddelod Môn yn poeni bod goruchafiaeth Caswallon dros holl Frythoniaid Môn yn gam cyntaf mewn ymgais i fod yn Frenin holl bobl yr ynys, Brythoniaid a Gwyddelod.
 
Mae y rhan fwyaf o bobl Cymru wedi derbyn y ffydd [[Cristnogaeth|Gristionogol]] erbyn cyfnod y stori, ond mae llywodraeth a dull addoli'r Eglwys Wyddelig a'r Eglwys Frythoneg yn wahanol. Mae Ceris a'r Esgob Moelmud yn poeni, pe bai Caswallon yn dod yn bennaeth yr holl ynys, byddai'n gorfodi'r drefn eglwysig Frythonig ar holl Gristnogion yr ynys. Mae Bera'r Wrach Ddu hefyd yn poeni bod Caswallon am gael gwared â holl olion yr heddhen grefydd o'r tir. Mae Bera yn dweud wrth Dona ei bod hi wedi cael rhith proffwydol yn dangos y ddwy garfan Gristnogol yn brwydro mor ffyrnig bod nhw'n difa eu hunain a bydd y Derwyddon yn dychwelyd i ail uno'r bobl o dan yr hen grefydd.
 
I osgoi rhyfel mae Caswallon yn rhoi sicrwydd i'r Gwyddelod na fydd yn ymyrryd yn eu harferion Cristionogol os ydynt yn ymostwng iddo ef fel eu gwledig ac wedi peth trafod mae'r Gwyddelod yn cytuno.