Afon Dwyryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle
| ynganiad = {{wikidata|property|P443}}
| ynganiad = {{wikidata|property|P443}}
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
}}
 
Mae '''Afon Dwyryd''' yn afon yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] yng ngogledd-orllewin [[Cymru]] sy'n llifo i'r môr gerllaw [[Porthmadog]].
 
==Cwrs==
Mae Afon Dwyryd yn tarddu i'r gogledd o [[Ffestiniog]], lle mae nentydd oddi ar lethrau'r [[Moelwyn Mawr]] yn llifo i [[Llyn Tanygrisiau|Lyn Tanygrisiau]] ac yna'n llifo o'r llyn fel Afon Goedol (yr enw lleol ar y rhan hon o'r afon). Mae Afon Bowydd yn ymuno aâ hi ac yna islaw Rhyd y Sarn [[Afon Cynfal]]. Ychydig yn ddiweddarch mae Afon Tafarn-Helyg yn ymuno aâ hi. Gerllaw [[Maentwrog]] mae [[Afon Prysor]] yn llifo i mewn iddi.
 
[[Delwedd:Afon Dwyryd.JPG|bawd|chwith|250px|ddedim|Afon Dwyryd ger Maentwrog]]
 
Yn fuan wedyn mae'r [[aber]] yn dechrau. Mae'n mynd heibio i [[Portmeirion|Bortmeirion]] ac yn fuan ar ôl hynny mae ffrwd fechan Afon y Glyn ac [[Afon Eisingrug]] yn ymuno. Gerllaw y [[môr]] mae'r aber yn ymuno ag aber [[Afon Glaslyn]] ac yn ymagor i [[Bae Ceredigion|Fae Ceredigion]].
 
==Hanes==
 
*Newid cwrs 1816
Er fod afon Ddwyryd a’i llednentydd yn symyd yn ôl a blaen ar dywod y Traeth Bach, rhwng [[Talsarnau]] i'r de a [[Penrhyndeudraeth|Phenrhyndeudraeth]] i'r gogledd, nid oedd yn mynd ond rhyw ychydig yma ac acw. Ond ar noswyl Nadolig 1816 (dyma’r “Flwyddyn heb Haf” gyda llaw, a anfarwolwyd gan [[Gwallter Mechain]], a ddilynodd ffrwydriad enwog llosgfynydd Tambora yn Ebrill 1815 ac a barodd i’r tywydd fod yn ansefydlog am beth amser wedyn) fe fu symudiad mawr anesboniadwy yng nghwrs yr afon yn y fan hon. Mae ynys fechan gron ar ganol y traeth a thŷ annedd arni o’r enw “[[Ynys Gifftan]]”. Cyn 1816 yr oedd yr afon yn rhedeg i’r môr yr ochr agosaf i Dalsarnau i’r ynys ond un noswaith (yn ôl cofnod manwl mewn hen Feibl teuluaidd ym meddiant teulu lleol) bu llif mawr, ac yn ddirybudd, fe drodd yr afon i ochr Minffordd i’r ynys gan ei ynysu o gyfeiriad cartref y perchennog. Ar yr ochr yma yn ôl pob golwg y mae wedi llifo am dros ganrif a hanner heb argoel ei bod am droi yn ôl i’r hen wely.