Gnaeus Pompeius Magnus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person, replaced: cymeryd → cymryd using AWB
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
 
Cadfridog a gwleidydd Rhufeinig oedd '''Gnaeus (neu Cnaeus) Pompeius Magnus''' ([[29 Medi]] [[106 CC]]–[[28 Medi]] [[48 CC]]).
 
Llinell 11 ⟶ 12:
Bu farw Pompeius Strabo yn [[87 CC]], yn ystod yr ymryson rhwng [[Gaius Marius]] a [[Lucius Cornelius Sulla]]. Pan ddaeth y newyddion yn [[84 CC]] fod Sulla ar fin dychwelyd i'r Eidal wedi'r rhyfel yn erbyn [[Mithridates VI, brenin Pontus|Mithridates]], brenin [[Pontus]], cododd Pompeius fyddin o dair lleng yn Picenum i'w gefnogi. Enillodd ffafr Sulla, a'i perswadiodd i ysgaru ei wraig i briodi [[Aemilia Scaura]], llysferch Sulla. Dangosodd Pompeius ei hun yn gadfridog galloug yn y rhyfeloedd hyn, yn yr Eidal ac yna yn ymladd yn erbyn cefnogwyr Marius yng Ngogledd Affrica a [[Sicilia]]. Cipiodd Sicilia yn [[82 CC]].
 
Yn [[77 CC]] gadawodd yr Eidal am [[Sbaen]] i ymuno aâ [[Quintus Metellus Pius]] yn erbyn [[Quintus Sertorius]], un arall o gefnogwyr Marius. Ni chafodd lawer o lwyddiant ar y cychwyn; roedd Sertorius yn elyn anodd ei orchfygu. Fodd bynnag yn [[72 CC]] llofruddiwyd Sertorius gan un o'i swyddogion ei hun, [[Marcus Perperna Vento]], a gallodd Pompeius orchfygu Perperna y flwyddyn ddilynol i ddod a'r rhyfel yn Sbaen i ben.
 
Dychwelodd Pompeius a'i fyddin i'r Eidal yn [[71 CC]]. Roedd [[Crassus]] yn ymladd yn erbyn y caethweision dan arweiniaid [[Spartacus]], ac newydd eu gorchfygu mewn brwydr fawr. Daeth Pompeius a'i fyddin ar draws gweddillion o fyddin Spartacus a'u gorchfgu, ac yna hawlio ei fod wedi rhoi diwedd ar y rhyfel, gan ennyn cynddaredd Crassus.