Tatariaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ieithoedd Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol Golygiad symudol uwch |
B llinell doriad em |
||
Llinell 1:
[[Pobloedd Dyrcig]] sydd yn disgyn o [[nomad]]iaid a ymfudodd o [[Siberia]] i Ganolbarth Rwsia yw'r '''Tatariaid'''. Yn hanesyddol Tatar oedd yr enw cyffredinol gan Ewropeaid ar y llwythau Mongolaidd a Thyrcig a oresgynasant Ddwyrain Ewrop yn ystod y 13g, ac yn ddiweddarach neilltuwyd ei ystyr i'r rhai a chawsant eu Tyrceiddio a'u Hislameiddio. Bellach, mae Tatariaid yn cyfeirio at yr amryw grwpiau ethnig Tyrcig sydd yn dwyn yr enw
Defnyddiwyd yr enw yn gyntaf i gyfeirio at y llwythau nomadaidd, o dras Rouran o bosib, a drigasant yn nwyrain [[Llwyfandir Mongolia]], ar lannau [[Llyn Baikal]], ers y 5g. Siaradant [[iaith Dyrcaidd]], yn wahanol i [[ieithoedd Mongolaidd]] y llwythau cyfagos, y [[Mongolwyr]]. Ffurfiasant gydffederasiwn y Naw Tatar o'r 8g i'r 12g, ac mae'n bosib yr oeddynt yn perthyn i'r bobloedd Cuman a Kipchak a oedd yn ffurfio cydffederasiwn arall i'r gorllewin. Yn sgil goresgyniadau'r Mongolwyr dan [[Genghis Khan]] yn nechrau'r 13g, bu cymysgu diwylliannol ac ethnig i raddau helaeth rhwng yr amryw bobloedd Fongolaidd a Thyrcig, a chawsant i gyd eu hadnabod gan yr enw Tatariaid gan yr Ewropeaid. Wedi chwalu [[yr Ymerodraeth Fongolaidd]] yn niwedd y 13g, bu enw'r Tatariaid yn gysylltiedig yn bennaf â'r [[Llu Euraid]] yng Nghanolbarth Asia a de Rwsia. Trodd y rheiny yn [[Swnni|Fwslimiaid Swnni]] yn ystod y 14g a daeth yr elfen Dyrcig o'u diwylliant yn drech na'r etifeddiaeth Fongolaidd. Yn sgil cwymp y Llu Euraid yn niwedd y 14g, sefydlwyd [[chanaeth]]au yn Kazan ac Astrakhan ar lannau [[Afon Volga]], Sibir yng ngorllewin Siberia, a'r Crimea gan y Tatariaid. Gorchfygwyd Kazan, Astrakhan, a Sibir gan [[Tsaraeth Rwsia]] yn ystod ail hanner yr 16g. Bu'r Crimea yn wladwriaeth gaeth i'r [[Ymerodraeth Otomanaidd]] nes iddi gael ei chyfeddiannu gan [[Ymerodraeth Rwsia]] ym 1783.
|