Ferrando II, brenin Aragón: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat Tagiau: Golygiad cod 2017 |
B llinell doriad em |
||
Llinell 2:
Teyrn o [[Tŷ Trastámara|Dŷ Trastámara]] oedd '''Ferrando''' ([[Aragoneg]]: Ferrando; [[Catalaneg]]: Ferran; [[Basgeg]]: Errando neu Fernando; [[Eidaleg]]: Ferdinando; [[Sbaeneg]]: Fernando; [[10 Mawrth]] [[1452]] – [[23 Ionawr]] [[1516]]) a fu'n [[Brenin Aragón|Frenin Aragón]] dan yr enw '''Ferrando II''' o 1479 hyd at ei farwolaeth, yn [[Brenin Castilla a León|Frenin Castilla a León]], drwy ei briodas i Isabel I, dan yr enw '''Fernando V''' o 1475 i 1504, yn [[Brenin Napoli|Frenin Napoli]] dan yr enw '''Ferdinando III''' o 1504 hyd at ei farwolaeth, ac yn [[Brenin Sisili|Frenin Sisili]] dan yr enw '''Ferdinando II''' o 1468 hyd at ei farwolaeth, ac yn [[Brenin Navarra|Frenin Navarra]] dan yr enw '''Fernando I''' o 1513 hyd at ei farwolaeth. Yn yr ieithoedd [[Ffrangeg]], [[Almaeneg]], a [[Saesneg]] fe'i adwaenir gan yr enw Ferdinand.
Ganed yn Sos, [[Teyrnas Aragón]], yn fab i'r Tywysog
Priododd Ferrando â'r Dywysoges Isabel, hanner-chwaer [[Enrique IV, brenin Castilla]], yn [[Valladolid]] ar 19 Hydref 1469. Nod yr undeb oedd i gysylltu llys Aragón â Choron Castilla, ac i gadarnhau hawl Isabel i'r orsedd. Er gwaethaf cymhellion gwleidyddol y dyweddïo, cafodd Ferrando ac Isabel berthynas gariadus ond eiddig. Ar ddechrau'r briodas, bu Ferrando yn aml ar grwydr yn nhrefi Castilla neu yn ôl yn Aragón, yn pwyso ar gynghreiriaid pendefigaidd ac yn brwydro ar faes y gad. Digiodd Ferrando fywyd cysurus ei wraig yn y cyfnod hwn, a byddai'n mercheta ar ei deithiau ac yn cenhedlu o leiaf dwy ferch anghyfreithlon. Cawsant bump o blant: [[Isabel, brenhines Portiwgal|Isabel]] (1470–98), [[Juan, Tywysog Astwrias|Juan]] (1478–97), [[Juana I, brenhines Castilla|Juana]] (1479–1555), [[María, brenhines Portiwgal|María]] (1482–1517), a [[Catrin o Aragón|Catalina]] (1485–1536). Yn sgil marwolaeth Enrique IV heb epil ar 11 Rhagfyr 1474, ansicr oedd olyniaeth Coron Castilla. Yn [[Segovia]] drennydd, datganodd Isabel ei hunan yn Frenhines Castilla a León, a rhuthrodd Ferrando yno i wasanaethu yn frenin cydweddog iddi. Gwrthryfelodd cefnogwyr yr ymhonwraig [[Joanna la Beltraneja]]
Ers cychwyn y cyd-deyrnasiad, ymdrechodd Ferrando ac Isabel i atgyfnerthu safle'r [[Eglwys Gatholig]] yn Castilla, er mwyn unioni'r sefyllfa grefyddol ar draws Sbaen ac i ennill cefnogaeth oddi ar Rufain. Sefydlwyd [[Chwilys Sbaen]] ym 1478 i erlid anghredinwyr, ac ym 1492 cyhoeddwyd Gorchymyn Alhambra ym 1492 i yrru'r [[Iddewon]] allan o deyrnasoedd Castilla ac Aragón. Ym 1482, cychwynnodd Ferrando ar ymgyrch ddeng mlynedd yn erbyn [[Emirad Granada]], i gwblhau'r ''[[Reconquista]]'' a gyrru'r [[Mwriaid]] ymaith o [[Penrhyn Iberia|Benrhyn Iberia]]. Ar 2 Ionawr 1492 ildiodd y Mwriaid a chyfeddiannwyd tiroedd Granada yn rhan o Deyrnas Castilla. Yn fuan wedi gorchfygiad Granada, rhoddwyd cefnogaeth Ferrando ac Isabel i fordeithiau [[Cristoforo Colombo]] ar draws [[Cefnfor yr Iwerydd]]. Oherwydd ei ymdrechion dros y ffydd, a'i ymyrraeth yn ne'r Eidal, urddwyd Ferrando gyda'r teitl anrhydeddus "y Catholig" gan y [[Pab Alecsander VI]] ar 2 Rhagfyr 1496, a gelwir Ferrando ac Isabel yn "y Teyrnoedd Catholig".<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Ferdinand-II-king-of-Spain |teitl=Ferdinand II, king of Spain |dyddiadcyrchiad=4 Ebrill 2021 }}</ref>
|