Glynceiriog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Yn trwsio ailgyfeiriad dwbl i Llansanffraid Glyn Ceiriog
Tagiau: Redirect target changed
Removed redirect to Llansanffraid Glyn Ceiriog
Tagiau: Tynnu ailgyfeiriad Dolenni gwahaniaethu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle
#ail-cyfeirio [[Llansanffraid Glyn Ceiriog]]
| suppressfields = cylchfa
| ynganiad = {{wikidata|property|P443}}
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
}}
 
Pentref yng [[Cymuned (Cymru)|nghymuned]] [[Llansanffraid Glyn Ceiriog]], [[Wrecsam (sir)|mwrdeistref sirol Wrecsam]], [[Cymru]], yw '''Glynceiriog'''<ref>{{Cite web|url=https://llyw.cymru/rhestr-o-enwau-lleoedd-safonol-cymru|title=Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru|date=14 Hydref 2021|website=Llywodraeth Cymru}}</ref> neu '''Glyn Ceiriog'''.<ref>[https://www.britishplacenames.uk/glyn-ceiriog-wrexham-sj202380#.YmXQri8w0vI British Place Names]; adalwyd 24 Ebrill 2022</ref> Mae ganddo gysylltiad pwysig â [[Diwydiant llechi Cymru|diwydiant chwareli llechi]]. Gorwedd y pentref ar lan [[afon Ceiriog]] a'r ffordd B4500, 6.5 milltir (10&nbsp;km) i'r gorllewin o'r [[Y Waun|Waun]] a 3.5 milltir (5.5&nbsp;km) i'r de o [[Llangollen|Langollen]]. Yn wleidyddol mae'n rhan o ward [[Dyffryn Ceiriog]], yn [[De Clwyd (etholaeth Cynulliad)|etholaeth cynulliad De Clwyd]] a'r [[De Clwyd (etholaeth seneddol)|etholaeth seneddol o'r un enw]]. Roedd chwareli [[llechi]] estynedig yno ac adeiladwyd [[Tramffordd Dyffryn Glyn]] i gymryd y llechi i lanfa ar [[Camlas Undeb Swydd Amwythig|Gamlas Undeb Swydd Amwythig]] ac yn nes ymlaen i gyfnewid traciau gyda [[Rheilffordd y Great Western]] o [[Caer|Gaer]] i [[Amwythig]].
 
==Daearyddiaeth a gweinyddiaeth==
[[Delwedd:Glynceiriogvillageview.jpg|250px|bawd|dim|Golygfa ar bentref Glynceiriog]]
===Hanes gweinyddol===
Yn hanesyddol, gweinyddwyd Glyn Ceiriog fel [[plwyf]] ac yn nes ymlaen fel plwyf gweinyddol Llansanffraid Glyn Ceiriog. O ganol y [[16g]] hyd [[1974]], llywodraethwyd Glyn Ceiriog gan sir weinyddol [[Sir Ddinbych]], a rannwyd yn sawl [[ardal wledig]]. Rhwng [[1895]] a [[1935]], roedd Glyn Ceiriog yn rhan o Ardal Wledig y Waun, a gyfunwyd gydag Ardal Wledig [[Llansilin]] yn [[1935]] i greu Ardal Wledig Ceiriog. Roedd Glyn Ceiriog yn rhan o Ardal Wledig Ceiriog wedyn o [[1935]] hyd [[1974]].
 
Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a chyfunwyd Glyn Ceiriog ag Ardal [[Glyndŵr]] yn sir newydd [[Clwyd]]. Cafwyd wared ar sir Clwyd ac Ardal Glyn Dŵr yn 1996, a daeth Glyn Ceiriog yn rhan o awdurdod unedol [[Wrecsam (sir)|Bwrdeistref Sirol Wrecsam]], fel y mae hyd heddiw.
 
===Cynrychiolaeth wleidyddol===
Gweinyddir Glynceiriog o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a drodd yn awdurdod unedol yn 1998. Mae'n rhan o [[ward]] [[Dyffryn Ceiriog]], ac mae ganddi gynghorwr annibynnol.
 
Mae yn etholaeth cynulliad [[De Clwyd (etholaeth Cynulliad)|De Clwyd]] a chynrychiolir yng [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Nghynulliad Cenedlaethol Cymru]] o [[1999]] hyd [[2011]] gan [[Karen Sinclair]] ac ers [[2011]] gan [[Ken Skates]], y ddau yn aelod o'r [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]].
 
Saif mewn etholaeth seneddol o'r enw [[De Clwyd (etholaeth seneddol)|De Clwyd]] a chynrychiolir yn [[Senedd y Deyrnas Unedig]] o [[1997]] hyd [[2010]] gan [[Martyn Jones]] ac ers [[2010]] gan [[Susan Elan Jones]], y ddau yn aelod o'r [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]].
 
===Daearyddiaeth/daeareg===
Lleolir y pentref yn [[Dyffryn Ceiriog|Nyffryn Ceiriog]], dyffryn a grewyd gan [[Afon Ceiriog]]. Yn ddaearegol, mae gan y dyffryn stratau [[Ordoficiaidd]] a [[Silwriaidd]]. Mae'r pridd yn fân ac yn [[mawn|fawnog]].
 
==Pobl o Lynceiriog==
Mae sawl llenor wedi byw yn neu'n agos i Lynceiriog yn y gorffennol, yn cynnwys:
 
*[[Guto'r Glyn]] (1435–1493) – mae cysylltiadau rhwng y bardd canoloesol a Glyn Ceiriog
*[[Huw Morus]] ([[Eos Ceiriog]]) (1622–1709) – ganed a bu'n byw ger Glyn Ceiriog
*[[Robert Elis (Cynddelw)]] (1812–1875) – ieithydd a bardd buddugol yr [[Eisteddfod]]; bu'n weinidog yng Nghapel Annibynnol Bedyddwyr Cymru yng Nglyn Ceiriog o 1838 hyd 1840
*[[Islwyn Ffowc Elis]] – treuliodd y nofelydd y rhan fwyaf o'i blentyndod ar fferm ger Glyn Ceiriog, er y ganed ef yn [[Wrecsam]]
*[[Gwilym Thomas Hughes]] – dramodydd
 
{{clirio}}
 
==Oriel==
<gallery>
File:Girl with a dog, Llansanffraid Glynceiriog? NLW3363932.jpg|Merch a'i chi yng Nglyn Ceiriog oddeutu 1885
Nantyr Hall, Llansanffraid Glyn Ceiriog NLW3361512.jpg|Neuadd "Nantyr"; oddeutu 1875
</gallery>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Trefi Wrecsam}}
 
[[Categori:Pentrefi Wrecsam]]